Gorchymyn prynu gorfodol
Er mwyn cyflawni’r prosiect atgyfnerthu ac adnewyddu o fewn yr amserlenni gofynnol, mae angen i ni gaffael yr holl dir a’r hawliau tir sy’n angenrheidiol i wneud y gwaith.
Er mwyn cefnogi’r gwaith o gaffael y tir a’r hawliau gofynnol, gwnaethom Orchymyn Prynu Gorfodol 2026 National Grid Electricity Transmission plc (Prosiect Atgyfnerthu ac Adnewyddu Pentir i Drawsfynydd) (“y Gorchymyn”) ar 15 Hydref 2026 er mwyn gallu cyflawni a gweithredu’r prosiect rhwng Pentir a Thrawsfynydd (“y Prosiect”).
Mae National Grid Electricity Transmission plc (“NGET”) wedi parhau i ymgysylltu â’r holl dirfeddianwyr rydym ni’n gwybod y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw a, lle bo hynny’n berthnasol, y tirddeiliaid, i drafod yr hawliau a’r cynigion angenrheidiol i gyflawni’r Prosiect. Byddai’n well gan NGET sicrhau tir a hawliau newydd drwy gytundeb gwirfoddol, ac mae hynny wedi bod yn wir erioed. Fodd bynnag, er bod cynnydd da wedi’i wneud, nid yw NGET wedi gallu sicrhau’r holl dir a hawliau sydd eu hangen arno i gyflawni’r Prosiect. Yn unol â hynny, bu’n rhaid i NGET wneud gorchymyn prynu gorfodol.
Felly, dim ond y tir lle mae angen hawliau arnom ar gyfer y Prosiect rydym wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn. Os yw trafodaethau gyda thirfeddianwyr i gytuno ar Benawdau’r Telerau yn parhau, neu os nad yw trafodaethau gyda chyfreithwyr i gwblhau’r cytundebau cyfreithiol gwirfoddol wedi’u cwblhau, bydd NGET yn parhau i negodi mewn ffordd gydweithredol i ddod â chytundebau gwirfoddol i ben. Pan fydd NGET wedi cwblhau cytundeb, nid yw’n disgwyl y bydd angen iddo ddibynnu ar y Gorchymyn. Mae bob amser yn well gan NGET wneud hyn yn hytrach na dibynnu ar bwerau gorfodi.
Dogfennau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol
Mae copi o’r hysbysiad sy’n cadarnhau gwneud y Gorchymyn wedi cael ei gyflwyno i bawb sydd â buddiant yn y tir sydd wedi cael eu cynnwys yn y Gorchymyn. Mae copi o’r hysbysiad ar gael yma. Fe’i cyhoeddwyd hefyd yn y papur newydd lleol, y Daily Post, sy’n cylchredeg yng nghyffiniau’r tir. Mae hysbysiadau safle hefyd wedi cael eu codi bob hyn a hyn yn y tir sydd wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn neu gerllaw iddo.
Mae copi o’r Gorchymyn sydd wedi’i gadarnhau a’r mapiau sy’n dangos y tir sydd wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn ar gael ar y wefan hon ac maent ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yn y lleoliadau canlynol:
Lleoliad Adneuo | Cyfeiriad Lleoliad Adneuo | Oriau Agor |
| Llyfrgell Porthmadog | Stryd Y Llan, Porthmadog, LL49 9HX | Dydd Llun: 10yb – 6.30yp Dydd Mawrth a dydd Mercher: 10yb – 6yp Dydd Iau: 10yb – 1yp, ac 1yp – 6yp (hunanwasanaeth yn unig) Dydd Gwener: 10yb – 5yp a 5yp – 6yp (hunanwasanaeth yn unig) Dydd Sadwrn: 10yb – 12.30yp |
| Llyfrgell Cricieth | Encil y Coed, Stryd Fawr, Cricieth, LL52 0RN | Dydd Mercher a dydd Iau: 9.30yb – 12yp ac 1yp – 4yp Dydd Gwener: 2yp – 5yp |
| Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF | Dydd Llun i ddydd Iau: 9yb – 5yp Dydd Gwener: 9yb – 4.30yp |
Gan fod NGET wedi gwneud y Gorchymyn erbyn hyn, bydd yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net i’w gadarnhau. Mae gennych gyfle i wrthwynebu’r Gorchymyn fel yr esbonnir yn yr Hysbysiad amgaeedig. Rhaid gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r Gorchymyn yn ysgrifenedig a’i gyflwyno drwy e-bost i: [email protected] neu ei anfon drwy’r post wedi’i farcio at sylw: Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Tîm Cyflawni Cynllunio Seilwaith Ynni, 3-8 Whitehall Place, Llundain, SW1A 2AW erbyn dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026 a dylai nodi teitl y Gorchymyn, sail y gwrthwynebiad, cyfeiriad y gwrthwynebydd a’i fuddiannau yn y tir. Os nad ydych yn dymuno gwrthwynebu, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach a byddwn yn darparu diweddariadau wrth i’r Gorchymyn fynd rhagddo
Yn dibynnu ar nifer a natur y gwrthwynebiadau a ddaw i law, efallai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu cynnal ymchwiliad lle bydd Arolygydd yn clywed tystiolaeth gan NGET ac unrhyw wrthwynebwyr cyn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch a ddylid cadarnhau’r Gorchymyn.
Mae rhagor o fanylion am y broses prynu gorfodol ar gael yng Nghanllawiau’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar Brynu Gorfodol Mehefin 2026 sydd ar gael i’w gweld a’i lawrlwytho am ddim ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/compulsory-purchase-process-guidance
Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi cynhyrchu llyfrynnau a chanllawiau ar sut mae’r broses prynu gorfodol yn gweithio o’r enw “Prynu Gorfodol ac Iawndal” a restrir isod:
Llyfryn Rhif 1 – Gweithdrefnau Prynu Gorfodol
Llyfryn Rhif 2 – Iawndal i Dirddeiliaid a Pherchnogion Busnes
Llyfryn Rhif 3 – Iawndal i Dirddeiliaid a Pherchnogion Amaethyddol
Llyfryn Rhif 4 – Iawndal i Dirddeiliaid a Pherchnogion Preswyl
Mae copïau o’r llyfrynnau hyn ar gael yn rhad ac am ddim gan: Ministry for Housing, Communities and Local Government, 2 Marsham Street, London SW1P 4DF.
Yn ogystal, mae’r llyfrynnau ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho am ddim ar-lein yn: Canllawiau prynu gorfodol - GOV.UK (www.gov.uk)
Fel sy’n cael ei egluro uchod, mae NGET yn dal wedi ymrwymo i sicrhau’r tir a’r hawliau sydd eu hangen ar gyfer y Prosiect yn wirfoddol. Os hoffech barhau neu ddechrau trafodaethau ynghylch caffael eich buddiannau tir yn wirfoddol, cysylltwch â’r asiantau a benodwyd gan NGET, Fisher German, drwy e-bost [email protected], dros y ffôn: 01565 757970 neu’n ysgrifenedig i’r cyfeiriad canlynol:
Fisher German
d/o NGET Pentir-Trawsfynydd
Royal Court
Charles House
1-2 Tatton St
Knutsford
WA16 6EN
Ar wahân i’r broses gwrthwynebu, os hoffech chi siarad â rhywun am y Gorchymyn, neu os oes gennych chi gwestiynau yn Gymraeg neu yn Saesneg am roi hawliau’n wirfoddol neu unrhyw gwestiynau cyffredinol, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch: 0800 915 2485.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â ni fel hyn:
- Ein ffonio ni ar: 0800 915 2485
- Anfon neges ebost i: [email protected]