Y prosiect
Gweld ein cynlluniau a chyfarfod â'n tîm – Mai 2025
Wrth i ni ddatblygu ein prosiect, rydym wedi bod yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, yn cynnwys perchnogion tir a ffermwyr, i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw effeithiau.
Hyd yma, rydym wedi cynnal archwiliadau ac arolygon helaeth ar y tir, yn cynnwys cydweithio ag arbenigwyr amgylcheddol er mwyn sicrhau ein bod yn deall ardal y prosiect a'i nodweddion.
Rydym yn parhau i ymwneud â rhanddeiliaid arbenigol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, cynghorau tref a chymuned yn yr ardal, Parc Cenedlaethol Eryri a Cyfoeth Naturiol Cymru ymhlith eraill.
Erbyn hyn. rydym yn rhannu ein planiau cychwynnol ac yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn y gymuned er mwyn rhoi gwybod i bobl am ein cynlluniau diweddaraf.
Mae angen i National Grid atgyfnerthu ac adnewyddu rhannau o'r rhwydwaith trydan foltedd uchel presennol yng ngogledd Cymru. Mae'r gwaith hwn yn rhan o ymgyrch Uwchraddio'r Grid – y cynllun mwyaf ers cenedlaethau i adnewyddu'r grid.
Galluogi Cymru i gael dyfodol o ynni glân
Mae angen i National Grid atgyfnerthu ac adnewyddu rhannau o'r rhwydwaith trydan foltedd uchel yng ngogledd Cymru.
Mae dulliau cynhyrchu trydan yn y Deyrnas Unedig yn newid yn gyflym i system ynni lanach, fwy fforddiadwy a chadarnach ar gyfer y dyfodol.
Rhagwelir y bydd y galw am drydan yn dyblu, o leiaf, erbyn 2050 a ninnau'n defnyddio mwy o ynni glân i wresogi ein cartrefi, gyrru cerbydau trydan a phweru ein diwydiant.
Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn diwallu swm sy'n cyfateb i 70 y cant o'r galw am drydan yng Nghymru erbyn 2030. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050, a'i huchelgais yw cysylltu 50 GW o ynni gwynt a gynhyrchir ar y môr erbyn 2030.
Adeiladwyd rhan fawr o'r system drawsyrru bresennol yn yr 1960au a'i chynllunio i gysylltu trydan wedi'i gynhyrchu'n bennaf mewn gorsafoedd pŵer glo â chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Er mwyn cysylltu ffynonellau newydd o ynni adnewyddadwy â’r rhwydwaith, mae angen i ni atgyfnerthu ac adnewyddu'r rhwydwaith trydan presennol rhwng Pentir a Thrawsfynydd. Bydd hyn yn helpu i gadw'r rhwydwaith yn gadarn trwy sicrhau y gellir cyflenwi mwy o ynni glân i gartrefi a busnesau.
Mae hwn yn brosiect mawr, ac mae'n hanfodol bod y cysylltiad wedi'i atgyfnerthu erbyn 2030.
Mae'n rhan o ymgyrch Uwchraddio'r Grid, sef y cynllun mwyaf ers cenedlaethau i adnewyddu'r grid trydan ac mae'n cynnwys 17 o brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru a Lloegr. Symud i gyfeiriad trydan gwyrdd yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod ynni'n fforddiadwy, a disgwylir i ynni adnewyddadwy cynhenid helpu i ostwng biliau ynni yn y tymor hir.
Cewch ddarllen mwy am ein gwaith a'n cynlluniau diweddaraf yma.
Ar hyn o bryd, disgwyliwn i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2026, ond mae hyn yn dibynnu ar gael caniatâd cynllunio, trwyddedau a chytundebau eraill.
Llinell amser y prosiect

Y mathau o ganiatâd angenrheidiol
Bydd angen caniatâd cynllunio arnom ar gyfer gwahanol elfennau ein prosiect, gan Gyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. Bydd angen cydsyniad ar gyfer y gwaith hefyd gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ).
Cyn i ni gyflwyno ein ceisiadau, byddwn yn cynnal Ymgynghoriad statudol Cyn Ymgeisio yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ymgynghori’n ffurfiol â pherchnogion y tiroedd dan sylw a thiroedd cyffiniol, cynghorwyr a chynghorau cymuned lleol, ynghyd ag ymgyngoreion technegol.
Bydd sylwadau a ddaw gan randdeiliaid yn cael eu hystyried yn ofalus wrth i ni gwblhau ein ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chydsyniadau cyn eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni.
Byddwn yn codi hysbysiadau yn yr ardal hefyd ac yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bawb.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â ni fel hyn:
- Ein ffonio ni ar: 0800 915 2485
- Anfon neges ebost i: [email protected]