Seilwaith newydd

Cysylltu â cheblau tanddaear newydd Eryri

Mae rhan o’r llinell uwchben sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ar draws aber afon Dwyryd a rhwng Minffordd a Llandecwyn, yn cael ei rhoi o dan y ddaear mewn twnnel ar hyn o bryd.

Mae'r gwaith yn rhan o'n prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (EVIP), sydd ar wahân ac sydd eisoes ar waith.

Bydd angen i ni gysylltu'r ceblau newydd â cheblau tanddaear newydd Eryri. Er mwyn gwneud hyn yn ddiogel, bydd angen i ni osod cyfarpar o'r enw Compownd Pennau Selio Ceblau i'r gogledd o adeilad newydd pen y twnnel ym Minffordd. Mae hyn yn golygu hefyd y gallwn gael gwared â'r Compownd Pennau Selio Ceblau presennol (isod) gerllaw.

Cewch ddysgu mwy am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ar wefan y prosiect.

Image
Minffordd Area

Is-orsaf newydd a chysylltiad wedi'i atgyfnerthu ger Bryncir

Ar hyn o bryd, rydym ni'n defnyddio un ochr i’r llinell uwchben rhwng Pentir a Thrawsfynydd, ac mae SP Energy Networks yn defnyddio’r ochr arall i gyflenwi trydan i gartrefi a busnesau lleol.

Mae angen uwchraddio'r rhwydwaith fel y gall gludo trydan ychwanegol a gaiff ei gynhyrchu, yn cynnwys trydan o ffynonellau adnewyddadwy newydd yn y gogledd.

Fel rhan o hyn, byddwn yn newid ac yn uwchraddio un ochr i’r llinell uwchben rhwng Bryncir a Thrawsfynydd.

Bydd angen adeiladu is-orsaf newydd hefyd i’r de o Fryncir i drosi’r trydan i foltedd is, gyda chysylltiad byr i rwydwaith lleol SP Energy Networks.

Mae gennym ganiatâd cynllunio eisoes gan Gyngor Gwynedd, ers 2017, ar gyfer is-orsaf newydd i'r de o Fryncir. Fodd bynnag, rydym yn ailymgeisio fel rhan o'r prosiect hwn gan fod angen i ni newid ychydig ar y dyluniad.

Bydd ein gwaith ar yr is-orsaf newydd yn cynnwys cael gwared ag un o'r peilonau presennol a rhoi un arall gerllaw yn ei le. Bydd ein gwaith ar yr is-orsaf newydd yn cynnwys tynnu un o'r peilonau presennol i lawr a rhoi un arall gerllaw yn ei le.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â ni fel hyn: