Gwaith atgyfnerthu ac adnewyddu
Mae'r rhwydwaith presennol yn rhedeg tua'r de ar linellau uwchben o'r is-orsaf ym Mhentir, cyn mynd o dan y ddaear yn y Wern, gan basio rhwng Porthmadog a Thremadog a dod allan uwchlaw'r ddaear eto yn y Garth ger Minffordd.
Mae’r llinell yn parhau i redeg uwchben ar beilonau i Drawsfynydd, er bod rhan ohoni’n cael ei rhoi o dan y ddaear fel rhan o’n prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (EVIP). Cewch ddysgu mwy am brosiect EVIP ar wefan y prosiect.
Mae ein gwaith atgyfnerthu ac adnewyddu'n cynnwys:
- Gosod ceblau tanddaear ac offer newydd a newid hen rai ar safleoedd is-orsafoedd presennol Pentir a Thrawsfynydd
- Adeiladu is-orsaf newydd i'r de o Fryncir
- Newid un ochr i'r llinell uwchben rhwng Bryncir a Thrawsfynydd
- Newid y ceblau tanddaear sy'n rhedeg o dan aber afon Glaslyn ym Mhorthmadog, rhwng y Wern a Minffordd
- Cysylltu ceblau newydd Glaslyn â cheblau'r EVIP ym Minffordd ag offer newydd, a chael gwared ag offer presennol gerllaw.
Ni fydd angen i ni adeiladu peilonau ychwanegol fel rhan o'r prosiect hwn
Newid ac uwchraddio'r ceblau tanddaear presennol
Mae'r ceblau tanddaear presennol yn rhedeg o'r Wern i'r Garth rhwng Porthmadog a Thremadog, ac o dan aber afon Glaslyn. Cawsant eu gosod tua diwedd yr 1970au ac maent yn cael eu defnyddio byth ers hynny.
Erbyn hyn, maent yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol ac mae angen eu newid er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau trydan i’r ardal leol a’r tu hwnt yn dal yn gadarn.
Oherwydd y cynnydd yn yr ynni a gynhyrchir yng ngogledd Cymru mae angen i ni newid y ceblau presennol a gosod rhai ychwanegol fel bod y rhan hon o'r rhwydwaith yn gallu cludo mwy o drydan. Gan na allwn ddatgysylltu'r ceblau presennol tra byddwn yn gosod y rhai newydd, mae angen i ni ganfod llwybrau gwahanol ar gyfer y ceblau newydd.
Fel sy'n wir am y cysylltiad presennol, bydd angen i'r ceblau newydd fynd o dan ran o aber afon Glaslyn a Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn.
Gwyddom fod hon yn ardal heriol ac amgylcheddol-sensitif sy’n cael ei gorlifo’n rheolaidd ac rydym yn darparu ar gyfer y materion sensitif hyn wrth ddylunio'r prosiect.
Yn ogystal, bydd angen i’r ceblau groesi’r cae i’r gorllewin o gylchfan yr A487 sy'n cysylltu Stryd Fawr Porthmadog, pen uchaf cae chwarae Ysgol Eifionydd, dwy reilffordd dreftadaeth Porthmadog, a’r brif reilffordd.
Rydym ni a'r sefydliadau perthnasol eisoes wedi bod yn trafod y cynlluniau hyn sy'n gymhleth o safbwynt technegol, fel y gallwn wneud y gwaith yn ddiogel ac yn sensitif. Byddwn hefyd yn cydweithio'n agos â chymunedau a busnesau lleol er mwyn creu cyn lleied o anhwylustod ag y gallwn.
Mewn rhai o'r mannau hyn, byddwn yn defnyddio dull diogel a phrofedig o'r enw Drilio Cyfeiriadol Llorweddol (HDD). Mae hyn yn golygu drilio twll turio o dan rwystr, gosod dwythell ynddo a thynnu'r cebl newydd drwodd. Mae hon yn dechneg fanwl yr ydym wedi'i defnyddio'n llwyddiannus ar lawer o brosiectau eraill ledled y DU.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â ni fel hyn:
- Ein ffonio ni ar: 0800 915 2485
- Anfon neges ebost i: [email protected]