Yn lle mae Uwchraddio’r Grid yn digwydd?
Dysgwch fwy am y prosiectau sy'n llunio Uwchraddio’r Grid. Archwiliwch gynigion yn fanwl a chymerwch ran mewn ymgynghoriadau lleol i ddweud eich dweud am sut maent yn datblygu.
Gweithgaredd yn eich ardal chi
Archwiliwch y map i ddod o hyd i wybodaeth am ein prosiectau cyfredol, gan gynnwys ein digwyddiadau ymgynghori. Os yw prosiect yn digwydd yn eich ardal leol, mae croeso i chi ddod draw, darganfod mwy a dweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl.
Gweithgaredd ehangach
Mae National Grid wrth wraidd trawsnewid ynni’r DU, gyda chynllun i fuddsoddi tua £31 biliwn yn ein rhwydwaith trawsgludo trydan dros y pum mlynedd nesaf hyd at 2031.
Beth ydyn ni'n ei uwchraddio?
Mae ein prosiectau yn disgyn i dri chategori eang: cysylltiadau môr a morol newydd, seilwaith newydd ar y tir, ac uwchraddio seilwaith presennol. Gyda'i gilydd, byddant yn ein helpu i symud mwy o ynni glân o ffynonellau mwy fforddiadwy o amgylch y wlad. Edrychwch ar y mathau o dechnoleg rydyn ni'n eu defnyddio isod.
Cwestiynau Cyffredin
Eich cwestiynau am yr uwchraddiadau
1. I gysylltu ffynonellau pŵer glân newydd
Adeiladwyd grid trydan y DU yn wreiddiol i gysylltu'r gorsafoedd pŵer glo a nwy a adeiladwyd ar y gwythiennau glo a oedd yn rhedeg i lawr canol y wlad, drwy gadarnleoedd diwydiannol Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr.
Gan ein bod ni bellach yn cael mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy, mae angen i hyn newid. Felly mae angen seilwaith newydd sylweddol i gysylltu'r ynni adnewyddadwy hwn o lle mae'n cael ei gynhyrchu i lle mae ei angen.
Yn benodol, bydd angen dod â'r ynni ychwanegol sy'n cael ei gynhyrchu ar y môr i mewn i'r tir, sy'n golygu bod angen llinellau trawsyrru newydd er mwyn i'r ynni hwn gael ei ddefnyddio i bweru cartrefi a busnesau'r DU.
2. I drawsyrru mwy o drydan glân o amgylch y wlad
Nid yn unig y mae dulliau Prydain o gynhyrchu pŵer yn newid yn ddramatig, ond disgwylir i'r galw am drydan gynyddu 50% erbyn 2035 a dyblu erbyn 2050, wrth i ni ddatgarboneiddio'r ynni a ddefnyddir ar gyfer pethau fel gwresogi a thrafnidiaeth.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gysylltu 40GW o wynt ar y môr â'r grid trydan erbyn 2030, gan wneud cyfanswm o 50GW i gyrraedd targedau'r llywodraeth. Mae hynny bron yn ddigon i bweru pob cartref ym Mhrydain Fawr ac mae'n cyfateb i gymryd 5.2 miliwn o geir petrol neu disel oddi ar y ffordd, neu amsugniad carbon 509 miliwn o goed dros flwyddyn.
Mae hynny'n golygu y bydd angen i'n rhwydwaith o geblau, peilonau ac is-orsafoedd drawsyrru’r ynni adnewyddadwy hwn o lle mae'n cael ei gynhyrchu i lle mae ei angen - ein cartrefi, ein busnesau a'n cymunedau.
Nid oes gan y seilwaith presennol y gallu i gludo faint o ynni glanach a fydd yn cael ei gynhyrchu. O ganlyniad, mae angen i ni uwchraddio ein rhwydwaith trydan.
Adeiladwyd grid trydan y wlad yn wreiddiol gyda'r bwriad o drawsyrru trydan a grëwyd o orsafoedd pŵer glo a nwy. Ond wrth i'r DU symud i ffwrdd o danwydd ffosil a chynyddu faint o ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu, byddwn i gyd yn defnyddio mwy o drydan nag erioed o'r blaen i bweru ein cartrefi, ein busnesau a'n trafnidiaeth.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni adeiladu seilwaith trawsyrru trydan newydd sylweddol, yn ogystal â gwneud newidiadau eraill i'n grid, i helpu'r DU i drosglwyddo i ddyfodol ynni glanach.
Mae hyn yn cynnwys seilwaith newydd i ddod ag ynni sy'n cael ei gynhyrchu ar y môr – fel allan ym Môr y Gogledd gan dyrbinau gwynt – i mewn i'r tir er mwyn ei gysylltu â'r grid.
Yn syml, mae pŵer o'r gwynt a'r haul yn rhad, llawer rhatach na nwy wedi'i fewnforio. Canfu astudiaeth ddiweddar mai ynni solar a gwynt bellach yw'r ffynonellau mwyaf fforddiadwy o drydan newydd yn 82% o'r byd.
Parhau â'n cynnydd tuag at drydan gwyrdd yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau diogelwch ynni a fforddiadwyedd. Byddwn yn llai dibynnol ar fewnforio nwy drud i gynhyrchu trydan a gallwn ddefnyddio ynni adnewyddadwy rhatach yn lle hynny, gan arwain at filiau ynni mwy fforddiadwy yn y tymor hir.
Hyd yn oed pan fyddwch chi'n newid i dariff gwyrdd – un sy'n addo 100% trydan adnewyddadwy, neu rywfaint o nwy adnewyddadwy – nid yw faint o ynni adnewyddadwy sy'n llifo i'ch cartref yn newid. Gyda'r tariffau hyn, bydd eich cyflenwr yn gyffredinol yn prynu digon o ynni adnewyddadwy i gwmpasu’r hyn rydych chi'n ei ddefnyddio i ariannu cynhyrchu yn y dyfodol, neu mae'n buddsoddi mewn cynlluniau i wrthbwyso allyriadau carbon a gynhyrchir o'r ynni rydych chi'n ei ddefnyddio, fel plannu coed.
Er mwyn darparu mwy o ynni adnewyddadwy i gartrefi yng Nghymru a Lloegr, mae angen i ni uwchraddio'r grid trydan.
Bydd llawer o'r ynni glân yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, naturiol fel ynni gwynt, solar a hydro (dŵr).
Ffynhonnell arall o ynni glân yw drwy geblau tanfor foltedd uchel a elwir yn rhyng-gysylltwyr, sy'n cysylltu systemau trydan gwledydd cyfagos ac yn caniatáu iddynt rannu pŵer sy’n weddill. Mae hyn yn sicrhau nad yw unrhyw ynni adnewyddadwy yn cael ei wastraffu ac yn gwneud system bŵer wyrddach, fwy diogel ar y ddau ben.
Drwy uwchraddio'r rhwydwaith trydan, gallwn gysylltu mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy a chludo trydan glân o amgylch y wlad yn fwy effeithlon. Bydd hyn yn helpu i gefnogi system ynni ddiogel, ddibynadwy a hyblyg ar gyfer y dyfodol. Nid yw National Grid yn gosod prisiau ynni nac yn bilio cwsmeriaid yn uniongyrchol, felly ni allwn bennu'r effaith gyffredinol ar filiau ynni cartrefi. Fodd bynnag, mae pob buddsoddiad rhwydwaith yn cael ei adolygu'n annibynnol gan Ofgem, a gall cryfhau'r rhwydwaith helpu i leihau aneffeithlonrwydd sy'n ychwanegu costau i'r system ynni.
Wrth i ni barhau i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a chynyddu cynhyrchu ynni glân, byddwn yn defnyddio mwy o drydan nag erioed. Bydd pethau sy'n cael eu pweru gan nwy ar hyn o bryd fel gwresogi a choginio yn cael eu pweru mwy a mwy gan drydan sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau glanach. Mae hynny'n golygu y bydd angen grid arnom sy'n gallu cario'r holl drydan ychwanegol hwn i lle bynnag y gallai fod ei angen arnom.
Yn y Gymuned
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am brosiectau Uwchraddio’r Grid sy'n digwydd yn eich ardal chi drwy lywio'r map rhyngweithiol ar frig y dudalen hon. Mae hyn yn cynnwys manylion digwyddiadau ymgynghori, felly os ydych chi'n gweld bod prosiect yn digwydd yn eich ardal chi, mae croeso i chi ddod draw, darganfod mwy a dweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl.
Pan fyddwn yn adeiladu seilwaith newydd uwchben y ddaear, byddwn yn darparu cronfa gymunedol pwrpasol ar gyfer yr ardaloedd agosaf at ein gwaith. Mae'r cronfeydd yn amrywio o £200,000 i'r miliynau, yn dibynnu ar fath a graddfa'r prosiect.
Wedi'i siapio gan y gymuned, ar gyfer y gymuned, bydd y cronfeydd hyn yn cael eu cynllunio i adlewyrchu anghenion lleol ac yn cael eu datblygu yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen Cronfeydd Cymunedol.
Keep up to date
To find out more information about The Great Grid Upgrade, register for updates or follow us on social media.