Pweru'r pethau rydych chi'n eu caru

Uwchraddio’r Grid yw'r uwchraddiad mwyaf o'r grid trydan ers cenedlaethau. Mae ein prosiectau seilwaith ledled Cymru a Lloegr yn helpu i gysylltu ffynonellau mwy fforddiadwy o ynni lleol ac adnewyddadwy â'ch cartrefi a'ch busnesau.

Craffu ar brosiect: Cyswllt Gorllewinol 2

Mae Cyswllt Gorllewinol 2 yn gynnig ar y cyd rhwng National Grid a Scottish Power Transmission ar gyfer cysylltiad cerrynt uniongyrchol foltedd uchel (HVDC) newydd ar y môr rhwng yr Alban a Chymru.

Bydd uwchraddio'r grid yn gwella ein dyfodol

Mae ynni yn pweru'r pethau rydyn ni'n eu caru; o'r llifoleuadau sy'n gwneud gemau gyda'r nos yn bosibl, i'r ffermydd sy'n ein bwydo a'r dechnoleg rydyn ni'n dibynnu arni. Ond mae'r ffordd rydyn ni'n pweru ein bywydau yn newid.

Tab through the cards

Cysylltu ffynonellau ynni mwy fforddiadwy

Mae cysylltu ffynonellau ynni lleol mwy fforddiadwy yn helpu i reoli biliau ynni yn y tymor hir.

Diogelwch ynni

Bydd Uwchraddio’r Grid yn cysylltu ynni glân sy'n cael ei gynhyrchu yma yn y DU, gan wneud ein cyflenwad ynni yn fwy hunangynhaliol ac yn llai dibynnol ar fewnforion.

Swyddi a hwb economaidd

Erbyn diwedd y degawd, bydd National Grid yn cefnogi dros 55,000 yn fwy o swyddi yn y DU ac yn cyfrannu £14.5bn y flwyddyn i economi'r DU.*

Gwella bioamrywiaeth

Rhaid i bob prosiect ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth o 10% o leiaf, gan sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu gwarchod, eu hadfer neu eu creu. Bydd hyn yn cefnogi bywyd gwyllt ac yn gwella amgylcheddau naturiol.

Chwilio am brosiect yn eich ardal chi?

Mae Uwchraddio’r Grid yn cynnwys prosiectau seilwaith mawr a fydd yn ehangu’r grid ac yn diweddaru ein rhwydweithiau presennol.

Diweddariadau

I gael rhagor o wybodaeth am Uwchraddio’r Grid, cofrestrwch i gael diweddariadau neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

*National Grid ac Oxford Economics Mai 2024. Mae cyfraniad economaidd yn seiliedig ar werth ychwanegol gros (GVA)