Ymgynghoriad cyhoeddus 

Mae ein hymgynghoriad Cam 1 yn rhedeg am bedwar wythnos o ddydd Mawrth 23 Mehefin i ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026. 

Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gwybodaeth leol yn ei chwarae wrth ddatblygu unrhyw brosiect, ac rydym yn awyddus i chwilio am adborth ar gam cynnar yn y broses er mwyn rhoi cyfle i bobl ddylanwadu ar ein cynigion ar gyfer Cyswllt Gorllewinol 2. Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 11:59yh ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026. 

View this page in English

English version

Digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd

Fel rhan o’r ymgynghoriad Cam 1 hwn, rydym yn cynnal pum digwyddiad gwybodaeth gyhoeddus ble byddwn yn cyflwyno gwybodaeth am y cynigion a bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i ateb eich cwestiynnau. Byddwch hefyd yn gallu gweld copïau o’n mapiau a’n dogfennau technegol. Bydd aelodau staff sy’n siarad Cymraeg a Saesneg yn y digwyddiadau gwybodaeth gyhoeddus.

Gweler y tabl isod ar gyfer manylion pob digwyddiad.

LleoliadCyfeiriadDyddiad

Neuadd Bentref Clynnog Fawr

Lleoliad What 3 Words: chicken.arranges.item 

Llys Eben, Clynnog-fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5AQ Dydd Iau 25 Mehefin,
2yp–7yh

Neuadd Goffa Pen-y-groes

Lleoliad What 3 Words: insist.manly.processes

2 Maes y Farchnad, Pen-y-groes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6NNDydd Gwener 26
Mehefin, 2yp–7yh

Menter Gymunedol Bethel (Y Bedol)

Lleoliad What 3 Words:
elevator.northward.region

Y Bedol (Ground Floor Rear), B4366, Bethel, Caernarfon, LL55 1AXDydd Iau 9 Gorffennaf,
12–4.30yp

Neuadd Bentref Rhiwlas

Lleoliad What 3 Words:
ditched.countries.cakewalk

Rhiwlas, Bangor, Gwynedd, LL57 4GA
(dilynwch yr arwyddion i neuadd y pentref)
Dydd Gwener 10
Gorffennaf, 2yp–7yh

Y Ganolfan Bontnewydd

Lleoliad What 3 Words:
match.uptake.stoppage

Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2UF Dydd Sadwrn 11
Gorffennaf,
10yb–1.30yp

Gweminarau ar-lein

Yn ogystal â digwyddiadau wyneb-i-wyneb, cynhaliom ni dau sesiwn gweminar ar-lein ble roeddem yn cyflwyno ein cynigion a rhedeg sesiwn holi ac ateb agored. Cynhaliom ni dau gweminar yn ystod yr un noswaith; gyda’r sesiwn gyntaf yn cael ei gynnal yn y Gymraeg, ac yr ail sesiwn yn Saesneg.

Gweminar trwy gyfrwng y Gymraeg Dydd Mawrth 7 Gorffennaf6-7yhRecordiad
Gweminar trwy gyfrwng y Saesneg     Dydd Mawrth 7 Gorffennaf7-8yhRecordiad

Mannau gwybodaeth lleol 

Mae copïau papur o’r Cylchlythyr Cymunedol, Dogfen ymgynghori Cam 1, ffurflen adborth, amlenni post am ddim a chopïau cyfeirio o ddogfennau Astudiaeth Llwybro a Lleoli Ragarweiniol y Coridor Morol a Daearol (CPRSS) ar gael yn y lleoliadau isod. Sylwch fod y dogfennau CPRSS yn ddogfennau technegol a byddant ar gael yn Saesneg yn unig. 

LleoliadCyfeiriadOriau agor
Llyfrgell BangorFfordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 1DTDydd Llun, dydd
Mawrth a dydd Iau: 9:30yb–6yp
Dydd Mercher a dydd
Gwener: 9:30yb–5yp
Dydd Sadwrn: 9:30yb–1yp
Dydd Sul: Ar gau
Llyfrgell
Gyhoeddus
Bethesda
Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor,
Bethesda, Gwynedd, LL57 3DP
Dydd Llun: 2-6yp
Dydd Mawrth a dydd
Sadwrn: 10yb- 12yp
Dydd Mercher: Ar gau
Dydd Iau: 10yb–12yp a
2–5yp
Dydd Gwener: 2-5yp
Dydd Sul: Ar gau
Byw’n Iach Plas
Silyn (Canolfan
Hamdden ym
Mhen-y-groes)
Plas Silyn, Ffordd y Sir, Pen-y-groes, Gwynedd, LL54 6HJDydd Llun a dydd Iau: 9yb-9yh
Dydd Mawrth a dydd
Mercher: 9yb-10yh 
Dydd Gwener: 9yb-7yh
Dydd Sadwrn a
dydd Sul: 9yb-3yb
Byw’n Iach Plas
Ffrancon
Ffordd Newydd, Coetmor, Bethesda, Gwynedd, LL57 3DTDydd Llun i ddydd Iau: 7:30yb-9yh
Dydd Gwener: 7:30yb-8yh
Dydd Sadwrn: 9:30yb-3yp
Dydd Sul: 10yb-4yp
Llyfrgell
Caernarfon
Lôn Pafiliwn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1ASDydd Llun, dydd
Mawrth a dydd Iau: 9:30yb-6yp
Dydd Mercher
a dydd Gwener: 9:30yb-5yp
Dydd Sadwrn: 9:30yb - 1yp
Dydd Sul: Ar gau 
Gwaith Llechi
Inigo Jones
Gwaith Llechi Tudor, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd,
LL54 7UE
Dydd Llun i ddydd
Sadwrn: 9yb-5yp
Menter Ty’n LlanTy’n Llan, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SYDydd Llun i ddydd Iau: 12yp-11yh
Dydd Gwener: 10:30yb-11yh
Dydd Sadwrn a
dydd Sul: 12yp-11yh

*Sylwer: gall oriau agor mannau gwybodaeth lleol newid. Argymhellwn eich bod yn holi’r lleoliad perthnasol i gael yr oriau agor diweddaraf. 

 

Sut i roi adborth

Gallwch roi adborth trwy lenwi ein ffurflen adborth ar-lein.

Neu, gallwch rhoi eich adborth trwy:

  • Danfon adborth ysgrifenedig trwy e-bost i’r cyfeiriad [email protected]
  • Lawrlwytho ac argraffu copi o’n ffurflen adborth o’n llyfrgell ddogfennau a’i phostio’n ôl atom gyda’r cyfeiriad FREEPOST W LINK 2 (nid oes angen stamp na manylion cyfeiriad pellach)

Gallwch gasglu ffurflen adborth bapur mewn unrhyw un o’r digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd neu yn y mannau gwybodaeth lleol a restrir uchod.

Mae croeso ichi gyflwyno adborth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pwysig - Er mwyn sicrhau ein bod yn cofnodi eich safbwyntiau’n gywir, gofynnwn ichi gyflwyno eich adborth yn ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r dulliau uchod. 

Mae dal croeso i chi i ddefnyddio ein llinell wybodaeth gymunedol ar 0800 156 0706 neu siarad â ni yn ein digwyddiadau i gael gwybodaeth am y prosiect. Mae dulliau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gael.

Camau nesaf

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a dderbyniwyd. Bydd yr adborth hwn, ynghyd ag asesiadau technegol ac arolygon amgylcheddol, yn ein helpu i fireinio ein cynigion.

Yna byddwn yn cynnal ail ymgynghoriad, Cam 2, lle byddwn yn cyflwyno cynigion mwy datblygedig ar gyfer Cyswllt Gorllewinol 2 cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y prosiect