Yma fe welwch atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am gynigion Cyswllt Gorllewinol 2.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r rhain wrth i'r prosiect fynd rhagddo.
Mae National Grid wrth wraidd system ynni Prydain, yn cysylltu miliynau o bobl a busnesau i'r ynni maent yn ei ddefnyddio pob dydd. Mae’n gweithio i greu system ynni ddiogel, lanach a mwy fforddiadwy sy’n gwasanaethu pawb ac yn pweru dyfodol ein cartrefi, trafnidiaeth a diwydiant.
National Grid Electricity Transmission sy’n berchen, yn cynnal ac yn gweithredu’r rhwydwaith trawsyrru trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhwydwaith hwn yn gweithredu’n bennaf ar 400 cilofolt (kV) a 275 kV. National Grid Electricity Transmission sy’n datblygu’r cynlluniau ar gyfer Cyswllt Gorllewinol 2 yng Nghymru.
Byddai Cyswllt Gorllewinol 2 yn atgyfnerthu’r rhwydwaith trawsyrru, gan helpu i gludo trydan i Gymru a’r Alban ac oddi yno. Yn y tro, mi fydd yn cryfhau diogelwch ynni’r DU, cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir adref ac yn helpu i gydbwyso cyflenwad a galwad wrth i’r system ynni newid.
Byddai’r prosiect hefyd yn helpu i gysylltu prosiectau ynni glân newydd ag ardaloedd yng Ngogledd Cymru ble mae yna alwad uchel am egni, yn ogystal â’r rhwydwaith ehangach, gan gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio’r system trydan.
Mae’r prosiect dal yn ystod y camau cynnar o’i ddatblygiad. Mae cynigion presennol yn cynnwys lleoliad glanfa, cysylltiad cebl tanddaearol i orsaf trawsnewid newydd ger Pentir, a rhywfaint o waith ymestyn ychwanegol ar yr is-orsaf bresennol ym Mhentir. Bydd cam cyntaf ein hymgynghoriad (a gynhelir o ddydd Mawrth 23 Mehefin tan ddydd Mawrth 21 Gorffennaf) yn rhoi’r cyfle i gymunedau ddysgu am ein cynigion a rhannu adborth. Bydd yr adborth o’n hymgynghoriad yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â chanlyniadau arolygon amgylcheddol a thechnegol parhaus i lywio datblygiad a mireinio’r prosiect.
Byddai angen i Gyswllt Gorllewinol 2 cario trydan ar draws pellter sylweddol.
Dewiswyd llwybr sy'n defnyddio ceblau HVDC o dan y môr yn bennaf dros opsiwn seiliedig ar AC ar y tir i gyfyngu ar effaith amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol y prosiect, yn ogystal â lleihau costau.
Byddai datrysiad ar y tir yn gofyn am hyd llwybr hir a fyddai'n golygu mwy o risg o ran rhaglenni a chyflawni o gymharu ag ateb alltraeth.
Mae’r prosiect yn ei gamau cynnar ar hyn o’r bryd, felly nid yw cynlluniau manwl wedi cael eu cyhoeddi eto o ran buddion cymunedol. Serch hyn, mae National Grid yn credu dylai cymunedau sy’n gartref i brosiectau seilwaith egni newydd dderbyn buddiant am hyn.
Yn ôl cynghorion y llywodraeth ar gyllidon cymunedol ar gyfer prosiectau trawsyrru newydd, mi fydd hi’n bosib i fuddion cymunedol cael eu darparu i gymunedau sy’n byw ger Cyswllt Gorllewinol 2 ble mae isadeiledd newydd uwchben y tir yn cael ei gynnig. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu wrth i’r cynigion datblygu, gan gynnwys trwy ymgynghori gyda chymunedau lleol.
Bydd yr ynni a drawsyrrir trwy Gyswllt Gorllewinol 2 yn cysylltu â'r rhwydwaith trawsyrru ehangach, cyn cael ei ddosbarthu'n lleol gan y Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu perthnasol.
Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) yn gyfrifol am y system drawsyrru ehangach, sy'n symud trydan ar draws y system ynni yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na'i ddosbarthu'n lleol i gartrefi.
Mae seilwaith dosbarthu lleol, fel cysylltiadau gwefru cerbydau trydan, yn cael ei reoli gan Weithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu.
Yn dilyn ystod eang o asesiadau ecolegol, technegol ac amgylcheddol, nodwyd arfordir Gwynedd fel y lleoliad a ffefrir i’r ceblau tanfor gyrraedd y lanfa. Ystyriwyd opsiynau i’r ceblau lanio ym Mhentir, De Wylfa a Bodelwyddan, yn ogystal â lleoliadau posibl yn Ne Cymru megis Penfro, Llanteg, Caerfyrddin/Llandyfaelog, gogledd Abertawe, Bae Baglan a Phen-y-bont ar Ogwr, ond ni aethpwyd ar drywydd y rhain yn y pen draw oherwydd eu cymhlethdod technegol a'r effeithiau amgylcheddol a thirwedd uwch yn y mannau hynny.
Cafodd rhai o'r safleoedd a ystyriwyd eu diystyru o ganlyniad i gyfyngiadau cenedlaethol, megis eu lleoliad ym Mharc(iau) Cenedlaethol.
Yr opsiwn a ddewiswyd i fwrw ymlaen efo oedd i geblau gysylltu â'r is-orsaf bresennol ym Mhentir oherwydd ffactorau morol a daearol ffafriol, yn ogystal â datrys cyfyngiadau ffiniau'r rhwydwaith ehangach.
Byddai safle’r lanfa yn cynnwys gilfan pontio ar y cyd, lle byddai'r ceblau yn y môr ac ar y tir yn cael eu cysylltu. Amgaewyd hyn mewn siambr goncrit tanddaearol parhaol fyddai’n cynnwys y gilfan pontio ar y cyd, ac offer daearu a monitro cysylltiedig.
Mae cilfan pontio ar y cyd yn siambr danddaearol barhaol wedi'i hadeiladu o goncrit wedi'i atgyfnerthu sy'n gartref i'r uniadau cebl a siambr ffeibr neu bwll cyswllt. Mae un cilfan pontio ar y cyd fel arfer yn cwmpasu ardal o tua 60 metr sgwâr. Bydd angen ardal fwy dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu a gosod y cilfan pontio ar y cyd i ddarparu ar gyfer offer adeiladu ac ardaloedd storio dros dro.
Mae Drilio Llorweddol Uniongyrchol yn un o'r dulliau gosod heb ffos posibl y gallai Cyswllt Gorllewinol 2 eu defnyddio i osod y ceblau o dan y ddaear. Gellir defnyddio Drilio Llorweddol Uniongyrchol yn lleoliad y lanfa, lle mae mwy o gyfyngiadau amgylcheddol yn tueddu i fod ac mae'r ddaear yn fwy sensitif.
Nid yw'r union ddulliau adeiladu wedi'u penderfynu eto,. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu yn hwyrach yn yr ymgynghoriad.
Er nad yw ein cynigion yn rhai terfynol eto, bydd Cyswllt Gorllewinol 2 yn cynnwys ceblau tanddaearol a gorsaf trawsnewid newydd yn bennaf. Nid ydym yn cynnig unrhyw beilonau newydd.