Cymryd rhan yn ein hymgynghoriad
Rydym am gyflwyno ein cynigion yn gynnar, egluro sut maent wedi’u datblygu, a gwahodd eich adborth.
Rydym yn chwilio am adborth gan gymunedau lleol, eu cynrychiolwyr a rhanddeiliad allweddol yn gynnar yn y broses o ddatblygu’r prosiect er mwyn sicrhau bod adborth a gwybodaeth leol yn dylanwadu ar ein cynigion wrth iddynt barhau i gael eu datblygu.
Mae ein hymgynghoriad Cam 1 yn rhedeg o 12yp dydd Mawrth 23 Mehefin tan 11:59yh dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026 ac mae’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cynigion
Cliciwch yma i gwblhau ein ffurflen adborth ar-lein
Ynglŷn â Chyswllt Gorllewinol 2
Cyswllt Gorllewinol 2 yw cynnig ar y cyd gan National Grid a SP Energy Networks ar gyfer cysylltiad Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Uchel (HVDC) newydd rhwng Cymru a’r Alban.
Byddai Cyswllt Gorllewinol 2 yn atgyfnerthu’r rhwydwaith trawsyrru sy’n cludo trydan i, ac o’r Alban a Chymru. Gyda’r hyblygrwydd hwn, byddem yn gwella diogelwch ynni’r DU, yn cefnogi’r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy cynhenid, ac yn helpu i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw wrth i’r system ynni newid.
Map rhyngweithiol
Gallwch weld ein cynigion ar ein map rhyngweithiol, yma sy'n dangos y cynigion yn eu cyfanrwydd.
Uwchraddio’r Grid
Y prosiect Uwchraddio’r Grid yw’r gwaith ailwampio mwyaf o’r grid trydan ers cenedlaethau. Ar draws Cymru a Lloegr, mae ein prosiectau’n helpu i gysylltu ffynonellau ynni cartref ac adnewyddadwy mwy fforddiadwy â chartrefi a busnesau.
Wrth i’r DU symud i ffwrdd o danwydd ffosil, byddwn ni i gyd yn dibynnu ar drydan yn fwy nag erioed o’r blaen. Disgwylir i’r galw gynyddu’n sylweddol wrth i ni ddatgarboneiddio gwresogi, trafnidiaeth a diwydiant, ac mae angen uwchraddio’r grid presennol – a gynlluniwyd yn wreiddiol o amgylch gorsafoedd pŵer glo – i ddiwallu’r anghenion newidiol hyn.
Yng Nghymru, bydd y prosiect Uwchraddio’r Grid yn darparu’r seilwaith sydd ei angen i ddiwallu’r her hon. Bydd prosiectau atgyfnerthu Pentir i Drawsfynydd a Chyswllt Gorllewinol 2 yn moderneiddio ac yn cryfhau’r rhwydwaith trawsyrru.
Drwy brosiectau fel y rhain, bydd Uwchraddio’r Grid yn caniatáu cludo mwy o ynni glân, cartref, o’r man lle caiff ei gynhyrchu, i’r man lle mae ei angen.
Drwy alluogi mwy o drydan adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru ac ar draws y DU i lifo ar draws y rhwydwaith, bydd y prosiect Uwchraddio’r Grid yn cefnogi ynni glanach i gymunedau ym mhob rhan o Gymru, gan wella diogelwch ynni a lleihau dibyniaeth ar ynni a fewnforir.
Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn dod â manteision yn nes at adref. Bydd darparu seilwaith ynni newydd mawr yn cefnogi economïau lleol, yn creu swyddi, yn darparu cyfleoedd sgiliau newydd ac yn cynrychioli buddsoddiad hirdymor mewn cymunedau ledled Cymru. Mae grid modern a gwydn yn hanfodol i sicrhau system ynni lanach, fwy fforddiadwy a dibynadwy ar gyfer y dyfodol.
Ein cynigion
Byddai Cyswllt Gorllewinol 2 yn cludo trydan trwy cebl tanddwr Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Uchel (HVDC) rhwng Swydd Ayr, ar arfordir gorllewinol yr Alban, i un lleoliad glanio ar arfordir Gwynedd.
Oddi yno, byddai ceblau tanddaearol HVDC yn cysylltu â gorsaf drawsnewid arfaethedig yn agos at yr is-orsaf bresennol yn Bentir. Yna byddai trydan yn cysylltu o’r orsaf drawsnewid newydd ag is-orsaf bresennol Pentir drwy gysylltiad Cerrynt Eiledol Foltedd Uchel (HVAC) newydd.
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar y cyd gan National Grid a SP Energy Networks, gyda phob cwmni’n gyfrifol am wahanol elfennau o’r prosiect.
Ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, gofynnwn ichi fynegi eich safbwyntiau ynglŷn ag elfen Cymru yn unig o’r prosiect. SP Energy Networks sy’n gyfrifol am yr elfennau sy’n ymwneud â’r Alban, ac aeth ati i gynnal ei ymgynghoriad cyntaf ym mis Tachwedd 2025.
Yn ystod y cam hwn, rydym yn awyddus i gael eich adborth ar elfennau alltraeth, wrth y lan ac ar y tir y prosiect:
• oddeutu 195 cilometr o gebl HVDC alltraeth newydd, a fydd yn dechrau wrth derfyn deheuol moroedd tiriogaethol yr Alban, hyd at derfyn moroedd tiriogaethol Cymru.
• oddeutu 65 cilomedr o gebl HVDC agos i’r lan newydd, wrth iddo gyrraedd moroedd tiriogaethol Cymru i fae cyswllt trosglwyddo tanddaearol newydd ar lanfa a leolir ar arfordir Gwynedd, ym Mae Caernarfon.
• bae cyswllt trosglwyddo tanddaearol newydd mewn lleoliad ar arfordir Gwynedd, ym Mae Caernarfon, lle bydd y cebl HVDC morol newydd yn cysylltu â’r cebl HVDC newydd ar y tir.
• tri opsiwn ar gyfer glanfa bosibl ar arfordir Gwynedd (bydd un opsiwn a ffefrir yn cael ei adnabod).
• llwybr cebl HVDC tanddaearol newydd, oddeutu 25 cilometr o hyd, o lanfa a leolir ar arfordir Gwynedd i orsaf drawsnewid newydd (a gyflwynir fel ‘ardal graddoledig’, gyda’r ardal dywyllach yn dangos ein opsiwn a ffefrir ar gyfer llwybr y cebl).
• dau opsiwn ar gyfer lleoli gorsaf drawsnewid newydd wrth ymyl yr is-orsaf bresennol ym Mhentir (gyda’r opsiwn a ffefrir ym mharth Dwyrain Pentir), yn cynnwys darn byr newydd o gysylltiad cebl tanddaearol HVAC o’r orsaf drawsnewid i’r is-orsaf bresennol ym Mhentir.
• estyniad newydd i’r is-orsaf bresennol ym Mhentir, fel y gellir cysylltu Cyswllt Gorllewinol 2 â rhwydwaith trawsyrru presennol Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein dogfen ymgynghori Cam 1, sydd ar gael i’w gweld yma ac yn ein llyfrgell ddogfennau
Cliciwch yma i gofrestri i gael diweddariadau am y prosiect.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhwy gwestiynnau amdano ein cynigion ar gyfer Cyswllt Gorllewinol 2, cysylltwch â ni.
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth Cymunedol: 0800 156 0706 (mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb-5.30yp)
- E-bostiwch ni: [email protected]
- Ysgrifennwch atom: FREEPOST W LINK 2 (nid oes angen stamp na manylion cyfeiriad pellach)