Beth sy'n digwydd nawr?
Efallai y gwelwch ein timau’n cynnal arolygon yn yr ardal leol. Mae’r arolygon hyn yn ein helpu i ddeall yr amodau presennol yn yr amgylchedd ac ar y safle, ac yn darparu gwybodaeth i lywio’r gwaith parhaus o ddylunio ac asesu’r prosiect.
Mae angen gwahanol ddulliau a chyfarpar ar gyfer gwahanol arolygon. Lle bo angen mynediad i dir preifat, byddwn yn parhau i weithio gyda thirfeddianwyr a meddianwyr i gytuno ar y trefniadau mynediad angenrheidiol.
Mae’r amseriadau a nodir yn rhai dangosol a gallant newid o ganlyniad i’r tywydd, mynediad i dir, gofynion tymhorol yr arolygon a datblygiad parhaus y prosiect. Ni fydd pob arolwg yn cael ei gynnal ym mhob rhan o ardal y prosiect.
Arolygon morol
| Dyddiad | Arolwg | Lleoliad | Disgrifiad |
| 2026 | Arolygon Geodechnegol Ger y Glannau | Bae Caernarfon, Cymru, Troon, yr Alban, Girvan, yr Alban | Mae arolygon geodechnegol ger y glannau yn casglu gwybodaeth am y ddaear o fan wely’r môr yn agos at ardaloedd glanio’r cebl. Defnyddir tyllau turio, profion daear a samplau o bridd neu graig i ddeall cryfder a chyfansoddiad y ddaear. Mae’r wybodaeth hon yn cefnogi’r gwaith o ddylunio a gosod y cebl yn ddiogel wrth iddo nesáu at yr arfordir. |
| 2026 | Arolygon Geodechnegol Alltraeth | Coridor arolygu o Firth of Clyde, yr Alban i Fae Caernarfon, Cymru | Mae arolygon geodechnegol alltraeth yn defnyddio offer profi a samplu gwely’r môr i ymchwilio i amodau’r ddaear ar hyd llwybr arfaethedig y cebl. Mae’r arolygon yn helpu i gadarnhau mathau a chryfder deunyddiau gwely’r môr ac i nodi amodau a allai effeithio ar gladdu, gosod a diogelu’r cebl. |
| 2026 | Arolygon Amgylcheddol Benthig | Coridor arolygu alltraeth a ger y glannau rhwng Ayrshire, yr Alban i Fae Caernarfon, Cymru | Mae arolygon amgylcheddol benthig yn casglu samplau bach o wely’r môr er mwyn deall y gwaddodion, y cynefinoedd a’r organebau morol sy’n bresennol. Mae’r canlyniadau’n cefnogi asesiadau amgylcheddol ac yn helpu’r prosiect i gynllunio llwybr y cebl a’r gweithgareddau gosod mewn ffordd sy’n lleihau effeithiau posibl ar yr amgylchedd morol. |
Arolygon daearol (tir)
| Dyddiad | Arolwg | Lleoliad | Disgrifiad |
| Hydref 2026 - Gwanwyn 2027 | Tirwedd ac amwynder gweledol | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir archwiliad ar droed ac asesiad gweledol o gymeriad y dirwedd a'r golygfeydd presennol er mwyn cofnodi amodau sylfaenol. Mae hyn yn golygu tynnu lluniau o leoliadau dethol y gellir cael mynediad cyhoeddus iddynt gan edrych tua'r safle er mwyn deall y golygfeydd, y topograffi, a'r defnydd tir presennol, a'r berthynas rhwng y safle a'i amgylchedd ehangach. Mae'r arolygon yn anymwthiol ac i gyd o leoliadau y ceir mynediad cyhoeddus iddynt. |
| Haf - Hydref 2026 | Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC) | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, safle estyniad is-orsaf Pentir | Mae arolygon dosbarthiad tir amaethyddol yn casglu samplau pridd ac yn asesu pridd ac amodau safle yn y maes. Defnyddir yr wybodaeth a gasglwyd i nodi nodweddion a phriodweddau pridd, er mwyn pennu ansawdd a dosbarthiad amaethyddol tir. |
| Haf 2026 - Gwanwyn 2027 | Amgylchedd hanesyddol - Archwiliad ar droed | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygiadau ar droed o'r amgylchedd hanesyddol er mwyn pennu topograffi'r safle a'r defnydd tir presennol, natur yr adeiladau presennol, cloddwaith a nodweddion tirwedd hanesyddol ar y safle, ac er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am ardaloedd lle mae'n bosibl bod y tir wedi'i aflonyddu yn y gorffennol a photensial amgylchedd hanesyddol cyffredinol. Bydd yr archwiliad ar droed yn ymestyn i asedau treftadaeth dynodedig dethol y tu hwnt i'r safle, er mwyn ystyried effeithiau posibl ar eu lleoliad (e.e. newidiadau gweledol i gymeriad hanesyddol a golygfeydd). |
| Gaeaf 2026 - Gwanwyn 2027 | Amgylchedd hanesyddol - Arolygon geoffisegol | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon geoffisegol o'r amgylchedd hanesyddol er mwyn nodi anomaleddau claddedig o darddiad archaeolegol posibl mewn lleoliadau penodedig neu wedi'u targedu sy'n seiliedig ar yr archwiliadau ar droed. |
| Gaeaf 2026 - Gwanwyn 2027 | Amgylchedd hanesyddol - Ffosydd prawf | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir gwerthusiad ffos brawf er mwyn ymchwilio i bresenoldeb, maint, ac arwyddocâd olion treftadaeth archaeolegol neu ddiwylliannol posibl mewn ardaloedd wedi'u targedu. |
| Diwedd Haf - dechrau Hydref 2026 | Arolygon Traffig a Symudiad | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon traffig i gasglu gwybodaeth am yr amodau traffig presennol er mwyn deall y llif cerbydau presennol, patrymau mynediad, a'r defnydd o ffyrdd cyfagos. Gallai arolygon gynnwys cyfrif tymor byr â llaw, gosod offer cyfri traffig wedi'u hawtomeiddio, neu wiriadau arsylwadol o weithgaredd cerddwyr a phriffyrdd. |
| Haf - Hydref 2026 | Arolygon sŵn a dirgryniad (Acwstig) | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon sŵn er mwyn casglu data sylfaenol am sŵn a dirgryniad sy'n adlewyrchu'r amodau presennol. Arolygon wythnos gyfan er mwyn canfod yr amgylchedd acwstig presennol wrth dderbynyddion sensitif i sŵn o amgylch y safle, gan ddarparu cefndir cynrychioladol a lefelau sŵn amgylchynol. Bydd y canlyniadau'n darparu'r sail ar gyfer asesu effeithiau sŵn adeiladu posibl ac effeithiau sŵn diwydiannol gweithredol, ac ar gyfer nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. |
| Haf 2026- Gwanwyn 2027 | Arolygon coedyddiaeth | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon coed yn unol â BS5837 2012: Coed mewn perthynas â dylunio, dymchwel ac adeiladu. Bydd hyn yn cynnwys coed o bob oed, gan gynnwys coed hynafol a hynod yn unol â Chyngor Sefydlog Natural England a'r Comisiwn Coedwigaeth. Bydd yr arolygon yn casglu data asedau sy'n gysylltiedig â'r coed, er enghraifft rhif coeden, safle, uchder, oed, ymlediad, diamedr y boncyff, categoreiddiad o'r goeden ar gyfer ansawdd a gwerth, uchder y gangen isaf ac amcangyfrif o'r blynyddoedd sydd ganddi ar ôl. Bydd cyfrifiad y boncyff yn darparu'r arwynebedd diogelu gwreiddiau a gellir canfod y parth gwahardd adeiladu fel rhan o'r asesiad o'r effaith. Bydd yr arolwg hefyd yn edrych ar gyfyngiadau cynllunio megis coetir hynafol, gorchmynion diogelu coed ac ardaloedd cadwraeth. |
Ebrill – Hydref 2026 | Arolwg Cynefinoedd Cam 1 | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg ar droed yn mapio cynefinoedd cyffredinol a llystyfiant sy'n bresennol, gan gofnodi unrhyw rywogaethau arbennig sy'n bresennol |
| Mai – Hydref 2026 Ebrill – Awst 2027 | Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg manwl i ddosbarthu cymunedau cynefinoedd sy'n bresennol. Defnyddir cwadradau i gofnodi pa mor gyffredin yw rhywogaethau o blanhigion mewn ardaloedd o lystyfiant. |
Hydref 2026 | Cynefinoedd - MoRPh | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg i gofnodi cyflwr dyfrffyrdd drwy gofnodi nodweddion ffisegol, gan gynnwys gwely'r afon, glannau, llystyfiant a nodweddion cynefinoedd. |
Ebrill – Mehefin 2026 Ebrill – Mehefin 2027 | Madfall Ddŵr Gribog (eDNA ac arolwg Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd) | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Asesu pyllau dŵr er mwyn canfod a ydynt yn addas i gefnogi madfallod dŵr cribog. Mae'r arolygon yn cynnwys casglu samplau dŵr ar gyfer dadansoddiad DNA amgylcheddol (eDNA) mewn labordy er mwyn penderfynu a oes madfallod dŵr cribog yn bresennol. |
Mai – Hydref 2026 Mai – Mehefin 2027 | Arolwg Gwiwerod Coch | Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Asesu ardaloedd coetir am gynefinoedd sy'n addas i wiwerod coch. Bydd dau arolygwr yn cofnodi gwiwerod a welir neu olion a welir ar y safle megis nythod neu weddillion bwydo. Mae'n bosibl y gosodir camerâu natur mewn lleoliadau addas i helpu i gadarnhau presenoldeb. |
Mai – Hydref 2026 Mai – Mehefin 2027 | Arolwg Beleod | Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Asesu ardaloedd coetir am gynefinoedd sy'n addas i feleod. Bydd dau arolygwr yn cofnodi arwyddion bod beleod yn bresennol, gan gynnwys baw a safleoedd ffeuau posibl. Caiff samplau o faw eu casglu a'u hanfon ar gyfer dadansoddiad DNA. |
Ebrill – Hydref 2026 Ebrill – Mehefin 2027 | Arolwg Gwrychoedd/Perthi (Rheoliadau Gwrychoedd/Perthi, addasrwydd ar gyfer pathewod ac ystlumod) | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg i asesu gwrychoedd/perthi ar sail meini prawf bywyd gwyllt a thirwedd y Rheoliadau Gwrychoedd/Perthi er mwyn nodi gwrychoedd/perthi pwysig, yn ogystal â chloddiau. Bydd gwybodaeth a gesglir hefyd yn sail i asesiad o addasrwydd ar gyfer ystlumod a phathewod sy'n chwilota am fwyd ac yn symud o un lle i'r llall. |
| Ebrill – Tachwedd 2026 | Arolygon canfod ystlumod | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Gosodir synwyryddion ystlumod sefydlog i gofnodi gweithgaredd ystlumod. Gadewir pob synhwyrydd am o leiaf ddeng noson. Cyfunir gwybodaeth am bresenoldeb ystlumod â gwybodaeth amgylcheddol er mwyn modelu eu cydberthynas a chreu mapiau gwres sy'n dangos rhagfynegiadau o addasrwydd cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau o ystlumod yn ardal yr arolwg. |
Ebrill – Medi 2026 Ebrill – Gorffennaf 2027 | Addasrwydd ar gyfer cynefin llygod pengrwn y dŵr a dyfrgwn | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg ar droed o ddyfrffyrdd er mwyn asesu eu haddasrwydd i gefnogi llygod pengrwn y dŵr a dyfrgwn. Cofnodir arwyddion o'r ddwy rywogaeth ar y safle. |
Ebrill – Medi 2026 Ebrill – Gorffennaf 2027 | Dyfrgwn – asesiad o gynefin daearol | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Arolwg ar droed o gynefin daearol addas sy'n gysylltiedig â dyfrffyrdd er mwyn nodi a chofnodi nodweddion y gellid eu defnyddio gan ddyfrgwn i orffwys neu gysgodi, gan gynnwys mannau gorffwys a gwaliau. |
| Ionawr – Mai 2027 | Dyfrgwn – arolygon trap camera | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Gosodir trapiau camera mewn safleoedd gorffwys dyfrgwn posibl, megis gwaliau, er mwyn monitro gweithgaredd dyfrgwn a phenderfynu sut mae'r nodweddion yn cael eu defnyddio. |
| Mawrth – Gorffennaf 2026 | Arolwg adar magu | Safle'r lanfa, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Bydd arolygwyr yn cerdded ar lwybrau y penderfynwyd arnynt ymlaen llaw er mwyn cofnodi adar a welwyd neu a glywyd ac asesu gweithgaredd a dosbarthiad adar magu. |
Hydref – Rhagfyr 2026 Ionawr - Mawrth 2027 | Arolwg Adar Gaeafu | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Bydd arolygwyr yn cerdded ar lwybrau y penderfynwyd arnynt ymlaen llaw er mwyn cofnodi adar a welwyd neu a glywyd, gan roi pwyslais penodol ar rywogaethau gaeafu nodedig a sut maen nhw'n defnyddio cynefinoedd arfordirol. |
Ebrill – Rhagfyr 2026 Ionawr – Ebrill 2027 | Arolwg maes moch daear | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Bydd arolygwyr yn gwneud arolwg ar droed o gynefin addas er mwyn cofnodi arwyddion o weithgaredd moch daear, gan gynnwys deyerydd, llwybrau, ôl traed, blew a baw. |
Awst – Hydref 2026 Mai – Awst 2027 | Arolwg britheg y gors | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Bydd arolygwyr yn archwilio glaswelltir addas am damaid y cythraul, y planhigyn sy'n fwyd i larfa britheg y gors. Os caiff cynefin addas ei nodi, cynhelir arolygon dilynol i chwilio am weoedd larfa britheg y gors a'u cofnodi. |
Mai – Hydref 2026 Mawrth 2027 | Arolwg ar droed o ddyfrffyrdd | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Bydd arolygwyr yn cynnal arolwg ar droed o ddyfrffyrdd er mwyn cofnodi nodweddion cynefinoedd, gan gynnwys swbstrad, amodau llif a defnydd tir cyfagos, gan asesu eu haddasrwydd ar gyfer rhywogaethau o bysgod a nodi ardaloedd o sensitifrwydd ecolegol. |
| Hydref 2026 | Arolwg LiDAR a lluniau o'r awyr | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon LiDAR a lluniau o'r awyr er mwyn creu darlun cywir o'r dirwedd, gan gynnwys lefelau'r ddaear a nodweddion ar y tir. Bydd yr wybodaeth yn sail i waith dylunio prosiectau, asesiadau amgylcheddol ac astudiaethau o effeithiau gweledol posibl. |
| Hydref 2026 - Haf 2027 | Arolygon topograffig | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon topograffig er mwyn cynhyrchu map daear o'r dirwedd, gan gynnwys lefelau daear, nodweddion naturiol, a nodweddion a grewyd gan ddyn. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn helpu tîm y prosiect i ddeall yr ardal ac mae'n cefnogi datblygiad, dyluniad ac asesiad amgylcheddol o'r prosiect. |
| Hydref 2026 - Haf 2027 | Arolwg cyfleustodau | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon cyfleustodau er mwyn helpu i nodi'r gwasanaethau presennol, megis pibellau dŵr, ceblau trydan a chyfarpar telathrebu, yn ardal y prosiect. Defnyddir yr wybodaeth hon i ddatblygu dyluniad y prosiect, cynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y seilwaith presennol yn cael ei ddiogelu. |
| Hydref 2026 - Gwanwyn 2027 | Arolygon geoffisegol | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir arolygon geoffisegol gan ddefnyddio dulliau anymwthiol i gasglu gwybodaeth am ddaeareg a chyflwr y ddaear o dan yr wyneb yn ardal y prosiect. Defnyddir yr wybodaeth i helpu i ddatblygu dyluniad y prosiect, gan gynnwys dylunio ac alinio'r llwybr ceblau tanddaearol yn ogystal â dylunio'r orsaf drosi arfaethedig a'r estyniad i'r is-orsaf. |
| Hydref 2026 - Gwanwyn 2027 | Ymchwiliadau tir | Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhelir ymchwiliadau tir er mwyn deall cyflwr y ddaear yn ardal y prosiect drwy gasglu data daearegol, geotechnegol ac amgylcheddol gan ddefnyddio tyllau turio, tyllau prawf, profion maes yn y fan a'r lle, samplu pridd, creigiau a dŵr daear a phrofion labordy a monitro. Defnyddir yr wybodaeth i helpu i ddatblygu dyluniad y prosiect, gan gynnwys dylunio ac alinio'r llwybr ceblau tanddaearol yn ogystal â dylunio'r orsaf drosi arfaethedig a'r estyniad i'r is-orsaf. |
Arolygon a gynhaliwyd yn flaenorol
Arolygon morol
| Dyddiad | Arolwg | Lleoliad | Disgrifiad |
| Haf 2025 a Haf a Hydref 2026 | Arolygon Geodechnegol Ger y Glannau | Caernarfon, Cymru i Troon, Yr Alban | Mae arolygon geoffisegol morol yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau arolygu anymwthiol i fapio bathymetreg a morffoleg gwely'r môr, nodweddion gwaddodion ac amodau daearegol bas. Mae'r arolygon yma yn helpu i nodi nodweddion ar wely'r môr ac o dan wely'r môr, gwrthrychau sydd wedi'u claddu, peryglon posibl a chyfyngiadau perianneg, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi'r gwaith o ddylunio a gosod ceblau tanfor. |
Arolygon daearol (tir)
| Dyddiad | Arolwg | Lleoliad | Disgrifiad |
| Haf - Hydref 2026 | Hydroleg a Draeniad | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhaliwyd arolygon hydroleg a draeniad er mwyn nodi nodweddion dŵr sy'n bodoli'n barod, llwybrau draeniad ar yr wyneb, ac ymddygiad dŵr wyneb ar safle'r prosiect ac o'i gwmpas. |
| Haf - Hydref 2026 | Daeareg a Dŵr Daear | Safle'r lanfa, Coridor cebl, Safle gorsaf drosi, Safle estyniad is-orsaf Pentir | Cynhaliwyd arolwg ar droed er mwyn nodi unrhyw arwyddion gweledol o weithgareddau presennol, neu weithgareddau yn y gorffennol, a allai fod wedi halogi'r ddaear. Cynhaliwyd arolwg ar droed hefyd er mwyn nodi nodweddion a allai o bosibl gael eu heffeithio gan newidiadau yn ansawdd neu lefelau dŵr daear. Roedd hyn yn cynnwys chwilio am bwyntiau tynnu dŵr daear, megis ffynhonnau a thyllau turio, yn ogystal â nodweddion a allai fod yn dibynnu ar ddŵr daear, gan gynnwys afonydd, nentydd, pyllau dŵr, gwlyptiroedd a tharddellau dŵr. |