Ynglŷn â'r prosiect
Fel rhan o Uwchraddio’r Grid, mae’r National Grid yn cynnig cyflwyno dwy is-orsaf newydd ar safle sy’n gyfagos i'n his-orsafoedd presennol yn Aberddawan. Unwaith yn weithredol, bydd y prosiect yn disodli'r ddwy is-orsaf bresennol yn Aberddawan a fydd yn cael ei hadnabod fel Is-orsaf Silstwn.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Mae'r ffordd y mae trydan yn cael ei gynhyrchu yn newid, gyda mwy o ynni adnewyddadwy cartref yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain. Bydd yr Uwchraddio Mawr y Grid yn galluogi'r grid trydan i gario ynni glanach, mwy diogel o ffynonellau mwy fforddiadwy i gartrefu a busnesau ym mhob rhan o Gymru a Lloegr.
Yn ardal Caerdydd, mae nifer o ddatblygwyr wedi gofyn am gysylltu eu prosiectau â'n rhwydwaith. Fel busnes rheoleiddiedig mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu'r datblygiadau hyn a chefnogi uchelgeisiau diogelwch ynni'r DU.
I gysylltu'r prosiectau hyn â'n rhwydwaith, mae National Grid yn cynnig datblygu dwy is-orsaf newydd. Byddai'r ddwy is-orsaf newydd hyn wedi’u lleoli ar safle gerllaw Is-orsafoedd presennol Aberddawan. Unwaith yn weithredol, byddai'r prosiect yn disodli'r ddwy is-orsaf bresennol yn Aberddawan ac yn cael ei adnabod fel Is-orsaf Silstwn.
Mae is-orsafoedd yn gyswllt hanfodol yn ein rhwydwaith, gan gysylltu ynni â'r grid. Maen nhw'n newid trydan i'r foltedd cywir ac yn ei gyfeirio'n ddiogel o amgylch y rhwydwaith fel y gall pŵer gyrraedd cartrefi a busnesau.
Bydd gan yr is-orsafoedd newydd gapasiti cychwynnol o 1.4 Gigawat (GW), gyda'r potensial i godi i 2.1GW i ddiwallu'r galw am drydan yn y dyfodol. Capasiti is-orsafoedd presennol Aberthaw yw 0.4 GW.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys ail-alinio'r tyrau presennol i'r is-orsafoedd newydd.
Byddai hyn yn cynnwys cael gwared ar dri thŵr llinell uwchben presennol a'u disodli gan bedwar tŵr llinell uwchben parhaol newydd. Byddai angen tri thŵr dros dro ychwanegol arnom hefyd yn ystod y cyfnod adeiladu.
Pam rydyn ni'n gwneud hyn
Mae'r prosiect hwn yn rhan o Uwchraddio’r Grid, yr ailwampio mwyaf o'r grid ers cenedlaethau.
Mae disgwyl i'r galw am drydan ddyblu erbyn 2050 wrth i'r ffordd rydym yn pweru ein cartrefi, busnesau, diwydiant a thrafnidiaeth newid. Mae angen i ni uwchraddio'r grid nawr i ddiwallu'r cynnydd hwn yn y galw.
Adeiladwyd y rhwydwaith trosglwyddo presennol – gan gynnwys is-orsafoedd presennol Aberddawan – ddegawdau yn ôl i raddau helaeth. Ni chafodd ei gynllunio i gludo trydan o'r man lle mae'n cael ei gynhyrchu fwyfwy heddiw o ffynonellau gwynt a solar ar y môr.
Yn ardal Caerdydd, mae nifer o ddatblygwyr wedi ymgeisio cysylltu eu prosiectau i'n rhwydwaith. Fel busnes a reoleiddir, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gysylltu’r datblygiadau hyn a chefnogi uchelgeisiau diogelwch ynni’r DU.
Er mwyn cysylltu’r prosiectau hyn i'n rhwydwaith, mae’r National Grid yn cynnig datblygu dwy is-orsaf newydd. Byddai'r ddwy is-orsaf newydd hyn wedi’u lleoli ar safle gerllaw Is-orsafoedd presennol Aberddawan. Unwaith yn weithredol, byddai'r prosiect yn disodli'r ddwy is-orsaf bresennol yn Aberddawan ac yn cael ei adnabod fel Is-orsaf Silstwn.
Caniatâd am ein prosiect
Bydd angen arnom ganiatâd plannu am adeiladu’r ddwy is-orsaf newydd gan Gyngor Bro Morgannwg.
Cyn cyflwyno ein cais cynllunio, rydym eisiau rhannu manylion ein cynlluniau gyda’r gymuned leol a’r rhanddeiliaid allweddol ac i dderbyn adborth a fydd yn llunio ein cynlluniau.
Hefyd, cyn cyflwyno ein cais cynllunio, byddwn yn ymgymryd a ymgynghoriad statudol cyn-ymgeisio, lle fydd copi drafft o ein cais cynllunio ar gael yn gyhoeddus. Byddwn yn darparu hysbysiadau ar y safle, hysbysiadau i'n hymgynghoreion arbenigol a manylion ynglŷn â sut i weld copi drafft o ein cais ar gael cyn i ni ymgymryd a ein ymgynghoriad statudol cyn-ymgeisio.
Byddwn yn gofyn caniatâd Adran 37 am waith ar y llinellau uwchben ar wahân i'r prif gais cynllunio. Mae ceisiadau caniatâd Adran 37 yng Nghymru yn cael ei penderfynnu gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, ar ôl ymgynghori gyda’r awdurdodau cynllunio lleol ac ymgynghoreion statudol eraill.
Os rhoddir caniatâd gan Gyngor Bro Morgannwg, byddwn yn gofyn caniatâd cynllunio ar wahân oddi wrth y Cyngor i ddymchwel y ddwy is-orsaf bresennol. Er hyn, am nawr, bydd ein his-orsafoedd presennol yn Aberddawan yn parhau i weithredu’n ddiogel.
Buddsoddi yn ein cymunedau
Mae cymunedau wrth wraidd trawsnewidiad y DU i ynni mwy diogel, glanach, cartref o ffynonellau mwy fforddiadwy.
Mae gan National Grid ymrwymiad hirdymor i'r cymunedau rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw, ac rydym am sicrhau buddion parhao i'r bobl a'r llefydd sy'n cynnal ein seilwaith newydd.
Os rhoddir cymeradwyaeth gynllunio, bydd NGET, gan weithio ochr yn ochr â'n contractwyr, yn cefnogi ac yn buddsoddi yn y gymuned leol mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys trwy gyllid grant lleol, datblygu sgiliau, allgymorth ysgolion a gwirfoddoli.
Rydyn ni am glywed eich barn!
Credwn ei bod hi’n bwysig rhannu gwybodaeth am ein prosiect gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio’n lleol a derbyn eu hadborth. Bydd yr adborth yn ein helpu i lunio ein cynlluniau wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynigion. Ein nod yw lleihau effaith ein prosiect ar y gymuned leol gymaint ag y gallwn.
Rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb ar 6 Hydref 2026 lle gallwch weld ein cynlluniau yn y cyfnod cynnar hwn, siarad ag aelodau o'n tîm prosiect a rhoi adborth.
Fel arall, gallwch fynychu ein gweminar ar-lein ar 8 Hydref 2026 lle bydd ein tîm prosiect yn trafod y cynlluniau ac yn ateb eich cwestiynau.
Digwyddiad galw heibio 2.30yh i 7yh Dydd Mawrth 6 Hydref The Gathering Place, Flemingston Road, Sain Tathan, Bro Morgannwg, CF62 4JH Nid oes angen archebu | Gweminar ar-lein 6.30yh i 7yh Dydd Iau 8 Hydref Cofrestrwch drwy e-bostio [email protected] |
Os na allwch fynychu ein digwyddiad galw heibio neu ein gweminar gallwch roi adborth gan ddefnyddio ein ffurflen adborth ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r manylion canlynol.
Cwblhau'r ffurflen adborth ar-lein: re-url.uk/WG7M
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01446 501291
Ysgrifennu: Freepost ABERTHAW SUBSTATIONS (nid oes angen cyfeiriad na stamp pellach)
Cyflwynwch eich adborth erbyn dydd Llun 19 Hydref.
Y camau nesaf ac amserlen y prosiect
Mae amserlen y prosiect isod yn amlinellu'r cerrig milltir allweddol ar gyfer prosiect Ailddatblygu Is-orsafoedd Aberddawan.
Mai 2025 - Gwaith arolwg
Fe wnaethon ni hysbysu tirfeddianwyr a chynghorwyr lleol ein bod ni'n dechrau gwaith arolygu ar y safle ac yn yr ardal leol. Cynhaliodd y tîm prosiect asesiadau technegol a dechrau llunio'r cynlluniau ar gyfer y prosiect.
Hydref 2026 - Ymgysylltiad anffurfiol
Gwahodd y gymuned leol a rhanddeiliaid i ddigwyddiad galw heibio a gweminar ar-lein i ddysgu am ein cynlluniau ar gyfer Ailddatblygu Is-orsafoedd Aberddawan.
Bydd yr adborth a dderbynnir ar y cam hwn yn ein helpu i lunio ein cynlluniau wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynigion.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar y dudalen 'Ynglŷn â'r Prosiect'.
Tachwedd 2026 - Lansio Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais Statudol (PAC)
Cyn y gallwn gyflwyno ein cais cynllunio i Gyngor Bro Morganwg, bydd angen i ni gynnal Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais statudol (PAC).
Ym mis Tachwedd rydym yn bwriadu lansio'r PAC a fydd yn parhau am 28 diwrnod. Yn ystod y PAC byddwch yn gallu gweld ein holl ddogfennau cais drafft yn y tab 'Llyfrgell Dogfennau' a byddwch yn gallu rhoi adborth drwy'r wefan hon.
Byddwn yn cyhoeddi'r ymgynghoriad hwn i'w ddwyn i sylw'r gymuned leol, perchnogion a deiliaid cyfagos, ymgyngoreion cymunedol ac ymgyngoreion arbenigol.
Rhagfyr 2026 - Mae'r PAC yn cau
Ar ôl diwedd y cyfnod PAC 28 diwrnod, bydd tîm y prosiect yn adolygu'r adborth o'n hymgynghori ac yn ceisio cwblhau holl ddogfennau'r prosiect i baratoi ar gyfer cyflwyno cais Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) i Gyngor Bro Morganwg.
Dechrau 2027 - Cais wedi'i gyflwyno
Byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio i Gyngor Bro Morganwg.
2028 ymlaen
Yn amodol ar gymeradwyaeth, byddwn yn cydweithio'n agos â phartneriaid i gyflawni'r prosiect.
Uwchraddio’r Grid yw y cynllun mwyaf ers cenedlaethau i adnewyddu’r grid trydan a bydd yn diogelu'r grid ar gyfer y dyfodol am flynyddoedd i ddod, gan hwyluso'r newid i ddyfodol ynni mwy glân a mwy fforddiadwy. Bydd yn ein galluogi i gario mwy o ynni glân a diogel o'r man lle caiff ei gynhyrchu i'r man lle mae ei angen, gan hybu diogelwch ynni a helpu'r genedl i ddod yn fwy hunangynhaliol.
Dysgwch ragor am Uwchraddio’r Grid.
Mae National Grid yn gwmni ynni sy'n gweithredu yn y DU a'r Unol Daleithiau. Mae ein busnes yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu miliynau o bobl â'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio bob dydd, wrth chwilio'n barhaus am ffyrdd o adeiladu system ynni ddiogel, glanach a mwy fforddiadwy am y dyfodol.
Mae'r galw am ynni mwy diogel, glanach, cartref o ffynonellau mwy fforddiadwy yn cyflymu. Mae'n her fawr sy'n gofyn am ymateb mawr. Rydym yn buddsoddi £31 biliwn yn ein rhwydwaith trosglwyddo trydan dros y pum mlynedd nesaf i addasu a datblygu ein rhwydwaith o beilonau, llinellau uwchben, ceblau ac is-orsafoedd i sicrhau y gallwn ddiwallu'r galw cynyddol am drydan a chysylltu ffynonellau newydd o ynni carbon isel â chartrefi a busnesau.
Dilynwch y ddolen hon i ddysgu rhagor am ein meysydd busnes - https://www.nationalgrid.com/about-us
Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) wrth wraidd system ynni Prydain, gan gysylltu miliynau o bobl a busnesau â'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio bob dydd. Rydym yn berchen ar, yn cynnal ac yn datblygu'r rhwydwaith trosglwyddo trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cludo pŵer yn ddiogel o'r man lle caiff ei gynhyrchu i'r man lle gellir ei ddosbarthu i gartrefi a busnesau trwy rwydweithiau rhanbarthol foltedd is.
Mae NGET yn cynnig darparu dwy is-orsaf newydd ar safle ger ein is-orsafoedd presennol yn Aberddawan.
Bydd yr is-orsafoedd newydd yn parhau i fod yn bwynt cysylltu ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd ac mae ganddynt gapasiti cychwynnol wedi'i gynllunio o 1.4 GW, gyda'r potensial i godi i 2.1 GW. Capasiti presennol yr is-orsafoedd presennol yw 0.4 GW.
Bydd yr uwchraddio hwn o seilwaith hanfodol yn caniatáu i ni barhau i fwydo ynni i ardal Caerdydd i ddiwallu'r galw cynyddol.
Bydd yr is-orsafoedd wedi'u lleoli mewn dau adeilad newydd.
Bydd un is-orsaf yn cysylltu â'r rhwydwaith 275 kV a'r llall â'r rhwydwaith 132 kV.
Ar y cam hwn o'r dyluniad, mae adeilad yr is-orsaf 275 kV yn 139m x 29.2m ac yn 14m o uchder, tra bod yr un 132 kV yn 73.4m x 20.5m ac yn 13.5m o uchder.
Ein bwriad yw lliniaru effeithiau gweledol cyn belled ag y bo modd gan ddefnyddio tirlunio a sgrinio.
Mae'r gwaith llinellau uwchben arfaethedig yn cynnwys y canlynol:
Tynnu tri thŵr llinell uwchben presennol a ddisodlir gan bedwar tŵr llinell uwchben parhaol arfaethedig.
Bydd angen tri thŵr dros dro hefyd yn ystod y cyfnod adeiladu.
Byddwn yn datblygu cynllun rheoli traffig a fydd yn nodi sut rydym yn bwriadu lleihau ein hamser ar y ffyrdd, y llwybrau a gymerwn a ble byddwn yn parcio.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol ac yn cymryd arweiniad ganddynt i leihau ein heffaith ymhellach – roedd enghreifftiau'n cynnwys cyfyngu symudiadau ein cerbydau i adegau penodol o'r dydd er mwyn osgoi cyfnodau prysur.
Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o sŵn yn ystod y gwaith adeiladu, ond bydd ein contractwyr yn monitro sŵn yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn aros o fewn y lefelau a ganiateir o dan ofynion iechyd amgylcheddol lleol. Byddwn yn cynhyrchu asesiad sŵn adeiladu fel rhan o'n cais cynllunio.
Dim ond ar ôl i'r is-orsafoedd newydd gael eu cwblhau a bod yn gwbl weithredol y byddwn yn dymchwel yr is-orsafoedd presennol yn Aberddawan. Nid yw'r gwaith dymchwel yn rhan o'n cais cynllunio a byddwn yn gofyn caniatâd ar wahan oddi wrth Gyngor Bro Morgannwg.
Bydd yr is-orsafoedd newydd yn uwchraddiad ar yr is-orsafoedd presennol Capasiti’r is-orsafoedd presennol yn Aberddawan yw 0.4 GW. Bydd gan yr is-orsafoedd newydd gapasiti cychwynnol wedi'i gynllunio o 1.4 GW, gyda'r potensial i godi i 2.1 GW.
Er ein bod ni'n dymchwel yr is-orsafoedd presennol, maen nhw'n dal yn ddiogel ac yn addas at y diben a bydda nhw'n parhau i weithredu fel y mae nhw wedi gwneud nes bod yr is-orsafoedd newydd wedi'u cwblhau ac yn weithredol.
Nid ydym yn rhagweld unrhyw sŵn sylweddol pan fydd yr is-orsaf newydd arfaethedig yn weithredol. Fel arfer,mae is-orsafoedd yn cynhyrchu 'murmur' amledd isel, tebyg i'r sain o linellau uwchben pan fyddant ar waith. Fodd bynnag, i gefnogi ein cais cynllunio, byddwn yn cynnal arolygon acwstig i asesu sŵn cefndir a gweithredol, a fydd hefyd yn llywio a oes angen i ni ystyried unrhyw fesurau lliniaru, fel tirlunio a ffensio acwstig, i leihau unrhyw effeithiau posibl ar ardaloedd preswyl cyfagos.
Byddwn yn cynhyrchu asesiad sŵn gweithredol i gefnogi ein cais cynllunio terfynol.
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw lygredd golau yn cael ei gadw i'r lleiafswm yn ystod y gwaith adeiladu a phan fydd yr is-orsafoedd ar waith. Nid yw is-orsafoedd fel arfer yn cael eu goleuo yn barhaol, ac eithrio goleuadau diogelwch sy'n cael eu actifadu gan synwyryddion ar gyfer mynediad yn ystod y nos.
Byddwn yn cynhyrchu asesiad goleuo fel rhan o'n cais cynllunio terfynol.
Yn ystod y cam hwn o'r prosiect, bydd y cynlluniau mwyaf manwl yn cael eu cyflwyno yn ein digwyddiadau galw heibio a'n gweminar ar-lein. Ar ôl y digwyddiad galw heibio, byddwn yn lanlwytho'r deunyddiau a gyflwynir yn y tab 'Llyfrgell Dogfennau'.
Pan fyddwn yn cynnal ein Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais statudol (PAC), bydd pob dogfen gais drafft, gan gynnwys y cynlluniau mwyaf cyfredol, ar gael yn y 'Llyfrgell Dogfennau'.
Gallwch roi adborth neu gysylltu â ni gydag ymholiadau drwy’r canlynol:
Cwblhau'r ffurflen adborth ar-lein: re-url.uk/WG7M
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01446 501291
Ysgrifennu: Freepost ABERTHAW SUBSTATIONS (nid oes angen stamp na chyfeiriad pellach)
Dyddiad cau unrhyw sylwadau bydd 19 Hydref 2026.