Minffordd Area

Pweru twf lleol: National Grid yn gwahodd busnesau i archwilio cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi gyda phrosiect Pentir i Drawsfynydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Hydref, 08:30 i 12:30

Lleoliad: Gwesty’r Celtic Royal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AY 

Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â phrosiect atgyfnerthu Pentir i Drawsfynydd National Grid mewn digwyddiad ‘Cwrdd â’r prynwyr’.

Mewn partneriaeth â Busnes Cymru, bydd y digwyddiad yn rhoi gwybodaeth i fusnesau lleol am gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, gofynion cyflenwyr a phrosesau caffael, yn ogystal â chynnig y cyfle i gwrdd â National Grid a’i bartneriaid cyflawni Great Grid Partnership, gan gynnwys Murphy, Morgan Sindall a M Group. Bydd mynychwyr yn clywed yn uniongyrchol gan bartneriaid y prosiect am raglenni gwaith posibl a sut y gall busnesau lleol baratoi eu hunain ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â phrosiect Pentir i Drawsfynydd.

Bydd y prosiect yn atgyfnerthu ac yn adnewyddu rhannau o’r rhwydwaith trydan foltedd uchel presennol rhwng Pentir a Thrawsfynydd, gan helpu i ddarparu nifer cynyddol o ynni glân ledled Cymru.

Disgwylir i’r galw am drydan gynyddu’n sylweddol wrth i’r ffordd rydym yn pweru ein cartrefi, busnesau, diwydiant a thrafnidiaeth newid. Ochr yn ochr â’r twf mewn cynhyrchu ynni glân, bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad parhaus yn y rhwydwaith trydan. Bydd darparu’r seilwaith hwn yn gofyn am amrywiaeth eang o sgiliau, gwasanaethau ac arbenigedd, gan greu cyfleoedd i fusnesau ledled Gogledd Cymru.

Mae National Grid wedi sefydlu partneriaethau cadwyn gyflenwi hirdymor i gefnogi’r gwaith o gyflawni uwchraddiadau sylweddol i’r rhwydwaith trydan. Yn 2025, buddsoddodd National Grid £116.2 miliwn gyda chyflenwyr yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn helpu cyflenwyr i ddatblygu eu gallu, creu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogi’r gwaith o ddarparu seilwaith ynni newydd. Mae National Grid wedi ymrwymo i sicrhau bod busnesau ledled Cymru mewn sefyllfa dda i archwilio a chystadlu am gyfleoedd sy’n deillio o’i raglen fuddsoddi.

Dywedodd John Lamb, Cyfarwyddwr Prosiect National Grid:

“Mae prosiectau fel Pentir i Drawsfynydd yn cynrychioli buddsoddiad pwysig yn seilwaith Cymru ac mae potensial i gynnig cyfleoedd i fusnesau ledled Gogledd Cymru.

“Rydym am i gwmnïau lleol ddeall sut y gallant gymryd rhan, meithrin perthynas â’n partneriaid  a dysgu mwy am y nwyddau, gwasanaethau a’r arbenigedd y gallai fod eu hangen i gefnogi’r prosiect.

“Drwy weithio gyda busnesau yng Nghymru ac ar draws y DU, gallwn helpu i gryfhau’r sgiliau, y gallu a’r capasiti o fewn y gadwyn gyflenwi sydd eu hangen i gyflawni prosiectau seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol.”

Ychwanegodd Kelly Thomas, Rheolwr Ymgysylltu â’r Gadwyn Gyflenwi yn Busnes Cymru:

“Bydd y digwyddiad hwn yn helpu busnesau ledled Gogledd Cymru i ddeall prosiect Pentir i Drawsfynydd yn well, a deall mwy am sut y gall busnesau baratoi eu hunain ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda National Grid i ddod â busnesau a phartneriaid y prosiect ynghyd, a byddem yn annog cwmnïau i fynychu a chymryd rhan.”

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at fusnesau o bob maint, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu mewn sectorau megis adeiladu, tirlunio, draenio, rheoli traffig, arwynebu, gwasanaethau amgylcheddol, cludiant, diogelwch safleoedd, arlwyo, llety a gwasanaethau proffesiynol, yn ogystal â chwmnïau sydd â diddordeb mewn cefnogi prosiectau seilwaith yng Ngogledd Cymru.

Mae prosiect Pentir i Drawsfynydd yn rhan o Uwchraddio’r Grid, yr uwchraddiad mwyaf i’r rhwydwaith trydan ers cenedlaethau.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’w fynychu ac mae angen cofrestru ymlaen llaw. Gall busnesau gofrestru drwy dudalen Digwyddiadau Busnes Cymru.

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn dod yn gyflenwyr i National Grid gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd caffael, prosesau tendro a gofynion cyflenwyr wrth edrych ar:

Cadwyn Gyflenwi'r DU National Grid

Cyflenwyr Newydd National Grid