Image of new fencing at CPD Penrhyndeudraeth

Tîm pêl-droed lleol yn cael cyllid y Rhaglen Grantiau Cymunedol er mwyn gwella eu cyfleusterau

Mae’n fuddugoliaeth fawr i CPD Penrhyndeudraeth wrth iddynt ddathlu’r newyddion eu bod nhw wedi sicrhau cyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol National Grid.

CPD Penrhyndeudraeth – neu “The Cockles” – yw’r tîm pêl-droed lleol ym Mhenrhyndeudraeth, sydd drws nesaf i Finffordd, ble dechreuodd ein Peiriant Tyllu Twneli ‘Buddug’ ei siwrne cloddio twnnel blwyddyn ddiwethaf.

Mae’r clwb wedi cael £15,838 gan y Rhaglen Grantiau Cymunedol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i osod ffensys newydd o amgylch ymylon ardal chwarae'r clwb. Bydd hyn yn gwella diogelwch a hygyrchedd cyfleusterau’r clwb ar gyfer trigolion lleol, ymwelwyr a grwpiau cymuned.

Wrth siarad am ennill y cyllid, dywedodd Barry Evans, aelod pwyllgor cyffredinol yn CPD Penrhyndeudraeth:

“Da ni’n ddiolchgar iawn i National Grid am gefnogi’r prosiect. Bydd y ffensys newydd a’r giât hygyrch yn gwneud gwahaniaeth mawr yn gwella diogelwch a gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio a mwynhau’r cyfleusterau.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect VIP Eryri:

“Rydyn ni’n falch iawn bod CPD Penrhyndeudraeth wedi cael y cyllid hwn er mwyn gwneud gwelliannau angenrheidiol i’w cyfleusterau. Mae ein Rhaglen Grantiau Cymunedol wedi cael ei dylunio’n benodol i gefnogi cymunedau sy’n agos i’n gweithrediadau, felly mae’n wych gallu helpu’r clwb pêl-droed lleol yma i greu ardal chwarae fwy diogel i’r tîm a’r gymuned ehangach.”

Nod y Rhaglen Grantiau Cymunedol ydy cefnogi sefydliadau cymuned ac elusennau mewn ardaloedd y mae gweithrediadau a gweithgareddau adeiladu National Grid yn effeithio arnynt.

Bydd y cyfnod nesaf i wneud cais i’r Rhaglen Grantiau Cymunedol ar agor fis Ebrill 2026. Mae mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais ar gael ar wefan National Grid yn: nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme-welsh