Christmas photo

Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn rhannu cinio Nadolig arbennig iawn

Roedd hwyl yr ŵyl yn ei anterth ar 25 Rhagfyr wrth i dîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri gyfnewid eu hetiau caled am goron o gracyr a mwynhau gwledd draddodiadol wedi'i choginio ar y safle gan gogydd Hochtief UK. 

Er bod prif waith twnelu a chloddio’r cynllun wedi cael ei ohirio dros y Nadolig, roedd tîm bach yn dal yno i barhau i fonitro a chynnal a chadw Buddug, Peiriant Twnelu'r prosiect, yn ogystal â chwblhau rhywfaint o fân waith arwyneb ar safle’r prosiect. 

 

O ganlyniad, arhosodd cyfleuster llety Hochtief UK ym Mlaen Cefn ar agor dros gyfnod y Nadolig i’r criw a oedd angen aros ar y safle.  

 

Ar ddydd Nadolig, daeth cogydd y cyfleuster, Jeff Laight – neu ‘Jeff the Chef’ fel mae’n cael ei alw – i mewn i’r ffreutur, er nad oedd i fod ar ddyletswydd, i goginio cinio Nadolig traddodiadol i’r holl staff ar y safle. 

 

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu eistedd i lawr i fwynhau’r pryd gyda’i gilydd, cafodd y cinio Nadolig ei weini yn ystod y cyfnod pontio rhwng shifftiau yn gynnar gyda’r nos. 

 

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: “Mae rhai o'n staff twnelu wedi teithio'n bell i weithio ar safle Darpariaeth Effaith Weledol Eryri oherwydd eu sgiliau arbenigol, sy’n hanfodol i gyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus. 

 

“Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym beirianwyr a staff mor fedrus sydd wedi ymrwymo i weithio ar y prosiect ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ymdrechion y tîm a arhosodd ar y safle dros y Nadolig, gan weithio i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd i gadw popeth ar y trywydd iawn.  

 

“Roedd ein tîm yn teimlo fel un teulu mawr yn ystod y gwaith adeiladu, felly roedd yn braf gweld cydweithwyr yn dod at ei gilydd i fwynhau dathliad Nadoligaidd go iawn yng nghanol prysurdeb y gwaith arferol ar y prosiect – a hynny diolch i Jeff am fod mor hael â dod i’r safle ar Ddydd Nadolig i baratoi pryd o fwyd bendigedig.” 

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am waith y prosiect, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi.