Eryri volunteering

Gwirfoddolwyr yn garddio i roi help llaw i Barc Cenedlaethol Eryri

Mae aelodau o dîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn torchi eu llewys ac yn prysur ddod yn arddwyr o fri wrth iddyn nhw barhau â’u hymrwymiad i wirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.

Yn dilyn cyfres o weithgareddau gwirfoddoli llwyddiannus dros y chwe mis diwethaf, mae tîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri wedi cytuno ar raglen o weithgarwch misol ar gyfer 2026 gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithgareddau fel plannu coed, clirio llystyfiant, a chynnal a chadw llwybrau.

Bydd y gwirfoddolwyr yn ailgydio yn y gwaith y buont yn ei wneud gyda wardeniaid y parc yr haf diwethaf i helpu i gael gwared ar Jac y Neidiwr ar hyd Llwybr Mawddach. Rhywogaeth ymosodol anfrodorol yw planhigyn Jac y Neidiwr, neu’r ‘pla pinc’ fel mae’n cael ei alw, am ei fod yn gallu mygu planhigion brodorol, difrodi bioamrywiaeth, a gadael glannau afonydd yn agored i erydiad pan fydd yn gwywo yn yr hydref.

Yn fwy diweddar, rhoddodd y tîm eu menig garddio am eu dwylo a mynd ati i blannu planhigion mewn potiau ym meithrinfa goed Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch. Wrth iddi gynhesu dros y misoedd nesaf, byddant yn dychwelyd i helpu i blannu coed yn ardal Cwm Prysor yn Nhrawsfynydd.

Dywedodd Etta Trumper o Barc Cenedlaethol Eryri: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r timau o National Grid a Hochtief UK sy’n gweithio ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri am y cymorth ymarferol mae’n nhw wedi’i roi i ni drwy wirfoddoli corfforaethol.

“Mae eu gwaith yn clirio llystyfiant yng Nghwm Prysor ac ar hyd Aber Mawddach wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i’r tirweddau pwysig hyn, ac mae eu cymorth yn y feithrinfa goed ym Mhlas Tan y Bwlch wedi bod yn werthfawr wrth i ni baratoi coed brodorol yn barod i’w plannu’r tymor hwn. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi cyfraniad ymarferol fel hyn, ac mae’n chwarae rhan fawr yn y gwaith o ofalu am amgylchedd naturiol Eryri.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: “Mae adfer harddwch naturiol tirwedd Eryri yn rhan bwysig o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri.

“Mae hi wedi bod yn braf gweld y tîm yn cydio ynddi er mwyn helpu i warchod y dirwedd bwysig hon, ac rydyn ni’n ddiolchgar i Barc Cenedlaethol Eryri am eu partneriaeth barhaus. Edrychwn ymlaen at barhau i wirfoddoli drwy gydol 2026.”

Os oes gennych chi gwestiynau am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi.