Ynglŷn ag is-orsaf Penfro
Mae is-orsaf Penfro wedi'i lleoli mewn ardal ddiwydiannol i'r gorllewin o dref Penfro, ger yr arfordir ac ar gyrion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r safle wedi'i amgylchynu gan orsaf bŵer, purfa olew, a nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy.
Ein cynlluniau
Fel perchennog rhwydwaith trawsyrru Cymru a Lloegr, mae National Grid Electricity Transmission (NGET) wedi adnabod yr angen i ymestyn ein safle is-orsaf ym Mhenfro i helpu i gwrdd â'r galw cynyddol am drydan yn yr ardal. Fel busnes a gaiff ei reoleiddio, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu cwsmeriaid â'n rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau bod ein cynlluniau’n dod o dan y categori datblygiad a ganiateir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2019.
Mae hyn yn golygu nad oes angen caniatâd cynllunio arnom ar gyfer y gwaith.
Beth sydd wedi digwydd hyd yma
Cyn dechrau'r prif waith adeiladu, rydym wedi cynnal ystod o arolygon ac asesiadau i lywio dyluniad ein prosiect.
Beth fydd yn digwydd nesaf
- Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2026.
- Gan fod yr estyniad yn mynd i ddigwydd o fewn safle presennol is-orsaf Penfro, nid ydym yn disgwyl i'r gwaith gael llawer o effaith ar y gymuned leol.
- Bydd ein contractwr profiadol, M Group, yn gwneud y gwaith ar ein rhan.
- Bydd ein horiau gwaith rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Nid oes bwriad i gau ffyrdd na gosod mesurau rheoli traffig.
- Ni fydd y gwaith yn cael unrhyw effaith ar gyflenwadau trydan lleol.
- Byddwn yn diweddaru'r dudalen we hon wrth i'n gwaith fynd rhagddo er mwyn diweddaru pawb.
Uwchraddio'r Grid Cenedlaethol yng Nghymru
Cynllun Uwchraddio'r Grid Cenedlaethol yw'r trawsnewidiad mwyaf o'r grid trydan ers cenedlaethau. Mae ein prosiectau seilwaith ledled Cymru a Lloegr yn helpu i gysylltu mwy o ynni diogel, glân a lleol, o ffynonellau mwy fforddiadwy, â'ch cartrefi a'ch busnesau.
Cafodd grid trydan y DU ei adeiladu'n wreiddiol i gysylltu trydan a gynhyrchwyd mewn gorsafoedd pŵer o danwydd ffosil, fel glo o Ogledd a Chanolbarth Lloegr a De Cymru.
Wrth i'r DU symud oddi wrth danwydd ffosil a thuag at gynhyrchu mwy o ynni glân, byddwn ni i gyd yn defnyddio mwy o drydan nag erioed o'r blaen. Disgwylir i'r galw am drydan gynyddu 50% erbyn 2035, a dyblu erbyn 2050, wrth i ni ddatgarboneiddio'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel gwresogi a thrafnidiaeth.
Er mwyn trawsnewid i ffynonellau ynni diogel, fforddiadwy a glanach, mae angen adeiladu seilwaith newydd, yn ogystal ag uwchraddio’r grid sydd eisoes yn bodoli, er mwyn cludo’r pŵer o’r lle y caiff ei gynhyrchu i lle mae ei angen, megis yng nghartrefi a busnesau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cynigion ar gyfer estyniad is-orsaf Penfro, cysylltwch â ni.
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth Gymunedol: 0800 279 3408 (Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5:30pm).
- E-bostiwch ni: [email protected]
- Ysgrifennwch atom: Freepost, National Grid CR, PO Box 6768, Warwick, CV34 9SH (nid oes angen stamp).