Prosiect adnewyddu’r llinellau pŵer uwchben rhwng Cilfynydd a Melksham
Mae’r llinell bŵer 400kV hon yn rhedeg ar hyd llwybr 106 km rhwng is-orsaf Cilfynydd ac is-orsaf Melksham yn Wiltshire.
Mae’r llinell tua 60 oed ac mae angen ei hadnewyddu os ydy hi am barhau i weithio. Byddwn yn gosod cylchedau, gwifrau dargludo, ynysyddion a ffitiadau eraill newydd ar y peilonau yn lle’r rhai presennol.
Ni fydd dim o'n gwaith yn effeithio ar gyflenwadau trydan yn yr ardal.
Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad blynyddol gwerth biliynau o bunnoedd gan National Grid i gynnal ac uwchraddio ei seilwaith trawsyrru trydan. Mae’r rhaglen adnewyddu yn cynnwys The Great Grid Upgrade, y gwaith ailwampio mwyaf ar y grid trydan ers cenedlaethau. Mae ein prosiectau seilwaith ledled Cymru a Lloegr yn helpu i gysylltu mwy o ffynonellau ynni fforddiadwy, adnewyddadwy a lleol â chartrefi a busnesau.
Bydd ein gwaith yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad trydan diogel a dibynadwy i gartrefi a busnesau yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr am flynyddoedd i ddod.
Cam un – 2026
Rhwng mis Awst a mis Hydref 2026, byddwn yn cynnal cam cyntaf y gwaith adnewyddu ar y rhan o’r llinell uwchben sy’n rhedeg o ogledd-ddwyrain Llanbradach, i’r gogledd o Fedwas a Threthomas, tuag at gyffiniau Llanfihangel-y-fedw.
Cyn dechrau ar y prif waith, mae angen i ni wneud ychydig o waith clirio llystyfiant yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2026. Mae angen i ni glirio rhywfaint o lystyfiant o amgylch gwaelod rhai peilonau ac o dan linellau trydan uwchben er mwyn i’n contractwyr allu gweithio’n ddiogel.
Mae National Grid wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar fywyd gwyllt lleol a’r amgylchedd. Byddwn yn gweithio gydag ecolegydd pan fyddwn yn cael gwared â’r llystyfiant i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o'r llystyfiant yn cael ei glirio.
Bydd ychydig bach iawn o ffyrdd, llwybrau troed a llwybrau ceffylau yn cael eu cau dros dro er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a’n gweithlu tra byddwn yn gweithio uwchben.
Byddwn yn ysgrifennu at drigolion a busnesau cyfagos y gallai hyn effeithio’n benodol arnynt, i roi gwybod iddynt beth sy’n digwydd a phryd. Sylwch y gall union amseriad ein gwaith newid ar fyr rybudd, oherwydd ffactorau fel y tywydd.
Ein horiau gwaith fydd rhwng 8 am a 6 pm.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am brosiect adnewyddu’r llinell bŵer uwchben 4YX rhwng Cilfynydd a Melksham, cysylltwch â ni. Gallwch:
- Ffonio ein Llinell Gymorth Gymunedol: 0800 188 4478
- Anfon e-bost: [email protected]
View this page in English
National Grid Energy Transmission (NGET) sy’n berchen ar y rhwydwaith trawsyrru trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr ac yn ei weithredu. Mae NGET yn datblygu, yn berchen ar ac yn cynnal y seilwaith ffisegol, fel peilonau a cheblau, sydd ei angen i symud trydan sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau pŵer ar hyd a lled y wlad.
Mae’r llinell tua 60 oed ac mae angen ei hadnewyddu er mwyn parhau i’w defnyddio. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu cyflenwad trydan diogel a dibynadwy i gartrefi ac i fusnesau yn eich ardal am flynyddoedd i ddod. Mae’r gwaith adnewyddu yn rhan o fuddsoddiad blynyddol gwerth biliynau o bunnoedd gan National Grid i gynnal ac i uwchraddio ei seilwaith trawsyrru trydan.
Er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gallu digwydd mor ddiogel ac effeithlon â phosibl, byddwn yn gwneud nifer o weithgareddau cyn y prif waith, ac rydym yn galw hwn yn waith galluogi.
Bydd hyn yn cynnwys:
• Clirio llystyfiant a thocio coed
• Gosod sgaffaldiau, ac o bosibl traciau, mewn caeau
• O bosibl lledu mynedfeydd cul at ffyrdd.
Mae angen i ni glirio llystyfiant o amgylch gwaelod rhai peilonau ac o dan linellau trydan uwchben er mwyn i’n contractwyr allu gweithio’n ddiogel.
Mae National Grid wedi ymrwymo i greu cyn lleied o effaith â phosibl ar fywyd gwyllt lleol a’r amgylchedd. Byddwn yn gweithio gydag ecolegydd pan fyddwn yn cael gwared â’r llystyfiant i sicrhau ein bod ond yn clirio’r llystyfiant mae angen i ni ei glirio a dim mwy. Bydd yr holl waith clirio llystyfiant yn cael ei wneud yn unol â'r canllawiau a'r caniatâd a roddir gan yr awdurdodau perthnasol.
Cyn dechrau unrhyw brosiect, byddwn yn cynnal asesiad amgylcheddol o unrhyw ardaloedd y gallai ein gwaith effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori ag amrywiaeth eang o grwpiau amgylcheddol lleol a thirfeddianwyr i sicrhau, lle bo'n bosibl, ein bod yn osgoi unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd neu darfu ar fywyd gwyllt.
O bryd i’w gilydd, efallai bydd angen i ni osod rhai mesurau rheoli traffig dros dro wrth ymyl ein gwaith, megis gosod goleuadau traffig dros dro, lleihau terfynau cyflymder a gosod conau a rhwystrau. Efallai bydd angen i ni gau rhai ffyrdd a lonydd bach a bydd arwyddion clir yn cael eu gosod i ddangos y llwybrau gwyro. Os bydd angen i ni gau neu gyfyngu ar lefydd parcio ar ffyrdd yn yr ardal, byddwn yn ysgrifennu atoch ymlaen llaw i roi gwybod i chi.
Byddwn yn cynnal mynediad i bob eiddo ar hyd y llwybr yn ystod y gwaith. Os ydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn debygol o darfu wrth ymyl eich eiddo, byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw gyda rhagor o wybodaeth.
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn tarfu cyn lleied â phosibl.
Pan fydd y llinell uwchben yn croesi Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Hawliau Tramwy Caniataol, efallai bydd yn rhaid i ni gau neu ddargyfeirio rhannau byr o lwybrau troed dros dro.
Os bydd angen cau neu ddargyfeirio llwybr troed, byddwn yn arddangos hysbysiadau ymlaen llaw ac yn gosod arwyddion dargyfeirio mewn unrhyw bwyntiau lle bydd y llwybr yn cau, cyn i’r gwaith ddechrau.
Bydd yn rhaid defnyddio llifiau cadwyn i wneud rhywfaint o'r gwaith clirio llystyfiant cychwynnol, ac efallai byddwch yn eu clywed. Nid yw'r gwaith sy'n gysylltiedig â newid y dargludyddion uwchben fel arfer yn swnllyd a bydd yn cael ei wneud ar dir preifat. Fel arfer mae’n cael ei wneud oddi wrth ardaloedd preswyl. Byddwn yn gweithio'n galed i greu cyn lleied o sŵn â phosibl, ond os byddwch chi yn yr awyr agored ac yn agos at y llinell efallai byddwch chi'n sylwi ar rywfaint o sŵn o'r prosiect o bryd i'w gilydd.
Ni fydd dim o'n gwaith yn effeithio ar gyflenwadau trydan yn yr ardal unrhyw bryd.
Bydd ein tîm yn gwneud y prif waith adnewyddu fesul adran ar hyd llwybr cyfan y llinell uwchben rhwng 2026 a 2030. Mae cam cyntaf y gwaith yn cynnwys y rhan o'r llinell sy'n rhedeg o Gilfynydd i ardal Llanfihangel-y-fedw. Rydym yn disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gario allan rhwng mis Awst a mis Hydref 2026.
Rydym yn defnyddio proses gymhleth o'r enw tynnu ceblau, sy'n cael ei gwneud gan beirianwyr medrus iawn ac mae angen cynllunio’r gwaith yn ofalus.
Mae'r gwifrau sy'n cludo'r trydan fel arfer yn cael eu gosod mewn adrannau o tua 10 peilon neu fwy ar y tro. Rydym yn newid yr adrannau hyn drwy dynnu’r cebl newydd i fyny ar y peilonau gyda pheiriannau. Mae gennym safleoedd gwaith ar bob pen i adran o beilonau o’r enw ‘safleoedd tynnu’ a ‘safleoedd tensiwn’. Pan fydd angen, rydym hefyd yn defnyddio sgaffaldiau a rhwydi dros dro i ddiogelu ac i osod ceblau dros rwystrau fel ffyrdd, rheilffyrdd ac afonydd.
Byddwn yn gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau rhwng 7yb a 6yp, a'n nod yw tarfu cyn lleied â phosibl. Cofiwch y gall amseroedd ein gwaith newid.
Bydd faint o draffig sy’n mynd yn ôl ac ymlaen o'r peilonau yn dibynnu ar leoliad a natur ein gwaith ym mhob ardal. Er y byddwch o bosibl yn sylwi ar gynnydd mewn traffig yn ystod rhai camau o’n gwaith, byddwn yn rheoli pob symudiad er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ffyrdd lleol.
Rydym yn gwneud y gwaith hwn o dan hawliau datblygu a ganiateir National Grid ar gyfer seilwaith cenedlaethol hanfodol. Mae hyn yn golygu nad oes arnom angen caniatâd cynllunio i wneud y gwaith adnewyddu.
Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau allweddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau caniatadau a thrwyddedau penodol ar wahân sydd eu hangen arnom i wneud ein gwaith. Pan fydd angen i ni gau ffyrdd dros dro, byddwn yn gweithio gyda chynghorau cymuned a sir i drefnu hyn ac i gynllunio llwybrau gwyro. Bydd angen i ni groesi rhywfaint o dir preifat i wneud y gwaith, ac rydym eisoes wedi bod yn siarad â'r tirfeddianwyr perthnasol am hyn.
Efallai bydd angen i ni osod rhywfaint o sgaffaldiau cyn y prif waith adnewyddu, sy'n dechrau ym mis Awst. Mae gosod sgaffaldiau'n golygu ein bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar ffyrdd ac ar fusnesau o dan y llinell drydan uwchben.
Efallai bydd angen i ni ledu rhai lleoliadau ceg cloch (mynedfeydd ffyrdd) er mwyn i ni allu cael mynediad diogel ac effeithlon at y llinell drydan uwchben gyda'n peiriannau. Os bydd angen, byddwn yn gwneud y gwaith hwn cyn y prif waith adnewyddu er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Efallai bydd angen i ni osod traciau dros dro mewn caeau i gyrraedd y llinell drydan uwchben.
Cilfynydd to Melksham overhead power line refurbishment project
This overhead 400kV power line runs over a 106 km route between our Cilfynydd substation in South Wales and our Melksham substation in Wiltshire.
The line is around 60 years old and needs to be refurbished if it is to continue to function. We will replace existing circuits, conductor wires, insulators and other fittings on the pylons.
None of our work will affect electricity supplies in the area.
The refurbishment forms part of National Grid’s multibillion pound annual investment in maintaining and upgrading its electricity transmission infrastructure. The investment programme includes The Great Grid Upgrade, the largest overhaul of the electricity grid in generations. Our infrastructure projects across England and Wales are helping to connect more affordable sources of home-grown and renewable energy to homes and businesses
Our work will ensure we can continue to provide a safe and reliable supply of electricity to homes and businesses in South Wales and the West of England for years to come
Phase one - 2026
Between August and October 2026, we are carrying out phase one of the refurbishment on the section of the overhead line that runs from north east of Llanbradach, north of Bedwas and Trethomas, to near Michaelstone-y-Fedw.
Ahead of starting the main work, we need to carry out some preparatory vegetation clearance works in January and February 2026. We need to clear some vegetation from around the base of some pylons and underneath overhead electricity lines so that our contractors can work safely.
National Grid is committed to ensuring as little impact on local wildlife and the environment as possible. We will work with an ecologist when we remove the vegetation to ensure the clearance is kept to a minimum.
There will be very limited temporary road, footpath and bridleway closures to ensure the safety of members of the public and our workforce while we are working overhead.
We will write to residents and businesses nearby that may be particularly affected to let them know what is happening and when. Please note that the exact timings of our work may change at short notice because of factors such as the weather.
Our working hours will be 7 am to 6 pm.
Contact us
If you have any questions about the Cilfynydd to Melksham 4YX overhead power line refurbishment project, please get in touch. You can:
- Call our Community Helpline: 0800 188 4478
- Email: [email protected]
National Grid Energy Transmission (NGET) owns and maintains the high-voltage electricity transmission network in England and Wales. NGET develops, owns and maintains the physical infrastructure, such as pylons and cables, needed to move electricity generated from power sources around the country.
The line is around 60 years old and needs to be refurbished if it is to continue to function. This refurbishment will ensure we can continue to provide a safe and reliable supply of electricity to homes and businesses in your area for years to come. The refurbishment forms part of National Grid’s multibillion pound annual investment in maintaining and upgrading its electricity transmission infrastructure.
To ensure our work can happen as safely and efficiently as possible, we will be carrying out a number of activities in advance of the main works, which we describe as enabling works.
These will include:
- Vegetation clearance and tree lopping
- Installing scaffolding, and potentially trackways, in fields
- Possible widening of road entrances at narrow access points.
We need to clear vegetation from around the base of some pylons and underneath overhead electricity lines so that our contractors can have safe access to work sites.
National Grid is committed to having as little impact on local wildlife and the environment as possible. We will work with an ecologist as we remove the vegetation to ensure that what we clear is proportionate. All vegetation clearance will be undertaken in line with the guidance and consent provided by the relevant authorities.
Before beginning any project, we carry out an environmental assessment of any areas that may be affected by our work. This includes consulting with a wide range of local environmental groups and landowners to ensure that where possible, we avoid any potential impact on the environment or disruption to wildlife.
At times, we may need to install some temporary traffic management measures near our works such as temporary traffic lights, speed limit reductions and cones and barriers. There may also be a number of closures to small roads and lanes, where diversion routes will be clearly signed. If we need to close or restrict parking on roads in the area, we will write to you in advance and let you know.
We will maintain access to all properties along the route during the works. If we anticipate that the work is likely to cause any disruption near your property, we will contact you in advance with more information.
We will do all we can to ensure that we cause as little disruption as possible.
Where the overhead line crosses Public Rights of Way (PRoW) and Permissive Rights of Way, we may need to enforce short, temporary footpath closures or diversions.
In the case of a footpath closure or diversion, we will put up advanced notices and diversion signs at any closure points before the work starts.
Some of the initial vegetation clearance works will require the use of chainsaws, which you may hear. The work involved in replacing the overhead conductors is not usually noisy and will be taking place on private land. It generally takes place away from residential areas. We will work hard to keep any noise to a minimum, but if you are outdoors and near the line you may occasionally notice some noise from the project.
None of our work will affect electricity supplies in the area at any time.
Our team will carry out the main refurbishment works in sections along the entire overhead line route between 2026 and 2030. The first phase of the work covers the part of the line running from Cilfynydd to the area of Michaelstone-y-Fedw. We anticipate for this work taking place between August and October 2026.
We use a complex process called cable pulling, which is undertaken by highly skilled engineers and requires careful planning.
The wires which carry the electricity are usually installed in sections of about 10 or more pylons at a time. We replace these sections by pulling the new cable up onto the pylons with machinery. We have work sites at each end of a section of pylons called ‘pulling sites’ and ‘tensioning sites’. Where needed, we also use temporary scaffolding and netting to protect and install cables over obstacles such as roads, railway lines and rivers.
We will be working weekdays and weekends between the hours of 7am and 6pm, and aim to keep any disruption to a minimum. Please be aware that the timings of our work are subject to change.
The amount of traffic going to and from the pylons will depend on the location and the nature of our work in each area. While you may notice an increase in traffic during some stages of our work, we’ll control all movements to limit any disruption on local roads.
We are undertaking this work under National Grid’s permitted development rights for essential national infrastructure. This means we do not require planning permission to carry out the refurbishment.
We are working closely with key organisations such as Natural Resources Wales to secure separate specific permissions and licences we need to do our work. Where we need to temporarily close roads, we will work with community and county councils to organise these and plan diversion routes. We will need to cross some private land to carry out the work, and have already been talking with the relevant landowners regarding this.
We may need to install some scaffolding in advance of the main refurbishment works, which begin in August. Installing scaffolding allows us to minimise disruption to roads and businesses underneath the overhead electricity line.
We may need to widen some bellmouths (road entrances) so we can safely and efficiently access the overhead electricity line with our machinery. If it is required, we will carry out this work in advance of the main refurbishment works to keep disruption to a minimum.
We may also need to install some temporary trackways in fields to access to the overhead electricity line.