Llandecwyn bench

Tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn trawsnewid dwy fainc yn Llandecwyn

Yn dilyn cais gan gynghorwyr lleol sy’n cynrychioli Llandecwyn, aeth aelodau o dîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ati i adfer dwy fainc gymunedol boblogaidd.

Roedd y ddwy fainc wedi cael eu hail-bwrpasu’n wreiddiol o waelod Cilfor yn dilyn grant i ariannu prosiect gwella pentrefi lle gosodwyd meinciau a gwelyau blodau newydd. 

Yn dilyn cais gan gynghorwyr lleol, aeth aelodau o dîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri â’r meinciau i safle eu prosiect i’w hadnewyddu. Yno, cafodd y pren ei sandio, rhoddwyd darnau newydd yn lle rhannau a oedd wedi’u difrodi, a chafodd y meinciau eu hailbeintio.

Roedd gwirfoddolwyr o Hochtief UK (HUK), prif gontractwr cynllun Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, yn falch o gefnogi’r gymuned leol drwy helpu i adfer meinciau sy’n eiddo i Gyngor Cymuned Talsarnau, gan sicrhau bod modd eu mwynhau unwaith eto fel mannau seibiant i bobl leol ac ymwelwyr sy’n mwynhau’r golygfeydd godidog dros Aber Afon Dwyryd.

Cyn gosod y meinciau, aeth y gwirfoddolwyr ati i glirio’r llystyfiant trwchus a gordyfiant o ddau olygfan uwchben Ffordd Bryn Eithin, lle'r oedd y meinciau yn arfer bod. Yna cafodd y meinciau ar eu newydd wedd eu gosod yn sownd, gan ail-greu dau fan seibiant deniadol a gwella mynediad i’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Birks: “’Dan ni’n ddiolchgar i wirfoddolwyr HUK o dîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri sydd wedi rhoi o’u hamser i helpu Cyngor Cymuned Talsarnau drwy adfer y man seibiant pwysig hwn i’w hen ogoniant. ’Dan ni wrth ein bodd bod y meinciau wedi cael eu hadnewyddu a bod y gymuned ac ymwelwyr unwaith eto’n gallu mwynhau lle hyfryd i aros ennyd a mwynhau’r golygfeydd o Fryn Eithin.”

Dywedodd Ben Davies, Swyddog Cyswllt Cyhoeddus HUK ar gyfer Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: “Roedden ni’n croesawu’r cyfle arall hwn i’r tîm fwrw iddi a chefnogi’r gymuned leol. ’Dan ni’n falch o helpu i warchod a gwella harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri drwy ein rhaglen wirfoddoli fisol, ac roedden ni’n falch o wneud y gwaith ychwanegol hwn i adfer y meinciau yn Llandecwyn.”

Os oes gennych chi gwestiynau am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi.