South Snowdonia Search and Rescue team

Tîm Chwilio ac Achub De Eryri yn cael cyllid gan y Rhaglen Grantiau Cymunedol i helpu â gweithrediadau achub

Mae Tîm Chwilio ac Achub De Eryri wedi cael cyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid i brynu offer allweddol i gefnogi gweithrediadau pan fo'r tîm yn cael eu galw mewn argyfwng.

Os bydd argyfwng ar fynydd yn rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r sefydliad elusennol yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i helpu i ganfod ac achub pobl sydd ar goll, pobl sy’n agored i niwed, pobl sydd wedi’u hanafu neu bobl na all ddal ati. Mae’r tîm yn fach ond maen nhw’n gwasanaethu 800 cilomedr sgwâr o dir gwyllt, garw a phrydferth, syn cynnwys mynyddoedd, rhostir a thir amaethyddol, yn ogystal ag afonydd a llynnoedd.

Dyfarnwyd £16,000 i dîm Chwilio ac Achub De Eryri gan y Rhaglen Grant Cymunedol i brynu cludwely ac olwynion cludwely newydd i helpu gweithrediadau achub ar dir anodd, radios digidol i'w defnyddio wrth ymateb i alwadau a siacedi ysgafn i’r tîm.

Wrth sôn am y grant, dywedodd Siân Evans, swyddog codi arian Tîm Chwilio ac Achub De Eryri:

“Mae’r cyllid wedi caniatáu i ni gael offer newydd hanfodol er mwyn i ni allu parhau i helpu pobl sy’n mynd i beryglon wrth fwynhau ym Mharc Cenedlaethol Eryri .

Rydym ni’n gwasanaethu ardaloedd gwyllt y Parc Cenedlaethol, ac mae llawer o gerddwyr a dringwyr yn ymweld â’r ardaloedd hyn bob blwyddyn. Yn y tirweddau anodd hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn gallu ymateb yn gyflym i alwadau argyfwng, a bydd hyn yn llawer haws gyda’r offer newydd rydym ni wedi gallu ei brynu gydag arian y grant.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri:

“Bydd y cyllid gan y National Grid yn helpu Tîm Chwilio ac Achub De Eryri i ddal ati i ddarparu gwasanaeth achub bywyd hollbwysig. Bwriad y Rhaglen Grantiau Cymunedol yw cefnogi sefydliadau lleol nid-er-elw, felly mae’n wych gweld y cyllid hwn yn mynd i sefydliad sydd wedi ymrwymo i gadw’r gymuned a'r bobl sy’n ymweld â’r ardal yn ddiogel.”

Mae’r Rhaglen Grantiau Cymunedol wedi ei hanelu at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gweithgareddau adeiladu a gweithredoedd Trosglwyddiad Trydan y National Grid yn effeithio arnynt.

Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer y Rhaglen Grantiau Cymunedol yn agor ym mis Ebrill 2026. Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a sut mae gwneud cais ar gael ar wefan y National Grid: https://www.nationalgrid.com/community-grant-programme