Peirianwyr o dîm Darpariaeth Weledol Eryri yn cyfnewid eu helmedi am fenig garddio
Cafodd tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri gyfle i arddio unwaith eto yn ystod diwrnod o wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri
Fel rhan o’n rhaglen fisol o weithgareddau gwirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, treuliodd aelodau o dîm y prosiect ddiwrnod yng nghyffiniau’r draphont drawiadol o’r 19eg ganrif yng Nghwm Prysor ger Trawsfynydd.
Ar ôl cael dechrau glawog i 2026, cafodd y gwirfoddolwyr heulwen braf wrth iddynt fynd ati i blannu coed. Cafodd bron i 400 o goed eu plannu’n llwyddiannus yn ystod y dydd.
Bydd y coed hyn yn ffurfio rhan o goetir newydd yn y parc cenedlaethol a fydd o fudd mawr i fywyd gwyllt lleol ac yn helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. Gan fod y tymor plannu coed yn fyr, roedd cael ychydig o ddwylo ychwanegol i helpu yn hanfodol.
Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect rhaglen Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: “Mae ein partneriaeth barhaus â Pharc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi sawl cyfle i ni gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth adfer a gwella’r dirwedd naturiol leol.
“Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r tîm ym Mharc Cenedlaethol Eryri am roi cyfle i ni gymryd rhan a chefnogi, ac i’n cydweithwyr yn y National Grid a Hochtief UK am dorchi eu llewys i helpu.”
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, neu os ydych chi’n gwybod am unrhyw sefydliadau lleol eraill y gallwn ni eu cefnogi drwy wirfoddoli, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi.