Oriau gwaith estynedig ar safle’r prosiect yn Llandecwyn
Bydd tîm y prosiect yn gweithio oriau estynedig ddydd Sadwrn 1 Awst a dydd Iau 6 Awst er mwyn cwblhau gwaith angenrheidiol ar safle’r prosiect yn Llandecwyn.
Byddwn yn gweithio shifft 12 awr ddydd Sadwrn 1 Awst ac yn gweithio’n barhaus am 24 awr rhwng tua 5am ddydd Iau 6 Awst hyd at oriau mân bore Gwener 7 Awst.
Mae'r gweithgaredd hwn yn digwydd gyda chaniatâd yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Pwrpas y gwaith hwn yw caniatáu i ni adeiladu slab concrit ar waelod y siafft dderbyn ar ein safle yn Llandecwyn, a fydd yn ein galluogi i godi'r Peiriant Tyllu Twnnel (TBM) allan o'r ddaear pan fydd wedi gorffen twnelu ar draws yr aber.
Mae angen i ni weithio oriau ychwanegol ddydd Sadwrn 1 Awst 2026 i ganiatáu i ni gwblhau gosod metel atgyfnerthu cyn tywallt y concrit. Bydd hyn yn sicrhau sefydlogrwydd strwythurol y slab sylfaen trwy ychwanegu atgyfnerthiad dur.
Mae angen i ni weithio'n barhaus am 24 awr o ddydd Iau 6 Awst hyd fore Gwener 7 Awst oherwydd bod cyfanrwydd strwythurol y slab concrit yn dibynnu ar dywallt concrit parod yn ddi-stop. Ni ellir tywallt yr holl goncrit sydd ei angen yn ddiogel yn ystod ein horiau gwaith arferol.
Bydd y concrit parod yn cael ei ddanfon o Borthmadog mewn cerbyd cymysgydd concrit. Disgwylir y bydd angen tua 63 o ddanfoniadau concrit i gyd. Ni fydd angen cau unrhyw ffyrdd oherwydd y gweithgaredd hwn.
Ar ôl ei ddanfon, bydd y concrit yn cael ei bwmpio i waelod y siafft gan ddefnyddio pwmp concrit pwrpasol wedi'i leoli wrth dop y siafft. Bydd rhwystrau lleihau sŵn dros dro yn cael eu codi yn agos at y pwmp concrit i leihau unrhyw sŵn a achosir.
Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra neu aflonyddwch a allai gael ei achosi gan y gwaith ychwanegol hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni ymgymryd â'r cam hwn o brosiect Eryri VIP.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater sy'n ymwneud â'r prosiect, cysylltwch â'n Tîm Cysylltiadau Cymunedol ar 0800 019 1898 rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl.