Oriau gwaith dros ŵyl y banc diwedd Mai ar safle prosiect Llandecwyn
Bydd ein tîm prosiect yn parhau i wneud gwaith hanfodol ar safle ein prosiect yn Llandecwyn dros benwythnos gŵyl y banc diwedd Mai.
Dros y penwythnos hir, bydd ein tîm yn gweithio ar y safle yn ystod yr amseroedd canlynol:
- 7:00am – 6:00pm ddydd Sadwrn 23 Mai
- 7:00am – 6:00pm ddydd Sul 24 Mai
- 7:00am – 7:00pm ddydd Llun 25 Mai
Mae'r gweithgaredd hwn yn digwydd gyda chaniatâd yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Byddwn yn monitro lefelau sŵn i sicrhau ein bod yn achosi cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i'n cymdogion.
Diben y gwaith hwn yw caniatáu i ni dynnu hoist yn ddiogel o'r siafft yn Llandecwyn. Bydd gwneud hyn dros ŵyl y banc yn helpu i leihau'r risg i staff y safle a gweithgareddau eraill y safle gan mai dim ond aelodau'r tîm sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithrediadau codi sydd angen bod yn bresennol. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddiogelwch y gwaith, sy'n ymwneud ag offer codi mawr ac anhylaw.
Byddwn yn dechrau tynnu'r hoist ddydd Sadwrn 23 Mai ac yn cwblhau'r gwaith ddydd Sul 24 Mai. Os byddwn yn profi unrhyw oedi oherwydd y tywydd neu ffactorau eraill, efallai y bydd angen i ni orffen y gwaith tynnu ddydd Llun 25 Mai. Ar ôl i'r hoist gael ei thynnu, byddwn yn ailddechrau ein gweithgareddau adeiladu siafft arferol.
Ni ddylai'r gwaith codi greu unrhyw sŵn ychwanegol ar y safle, ac ni fyddwn yn mynd y tu hwnt i drothwyon sŵn y cytunwyd arnynt.
Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra neu aflonyddwch a allai gael ei achosi gan y gwaith ychwanegol hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni ymgymryd â'r cam hwn o brosiect Eryri VIP.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater sy'n ymwneud â'r prosiect, cysylltwch â'n Tîm Cysylltiadau Cymunedol ar 0800 019 1898 rhwng 9:00am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl.