Llandecwyn shaft

Oriau gwaith dros ŵyl y banc ddechrau Mai ar safle prosiect Llandecwyn

Bydd ein tîm prosiect yn parhau i wneud gwaith adeiladu hanfodol ar safle ein prosiect yn Llandecwyn dros benwythnos gŵyl y banc ddechrau Mai.

Dros y penwythnos hir, bydd ein tîm yn gweithio ar y safle yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • 7:00am – 7:00pm ddydd Gwener 1 Mai
  • 7:00am – 1:00pm ddydd Sadwrn 2 Mai
  • 7:00am – 7:00pm ddydd Llun 4 Mai

Ni fyddwn yn gweithio ddydd Sul 3 Mai.

Mae'r gweithgaredd hwn yn digwydd gyda chaniatâd yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Byddwn yn monitro lefelau sŵn i sicrhau ein bod yn achosi cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i'n cymdogion.

Pwrpas y gwaith yw ein galluogi i barhau i gloddio'r siafft dderbyn yn ein safle yn Llandecwyn, a fydd yn caniatáu i ni godi'r Peiriant Tyllu Twnnel (TBM) allan o'r ddaear pan fydd wedi gorffen twnelu o dan yr aber.

Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra neu aflonyddwch a allai gael ei achosi gan y gwaith ychwanegol hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni ymgymryd â'r cam hwn o brosiect Eryri VIP.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater sy'n ymwneud â'r prosiect, cysylltwch â'n Tîm Cysylltiadau Cymunedol ar 0800 019 1898 rhwng 9:00am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl.