Neuadd Gymunedol Talsarnau yn cael cyllid i wella eu defnydd o ddŵr
Fel rhan o Raglen Grantiau Cymunedol y Grid Cenedlaethol, mae ychydig dros £8,000 wedi’i ddyfarnu i Neuadd Gymunedol Talsarnau i gynnal prosiect a fydd yn lleihau eu defnydd o ddŵr.
Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i brynu a gosod basnau ymolchi, tapiau i arbed dŵr a thoiledau sy’n helpu’r neuadd gymunedol i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei wastraffu a hyrwyddo cynaliadwyedd yr ased cymunedol pwysig hwn. Bydd rhywfaint o’r cyllid hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i adfer waliau’r ystafelloedd ymolchi a gosod llawr gwrthlithro.
Mae’r neuadd yn rhan annatod o’r gymuned yn Nhalsarnau ac yn darparu llu o gyfleoedd i drigolion gymdeithasu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phwyllgorau. Mae gwella amwynderau’r lleoliad yn sicrhau bod mwy o bobl leol yn gallu manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Wrth sôn am yr effaith y bydd y cyllid yn ei chael ar gymuned Talsarnau, dywedodd Carwyn Richards, trysorydd Neuadd Bentref Talsarnau:
“Bydd y cyllid hwn gan y Grid Cenedlaethol yn ein helpu i ddefnyddio dŵr mewn ffordd llawer mwy effeithlon a chynaliadwy yn y neuadd gymunedol. Ein gobaith yw y bydd y cyfleusterau gwell hefyd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gofod. Fel pwyllgor, hoffem ddiolch i’r Grid Cenedlaethol am ein helpu i wella’r ased hwn, sy’n rhan hanfodol o’n cymuned.”
Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri:
“Rydym yn falch y bydd y cyllid y mae’r Grid Cenedlaethol wedi’i ddarparu yn helpu Cymuned Talsarnau i wneud gwelliannau a fydd yn lleihau gwastraff. Mae’n wych gweld y cyllid hwn yn mynd tuag at wella gofod cymunedol gwerthfawr i bobl leol yn Nhalsarnau a’r ardaloedd cyfagos.”
Mae’r Rhaglen Grantiau Cymunedol wedi ei hanelu at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gweithgareddau adeiladu a gweithredoedd Trosglwyddiad Trydan y National Grid yn effeithio arnynt.
Y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer y Rhaglen Grantiau Cymunedol yw mis Gorffennaf 2026. Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a sut mae gwneud cais ar gael ar wefan y National Grid: https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme-welsh