Mae prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri wedi cyrraedd carreg filltir bwysig drwy lansio Buddug, ein Peiriant Twnelu (TBM).
Bydd Buddug yn cael ei defnyddio i gloddio’r twnnel ar gyfer y ceblau trydan tanddaearol a fydd yn disodli’r 3km o linellau uwchben a’r 10 peilon sy’n croesi Aber Afon Dwyryd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae hi bellach wedi cychwyn ar ei thaith 3.4km o’n prif safle ym Minffordd, tuag at Landecwyn.
I nodi’r garreg filltir bwysig hon yn y prosiect, ac i ddangos ein gwerthfawrogiad i’r rheini sydd wedi’n helpu ni i gyrraedd y pwynt hwn, fe wnaethom gynnal dau ddigwyddiad ddiwedd mis Ebrill.
Cynhaliom ddiwrnod agored cymunedol ddydd Sadwrn 26 Ebrill, lle cafodd ein cymdogion agosaf eu gwahodd i safle prosiect VIP Eryri i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a’u hamynedd, ac i roi cyfle iddynt ddysgu mwy am y prosiect. Roedd y diwrnod yn cynnwys ymweliad â Chanolfan Wybodaeth y Prosiect, lle’r oedd tîm y prosiect wrth law i ateb cwestiynau ac i egluro mwy am y prosiect. Yna, cafodd cymdogion y safle eu tywys o amgylch safle’r prosiect a chawsant gyfle i gael cipolwg ar Buddug.
Yn dilyn ein diwrnod cymunedol, cynhaliwyd digwyddiad lansio i randdeiliaid ddydd Llun 28 Ebrill yng Nghastell Deudraeth, Portmeirion. Roedd partneriaid strategol a rhanddeiliaid y grŵp cynghori sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith ers sefydlu’r prosiect, ynghyd ag uwch swyddogion gweithredol y National Grid, yn bresennol yn y cyfarfod hwn.
Roedd y diwrnod yn cynnwys areithiau gan dîm prosiect VIP Eryri, yr amgylcheddwr arweiniol Chris Baines – Cadeirydd y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid annibynnol ar gyfer prosiectau VIP, ac Alice Delahunty, llywydd National Grid Electricity Transmission. Yna, cafodd y gwesteion eu tywys o amgylch safle’r prosiect lle cawsant weld y peiriant twnelu yn ei flwch lansio 13.8m o dan wyneb y ddaear. Mae dwy ran i’r blwch lansio ei hun ac mae’n mesur 8m o led a 69m o hyd. Mae’r peiriant twnelu yn mesur 166m o hyd, yn pwyso 436 tunnell, a bydd yn cael ei ostwng i’r blwch mewn segmentau. Ar ôl ei gwblhau, hwn fydd un o’r twneli hiraf yng Nghymru.
Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect VIP Eryri:
Roedd yn wych gallu croesawu ein cymdogion a’n rhanddeiliaid i safle’r prosiect ar gyfer y cyfle prin hwn i weld Buddug cyn ei thaith.
Mae’r holl bobl hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i gyrraedd cam mor hanfodol yn y diwydiant adeiladu, a hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad.
Mae Buddug bellach wedi cychwyn ar ei thaith dwnelu o dan yr aber – taith a ddylai gael ei chwblhau yn 2026 pan fydd hi’n cyrraedd pen draw’r twnnel yn Llandecwyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.