Image outside Project Information Centre

Dysgu dwfn gan grŵp daeareg lleol ar safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri

Yn ddiweddar, croesawyd Adran Ddaeareg Prifysgol y Drydedd Oes ym Mhorthmadog gan dîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri i safle’r prosiect fel rhan o’i waith allgymorth cymunedol lleol parhaus.

Mae Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) yn sefydliad sy’n darparu cyfleoedd i bobl mwynhau gweithgareddau addysgol, creadigol a hamdden yn eu cymuned leol os ydynt wedi ymddeol, wedi lled-ymddeol neu os nad ydynt bellach mewn cyflogaeth amser llawn.

Ar eu hymweliad, roedd y grŵp yn awyddus i ddysgu mwy am y ddaeareg sydd wedi cael ei datgelu hyd yma gan brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn ystod y gwaith twnelu. 

Rhoddodd Ferenc Laviska, Rheolwr Gweithrediadau Twnnel Hochtief, gyflwyniad i’r grŵp, gan eu cyflwyno i’r broses dwnelu o dan Aber Afon Dwyryd ac egluro mwy am waith Buddug, ein Peiriant Twnelu.  

Yna cafodd y grŵp gyfle i ddysgu mwy am y canfyddiadau daearegol a gweld drostynt eu hunain y samplau o greigiau sydd wedi cael eu cloddio hyd yma o’r twnnel ac yn ystod y gwaith o adeiladu’r siafft dderbyn yn Llandecwyn. 

Dywedodd Christine Butler, cynrychiolydd grŵp Porthmadog Prifysgol y Drydedd Oes: “Fe wnaethon ni fwynhau ein hymweliad â safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn fawr iawn. Fel grŵp lleol sy’n ymddiddori mewn daeareg, roedd ymweld â phrosiect twnelu byw a gweld y gwahanol greigiau a mwynau sydd wedi’u datgelu hyd yma yn hynod o arbennig. 

Dywedodd Ben Davies, Swyddog Cyswllt Cyhoeddus Hochtief UK, a helpodd i drefnu’r ymweliad: “Roedd hi’n wych cael croesawu grŵp mor angerddol ac ymgysylltiedig i safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. Hoffem ddiolch i bawb am ddod draw ac am ddangos cymaint o frwdfrydedd am ochr ddaearegol ein prosiect. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost i [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.