Eryri pylons

Danfon adweithydd siynt 12-13.07.26

Bydd National Grid yn cludo adweithydd siynt i is-orsaf Trawsfynydd yng Ngwynedd er mwyn cefnogi’r seilwaith newydd sy’n cael ei osod ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (Visual Impact Provision – VIP) National Grid ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Bydd y prosiect yn lleihau effaith weledol y llinell drydan uwchben ar draws Aber Afon Dwyryd rhwng Minffordd a Llandecwyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri drwy dynnu 10 peilon a 3km o linell uwchben a’u disodli â cheblau trydan wedi’u claddu mewn twnnel yn ddwfn o dan y ddaear.
Mae adweithyddion siynt yn rhan hanfodol o system trawsyrru ynni foltedd uchel. Mae troi’r rhain ymlaen ac i ffwrdd yn helpu i gadw foltedd trydan yn sefydlog, gan wella dibynadwyedd y system ac effeithlonrwydd y rhwydwaith.
Bydd yr adweithydd siynt yn cyrraedd Traeth Morfa Bychan ar gwch, ddydd Sul 12 Gorffennaf. Bydd rhan o’r traeth ar gau i’r cyhoedd dros dro tra bydd yr adweithydd yn cael ei ddadlwytho, er mwyn sicrhau eu diogelwch. Yna bydd yn cael ei gludo ar hyd y ffordd i is-orsaf Trawsfynydd ddydd Llun 13 Gorffennaf.
Bydd Collett Transport, cwmni cludo nwyddau trwm arbenigol, yn rheoli’r gwaith o gludo’r adweithydd siynt ar gerbyd arbenigol mawr. Bydd angen cerbydau’r heddlu a cherbydau preifat i hebrwng yr adweithydd er mwyn rheoli traffig a sicrhau diogelwch.
Mae’r llwybr a’r amseroedd wedi cael eu cynllunio’n ofalus gydag awdurdodau priffyrdd lleol a’r heddlu er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd yr adweithydd siynt yn cael ei gludo drwy Forfa Bychan, drwy ganol Porthmadog ac ar hyd yr A497. Bydd yn croesi Britannia Terrace cyn ymuno â’r A487 ym Minffordd, gan basio drwy Faentwrog ac yna ar hyd yr A470 i’r is-orsaf.
Mae trigolion, busnesau a sefydliadau lleol ar hyd y llwybr wedi cael gwybod am y cynlluniau.
Dywedodd Mark Weightman, Rheolwr Safle, National Grid: “Er mwyn cydlynu’r gwaith o gludo’r offer trydanol hanfodol hwn, rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, sefydliadau perthnasol a’n contractwyr cludo arbenigol i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion a busnesau lleol a defnyddwyr y briffordd lle bo hynny’n bosibl.
“Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni gyflawni’r gwaith pwysig hwn.”
Gellir gwneud unrhyw ymholidadau am y gwaith danfon a chludo drwy gysylltu â thîm y prosiect drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898.
 
Image
Eryri shunt reactor delivery route