Image of pylon on the estuary

Cylchlythyr cymunedol Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: Hydref 2025

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith i drawsnewid y dirwedd naturiol ar draws Aber Afon Dwyryd

Yn y pumed rhifyn hwn o gylchlythyr y prosiect, rydyn ni’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adeiladu sydd wedi cael ei wneud ar y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys lansio ein Peiriant Twnelu, Buddug. Rydyn ni hefyd yn amlinellu ein gwaith ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid lleol a'r gymuned ehangach. 

Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau darllen hwn a dysgu mwy am ein gwaith hyd yma ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr wybodaeth sydd yn y cylchlythyr neu am y prosiect yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. 

Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu drwy ffonio 0800 019 1898 rhwng 9.00am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm eich ffonio’n ôl.

Llwythwch y cylchlythyr i lawr yma