French exchange students visiting EVIP site

“Bienvenue” i fyfyrwyr peirianneg o Ffrainc gan Dîm Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri

Yn ddiweddar, dychwelodd Coleg Menai i safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri am ail ymweliad, y tro hwn gyda grŵp o fyfyrwyr peirianneg sifil o Ffrainc a oedd ar daith gyfnewid i gampws y coleg yn Llangefni.

Dan arweiniad Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, Bryony Brown, y Peiriannydd Prosiect Twnnel a Paul Neary, Goruchwyliwr y Prosiect, dechreuodd yr ymweliad gyda chyflwyniad yng Nghanolfan Wybodaeth y Prosiect. Rhoddodd hyn rywfaint o gyd-destun i’r myfyrwyr am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn y dylent ddisgwyl ei weld ar safle’r prosiect. 

Yna, cafodd y myfyrwyr daith gerdded o amgylch safle Minffordd, lle cawsant gyfle i ddysgu mwy am weithrediad prosiect peirianneg mawr o ddydd i ddydd. 

Dywedodd Dyfed Jones, Pennaeth Adeiladu Coleg Menai, a drefnodd yr ymweliad: “Roedden ni’n awyddus i arddangos rhai o’r prosiectau adeiladu sy’n digwydd yn ein hardal ni i’n myfyrwyr cyfnewid o Ffrainc. Roedd y profiad yma wedi rhoi cyfle gwych iddyn nhw ymweld â phrosiect seilwaith mawr yng Nghymru, gan adeiladu ar eu hastudiaethau peirianneg sifil ac ehangu eu profiad y tu hwnt i’r hyn y gallent fod wedi dod ar ei draws yng nghanol Ffrainc.”

Image
French exchange students in project information centre

Wrth edrych yn ôl ar yr ymweliad, dywedodd Steve Ellison: “Rydyn ni bob amser yn awyddus i rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, yn enwedig gyda myfyrwyr sy’n gallu elwa cymaint o weld prosiectau peirianneg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Roedden ni’n falch o fod wedi gallu rhoi’r cyfle yma i fyfyrwyr o Ffrainc a oedd yn ymweld â Choleg Menai, ar ôl croesawu grŵp o’u myfyrwyr peirianneg lleol i’r safle y llynedd. Byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â Choleg Menai wrth i ni gynllunio camau nesaf ein gwaith allgymorth addysgol parhaus.”

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost i [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.