Beth sy'n digwydd nawr?

Mae'r National Grid yn cynnal gwaith ym Mhenrhos i adeiladu Is-orsaf newydd wedi'i hinswleiddio â nwy ar safle'r hen is-orsaf, ochr yn ochr ag ailosod tua thri chilomedr o gebl trydan tanddaearol presennol a oedd gynt yn cysylltu â'r safle. Mae angen y gwaith hwn i gadw'r rhwydwaith trydan yn ddiogel ac yn ddibynadwy, ac i alluogi cwsmeriaid newydd i gysylltu â'r system drosglwyddo trydan.. 

Mae gwaith cynnar wedi cynnwys arolygon, ymchwiliadau tir a pharatoi'r safle. Mae'r prif gam adeiladu i fod i ddechrau yn haf 2026. Bydd gwaith yn digwydd ar safle'r is-orsaf ac ar hyd y llwybr cebl presennol.

Mae safle'r is-orsaf i'r de-ddwyrain o hen safle Alwminiwm Ynys Môn. Mae llwybr y cebl yn dechrau yn yr is-orsaf ac yn rhedeg yn fras ar hyd yr A5, tuag at y Fali ac ychydig y tu hwnt i Ffordd Gorad. Ar hyd y llwybr hwn, byddwn yn tynnu ac yn disodli rhannau o'r ceblau presennol gyda rhai newydd. I wneud hyn, bydd angen pwyntiau mynediad dros dro arnom, a elwir yn bellmouths, yn ogystal â defnyddio llwybrau a compounds dros dro i gefnogi'r gwaith adeiladu.

Y Diweddaraf

Prif waith ar yr is-orsaf 

Mae cynnydd da wedi'i wneud yn yr is-orsaf dros y mis diwethaf. Mae'r slab concrit ar gyfer adeilad yr is-orsaf bellach wedi'i arllwys. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig yn y rhaglen adeiladu.

Gwaith ar fynediad i'r brif ffordd

Mae dwythellau ceblau HV bellach wedi'u gosod ar y ffordd fynediad sy'n arwain at yr is-orsaf. Mae hyn yn cefnogi cam nesaf y gweithgareddau adeiladu.

Heol Gorad a'r A5 i'r dwyrain o'r Sarn - gosodiad Bellmouth

Mae'r gwaith ar y Bellmouth wedi'i ohirio dros dro tra bo'r ymchwiliadau amgylcheddol yn parhau, ar ôl i rywogaeth warchodedig bosibl mewn pwll cyfagos gael ei chanfod. Rydym yn parhau i gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gytuno ar fesurau lliniaru priodol.

Cob Stanley - tynnu ceblau

Mae'r gwaith o dynnu ceblau ar hyd Cob Stanley yn mynd rhagddo'n dda, gyda thua 50% o'r gwaith tynnu ceblau bellach wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith yn parhau yn unol â'r disgwyliad, gyda'r bwriad o'i gwblhau erbyn 20 Tachwedd 2026.

Gwaith diweddaraf yr is orsaf (lluniau)

Image
August 2026 Penrhos Substation Works

Sut fydd y gweithiau hyn yn effeithio arnaf i?

Efallai y byddwch yn sylwi ar fwy o weithgarwch yn yr ardal wrth i ni gynnal gwaith adeiladu, gan gynnwys cerbydau adeiladu, gweithwyr ar y safle a newidiadau dros dro i drefniadau traffig.

Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, bydd angen rheolaeth traffig dros dro arnom ar rai adegau yn ystod y gwaith adeiladu. Gall hyn gynnwys goleuadau traffig, cau lonydd ac, mewn rhai lleoliadau, cau ffyrdd. Bydd y mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam ar draws lleoliadau a byddant yn cael eu cynllunio i leihau'r aflonyddwch gymaint ag y bo'n rhesymol bosibl.

Byddwn yn parhau i roi rhybudd ymlaen llaw o weithgareddau allweddol a rhoi gwybodaeth i chi wrth i'r gwaith fynd rhagddo, fel y gallwch gynllunio ymlaen llaw. Bydd ein tîm prosiect hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â'r tîm

Os oes gennych gwestiwn, gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn:

Ebostiwch ni: [email protected] 

Ffoniwch ni: 0808 303 0570

English version

You can see the page in English below.

View English version