Adeiladu Is-orsaf Inswleiddio Nwy (GIS) newydd ac ailosod cebl cysylltiedig

Mae Trosglwyddo Trydan y Grid Cenedlaethol (NGET) yn bwriadu adeiladu Is-orsaf Inswleiddio Nwy (GIS) newydd ar safle ein hen is-orsaf ym Mhenrhos.  Cafodd yr is-orsaf wreiddiol a oedd yn gwasanaethu hen waith Alwminiwm Ynys Môn ei dadgomisiynu yn 2009 a chafodd y prif strwythurau eu symud yn 2024.

Gwaith is-orsaf Penrhos

Fel perchennog y Rhwydwaith Trosglwyddo yng Nghymru a Lloegr, mae NGET wedi nodi'r angen i adeiladu GIS newydd fel rhan o'n rhwymedigaeth i gysylltu cwsmeriaid â'r rhwydwaith. 

Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeiladu GIS newydd ac amnewid tua 3km o gebl tanddaearol presennol a oedd yn cysylltu â hen is-orsaf Penrhos. 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM), fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, wedi cadarnhau bod y cynlluniau’n Ddatblygiadau a Ganiateir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2019. O'r herwydd, nid yw'n ofynnol i NGET wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Cyn dechrau gweithio ar y safle, gwnaethom gynnal arolygon ymchwiliad tir (GI) yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2025, i sganio am wasanaethau tanddaearol presennol ac i asesu priodweddau'r tir ar hyd llwybr y cebl a fydd yn cysylltu'r is-orsaf newydd, gyda'r canlyniadau'n cael eu defnyddio i lywio dyluniad terfynol y prosiect.

Bydd gwaith GI ychwanegol yn digwydd dros fisoedd yr haf wrth i ni fireinio llwybr y cebl.

Llinell Amser

  • Chwefror 2025 - Dechreuodd arolygon topograffeg a gwaith paratoi ar y safle
  • Ebrill-Mai 2025 - Dechreuwyd gwaith ymchwilio i'r tir (am oddeutu 6 wythnos)
  • Gaeaf 2025 - Mae gwaith yn dechrau ar adeiladu'r GIS
  • Gwanwyn 2026 - Mae'r gwaith yn dechrau ar ailosod y cebl
  • Gwanwyn 2027 – Gwaith wedi'i gwblhau ar y GIS ac ailosod ceblau     

Dweud eich dweud

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau ym mhob cam o'r prosiect. Mae ein tîm cysylltiadau cymunedol ymroddedig yn gweithio gyda thrigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol i sicrhau bod ein gwaith yn achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl. Cyn dechrau'r prif waith, byddwn yn cyhoeddi cylchlythyr i drigolion lleol a rhanddeiliaid, fel y gallwch ddysgu rhagor am ein cynlluniau a gofyn unrhyw gwestiynau.

Cysylltu â ni!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cysylltiadau cymunedol ar 0800 066 8941 (Dydd Llun – Dydd Gwener, 9:00am – 5.00pm) neu e-bost [email protected] neu gallwch ysgrifennu atom gan ddefnyddio ein cyfeiriad post am ddim:

Rhadbost: GIVEYOURVIEW

E-bostiwch ni [email protected]

English version

You can see this page in English below.

View English version