Adeiladu Is-orsaf Inswleiddio Nwy (GIS) newydd ac ailosod cebl cysylltiedig 

Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) yn bwriadu adeiladu Is-orsaf Inswleiddio Nwy (GIS) newydd ar safle ein cyn-is-orsaf ym Mhenrhos. Cafodd yr is-orsaf wreiddiol, a oedd yn cysylltu hen ffatri Alwminiwm Ynys Môn, ei dadgomisiynu yn 2009, ac fe gafodd y prif adeiladau eu tynnu yn 2024.

Rydym yn adeiladu’r is-orsaf mewn ymateb i geisiadau cysylltu ar gyfer ynni adnewyddadwy a datblygiad busnes newydd. Mae dyletswydd gyfreithiol ar NGET i gysylltu cwsmeriaid â'n rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad. 

Gwaith adeiladu is-orsaf Penrhos

Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) wedi cadarnhau bod y gwaith hwn wedi'i ddosbarthu fel Datblygiad a Ganiateir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2019. Mae hyn yn golygu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgareddau adeiladu.

Fel rhan o’r prosiect, byddwn hefyd yn disodli tua thri chilomedr o gebl trydan tanddaearol presennol a oedd yn gysylltiedig â’r hen is-orsaf.

Adeiladu

Amserlen

Dyma ein hamserlen adeiladu:

  • Mawrth 2026 – Paratoi'r safle wedi'i gwblhau
  • Gorffennaf 2026 – Dechrau'r gwaith adeiladu
  • Ebrill 2028 – System gebl yn barod ar gyfer ei phweru
  • Gorffennaf 2028 – Is-orsaf yn barod ar gyfer ei phweru
  • Haf 2028 – Holl waith y safle wedi'i gwblhau

Beth i'w ddisgwyl yn ystod y cyfnod adeiladu

Byddwn yn gweithio i leihau effaith ein gwaith hanfodol ar yr ardal leol a'r gymuned a byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ystod y cyfnod adeiladu, efallai y bydd trigolion yn sylwi ar:

  • cerbydau a gweithwyr adeiladu yn mynd i'r safle
  • mwy o weithgarwch yn ystod oriau gwaith safonol (7:30yb - 5:30yp)
  • rheoli traffig dros dro ar hyd rhannau o lwybr y cebl, lle bo angen er diogelwch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am weithgareddau adeiladu, cysylltwch â thîm y prosiect gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

English version

You can see this page in English below.

View English version

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiect yr is-orsaf, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cysylltiadau cymunedol, drwy e-bostio [email protected], neu drwy ffonio 0808 303 0570.