Nod y prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol (VIP) ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd o Finffordd i Landecwyn.

Mae rhanddeiliaid wedi cytuno mai’r ffordd orau o wneud hyn yw tynnu darn o’r llinell uwchben i lawr a chladdu’r ceblau trydan mewn twnnel o dan y ddaear yn ei lle. Dyma gyfle gwych i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol y rhan hon o dirwedd gwerthfawr Eryri.

Gwaith gosod seilbyst i ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 13 Tachwedd 2023 – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gwybodaeth am National Grid

Mae National Grid yn ganolog i’r newid i ddyfodol ynni glân, teg a fforddiadwy, lle mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyrraedd targedau sero net yn flaenoriaeth allweddol.

Rydym yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gysylltu miliynau o bobl â’r ynni maen nhw’n ei ddefnyddio’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn effeithlon – yn y DU ac yn yr Unol Daleithiau. Ond rydym hefyd yn ysgogi newid drwy arloesi ym maes peirianneg a drwy feithrin syniadau newydd gyda’r pŵer i chwyldroi ein diwydiant.

Fel un o gwmnïau ynni mwyaf y byd sy’n eiddo i fuddsoddwyr, mae National Grid yn arloesi ffyrdd o ddatgarboneiddio’r system ynni; o adeiladu rhyng-gysylltyddion i ganiatáu i’r DU rannu ynni glân gyda’n cymdogion yn Ewrop, i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn yr Unol Daleithiau.

National Grid yn y Deyrnas Unedig

National Grid yw perchnogion a rheolwyr y rhwydwaith trawsyrru trydan yng Nghymru a Lloegr sydd â gwahanol ffynonellau ynni wedi’u cysylltu iddo.

Rydym yn gyfrifol am drawsyrru trydan o le mae’n cael ei gynhyrchu (er enghraifft, gorsafoedd pŵer a ffermydd gwynt mawr) i’r trefi a'r dinasoedd. I wneud hyn, rydym yn defnyddio rhwydwaith cenedlaethol o linellau uwchben a cheblau tanddaearol sy’n gweithredu ar foltedd uchel.

Rydym hefyd yn gyfrifol am gydbwyso’r system a sicrhau bod y cyflenwad trydan yn bodloni’r galw bob eiliad.

Darpariaeth Effaith Weledol yng Nghymru a Lloegr

Mae’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) yn gyfle arbennig i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol ein tirweddau mwyaf gwarchodedig.

Mae’r prosiect VIP yn defnyddio darpariaeth gan Ofgem i weithio ar leihau effaith llinellau trawsyrru presennol ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. 

Yn National Grid rydym frwd dros chwarae ein rhan yn y gwaith o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y dirwedd.

Y dasg bwysicaf i ni yw defnyddio’r ddarpariaeth hon i sicrhau’r gwelliannau mwyaf posibl i dirweddau gwerthfawr ein cenedl, gan osgoi effeithiau amgylcheddol annerbyniol.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac yn manteisio i’r eithaf ar botensial y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol, mae National Grid yn gweithio’n agos â rhanddeiliaid ac ar y cyd â nhw.