Cyfarfod â'r tîm
Credwn ei bod yn bwysig iawn i ni rannu gwybodaeth am ein prosiect â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
Rydym yn trefnu'r cyntaf mewn cyfres reolaidd o ddigwyddiadau gwybodaeth. Cewch ddod draw i ddysgu mwy am y prosiect, siarad ag aelodau o'r tîm am ein gwaith a thrafod unrhyw gwestiynau.
Bydd gennym blaniau technegol drafft i ddangos sut mae'r gwaith yn dod ymlaen a gall y tîm eu hesbonio wrthych.
Rhag ofn na allwch ddod i ddigwyddiad wyneb yn wyneb, byddwn yn cynnal digwyddiad ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd.
Dyddiad ac amser | Lleoliad |
Dydd Gwener 9 Mai 2025 4–7pm | Neuadd Bentref Garndolbenmaen, Garndolbenmaen, Gwynedd LL51 9SQ |
Dydd Sadwrn 10 Mai 2025 10am-1pm* | Byw’n lach Glaslyn, Stryd y Llan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HW |
Dydd Mawrth 13 Mai 2025 4–7pm | Ystafell Ddigwyddiadau a Chanolfan Gynadledda Clwb Pêl-droed Porthmadog, Y Traeth, Porthmadog, Gwynedd LL49 9PP |
Dydd Iau 15 Mai 2025 4–7pm | Neuadd Goffa Tremadog, Sgwâr y Farchnad, Tremadog, Gwynedd LL49 9RA |
Dydd Mawrth 20 Mai 2025 11am–2pm* | Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, Llwyn Hudol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LP |
*Bydd tîm prosiect EVIP yn bresennol yn y digwyddiadau a nodir â'r symbol hwn
Digwyddiad rhithwir
Dydd Mercher 28 Mai – cliciwch yma i gofrestru
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â ni fel hyn:
- Ein ffonio ni ar: 0800 915 2485
- Anfon neges ebost i: [email protected]