Pam bod ynni yn bwysig?
Mae ynni yn llinyn drwy bopeth rydyn ni’n hoffi ei wneud, o'ch cartref neu'ch ffôn i wylio’ch hoff raglenni a nosweithiau allan. Dyna pam mae National Grid yn gweithio i gyflawni Uwchraddio’r Grid, gan gysylltu mwy o ynni gwynt glân a fforddiadwy i chi, a'r holl bethau rydych chi'n hoffi eu gwneud.
Sut rydyn ni'n helpu i bweru'r pethau rydych chi'n eu caru
P'un a ydych chi eisiau paned neu socian yn y bath, mynd allan i ddawnsio neu fod yn glyd gartref, rydyn ni i gyd eisiau gallu gwneud yr hyn rydyn ni'n ei garu. Ac oherwydd bod ynni yn llinyn drwy bopeth rydyn ni’n hoffi ei wneud, ein nod ni yw ei wneud yn lanach, yn decach ac yn fwy diogel i bawb.
Pweru'r pethau rydych chi'n eu caru...
Creu rhywbeth blasus yn y gegin
Mae ein ceginau wedi newid llawer yn ystod y degawdau diwethaf. Mae griliau ar uchder a chwisgiau llaw yn bethau o'r gorffennol gyda thechnolegau newydd fel cymysgwyr bwyd, gwneuthurwyr bara a pheiriannau coffi wedi cymryd eu lle. Efallai eich bod hyd yn oed wedi cael ffriwr aer yn enw effeithlonrwydd ynni ac amseroedd coginio byrrach.
Fel cogyddion brwd yn y cartref, mae llawer ohonom yn mwynhau treulio amser yn ein ceginau yn creu bwyd blasus ac mae'r holl dechnoleg fodern hon wedi rhoi cymaint mwy o opsiynau i ni. Fodd bynnag, mae cynhwysyn cyfrinachol yn y rhan fwyaf o ryseitiau - ynni - hebddo byddai ein tatws rhost yn feddal a’n cacennau’n sogi. O baratoi'r cynhwysion i'r pryd terfynol, mae ynni yn llinyn drwy'r cyfan. Ond mae'r ffordd y mae'r cyfan yn cael ei bweru yn newid ac yn y dyfodol byddwch chi'n gwybod mai ynni glanach fydd yn tanio eich coginio a'ch pobi blasus.
Her Pobi Uwchraddio’r Grid: technoleg 1950au yn erbyn y 2020au
Paratowch am frwydr pobi yr oesoedd! Mae National Grid yn cyflwyno Her Pobi Uwchraddio’r Grid – trosiad blasus ar gyfer ein hymgyrch i uwchraddio grid trydan y DU. Y tro diwethaf i grid trydan y DU gael uwchraddiad mawr oedd yn y 1950au ac fe newidiodd fywyd domestig er gwell, gan ganiatáu i gartrefi bweru mwy o declynnau fel peiriannau golchi a chymysgwyr bwyd trydan. Felly fe wnaethon ni herio rhai dylanwadwyr pobi adnabyddus a rhai o'n cydweithwyr i bobi fel ei bod hi’n 1953.
Gwylio'ch hoff raglenni teledu
Pan fydd drama deledu newydd neu’r gêm ddiweddaraf yn gafael ynddoch, efallai na fyddwch chi'n meddwl o ble mae'r trydan sy'n cadw'ch teledu i redeg yn dod. Roedd y grid trydan yn arfer cael ei brofi fwyaf yn ystod egwyl gêm bêl-droed fawr neu yn ystod hysbysebion drama sebon boblogaidd, ond mae'r ffenomen honno'n digwydd yn llai cyffredin erbyn hyn. Heddiw, mae trydan yn pweru dyfeisiau ffrydio sy’n rhedeg ar wi-fi ac ychwanegiadau sy'n gwella’ch profiad, fel goleuadau a bariau sain.
Ond sut allwn ni barhau i fwynhau ein hoff adloniant wrth ddefnyddio ynni glanach, gwyrddach? Mae ein grid trydan ar fin mynd drwy’r uwchraddiad mwyaf ers cenedlaethau –Uwchraddio’r Grid– a fydd yn helpu i gludo ynni adnewyddadwy i gartrefi a busnesau sydd ei angen. Felly, gallai trydan a grëwyd o dyrbin gwynt ym Môr y Gogledd bweru eich teledu a'r holl bethau eraill sy'n dod gydag ef.
Mwynhau ffrwyth eich llafur yn yr ardd
Gall cymryd cam yn ôl i edmygu canlyniadau eich gwaith caled yn yr ardd fod yn bleser syml. Mae'n aml yn llafur cariad sy'n golygu brwydro yn erbyn rhwystrau amrywiol, gan gynnwys ein tywydd cynyddol gyfnewidiol ac eithafol.
Fel cenedl, rydym am gadw ein traddodiadau garddio i fynd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dathlu ein mannau awyr agored pwysig iawn ac, i wneud hyn, mae angen i ni ddisodli tanwydd ffosil gydag ynni adnewyddadwy a harneisio pŵer natur – megis trwy ynni gwynt a solar. P'un a ydych chi'n defnyddio teclynnau pŵer neu fod gennych oleuadau awyr agored, ynni yw'r llinyn sy'n rhedeg drwy'r cyfan a, drwy Uwchraddio’r Grid, rydym yn gwneud yn siŵr y gallwch barhau i dorri eich lawnt a thocio'ch gwrychoedd gan wybod bod ynni glân yn tanio eich hoff hobi.
Diweddariadau
I gael rhagor o wybodaeth am Uwchraddio’r Grid, cofrestrwch i gael diweddariadau neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
¹The Sixth Carbon Budget The UK’s path to Net Zero - Climate Change Commitee (www.theccc.org.uk)