Eryri pylon over the estuary

Trefniadau gweithio – Nadolig 2025

Wrth i 2025 ddirwyn i ben, rydyn ni'n edrych yn ôl ar flwyddyn dyngedfennol i brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. 

Mae ein peiriant twnelu, Buddug, yn parhau i wneud cynnydd arbennig ers dechrau'r gwaith twnelu ym mis Ebrill ac mae bellach wedi cwblhau dros draean o'r twnnel o dan Aber Afon Dwyryd, o Finffordd tuag at Landecwyn, lle mae disgwyl iddo gyrraedd yn 2026.

Bydd newidiadau i arferion gweithio arferol Darpariaeth Effaith Weledol Eryri dros gyfnod yr ŵyl rhwng dydd Mercher 24 Rhagfyr a dydd Llun 5 Ionawr 2026. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ar draws y prosiect yn ystod y cyfnod hwn i’w gweld isod. 

Trefniadau gweithio – Garth

Er y bydd y gwaith twnelu yn dod i stop rhwng dydd Mercher 24 Rhagfyr a dydd Llun 5 Ionawr, bydd tîm sgerbwd bach yn parhau i weithio ym mhrif safle Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn ystod y cyfnod hwn, i wneud mân waith ar yr wyneb ac i fonitro ein peiriant twnelu, Buddug, a siafft y twnnel.

Sylwch y bydd ein goleuadau traffig dros dro ar y Lôn Gefn yn cael eu tynnu oddi yno yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd y dyfeisiau dangos cyflymder yn aros yn eu lle er mwyn parhau i atgoffa pob gyrrwr i gadw at y terfyn 20mya.

Trefniadau gweithio – Llandecwyn

Bydd y gwaith cloddio ar gyfer y siafft dderbyn ger Llandecwyn yn dod i stop dydd Mercher 24 Rhagfyr a bydd yn ailddechrau ddydd Llun 5 Ionawr. Bydd aelodau o dîm adeiladu a diogelwch Hochtief UK yn parhau i fonitro'r safle dros yr ŵyl a byddant yn ymgymryd â thasgau angenrheidiol fel pwmpio dŵr o'r siafft.

Llety – Blaen Cefn

Bydd cyfleuster llety Hochtief UK ym Mlaen Cefn yn aros ar agor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar gyfer ein tîm sgerbwd bach a fydd yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn. Bydd staff diogelwch yn parhau i fonitro'r llety 24 awr y dydd.

Tarfu cyn lleied â phosibl

Byddwn yn parhau i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar ein cymdogion a hoffem ddiolch o galon i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus.

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn neu am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnawn ni gysylltu â chi. 

Ar ran y tîm i gyd sy'n gweithio ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, hoffem ddymuno Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd Dda i chi.