Beth sy'n digwydd a pham?

Mae Uwchraddio’r Grid yn cynnwys prosiectau seilwaith mawr sy'n helpu i gysylltu mwy o ynni glân a diogel â chartrefi a busnesau ledled Cymru a Lloegr. Ond pam bod angen yr uwchraddiadau hyn a beth yn union fydd yn digwydd?

Pam rydyn ni'n uwchraddio'r grid

Adeiladwyd grid trydan y DU yn wreiddiol i gysylltu trydan a gynhyrchir mewn gorsafoedd pŵer o danwydd ffosil, fel glo o Ogledd a Chanolbarth Lloegr a De Cymru.

Wrth i'r DU symud i ffwrdd o danwydd ffosil a chynyddu cynhyrchu ynni glân, byddwn i gyd yn defnyddio mwy o drydan nag erioed o'r blaen. Disgwylir i'r galw am drydan gynyddu 50% erbyn 2035 a dyblu erbyn 2050, wrth i ni ddatgarboneiddio'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel gwresogi a thrafnidiaeth.

Felly mae angen seilwaith newydd sylweddol i gysylltu'r ynni glân hwn o lle mae'n cael ei gynhyrchu i lle mae ei angen.

Sut rydyn ni'n uwchraddio'r grid

Er mwyn cario'r ynni glân hwn o lle mae'n cael ei gynhyrchu – fel allan ym Môr y Gogledd gan dyrbinau gwynt – i gartrefi a busnesau, mae angen i ni adeiladu seilwaith newydd i drosglwyddo trydan, yn ogystal ag uwchraddio seilwaith presennol.

Mae'r DU wedi ymrwymo i gysylltu 40GW o ynni gwynt ar y môr â'r grid trydan erbyn 2030, gan wneud cyfanswm o 50GW i gyrraedd targedau'r llywodraeth. Mae hynny bron yn ddigon i bweru pob cartref ym Mhrydain Fawr* ac mae'n cyfateb i gymryd 5.2 miliwn o geir petrol neu disel oddi ar y ffyrdd, neu gyfwerth â’r carbon y mae 509 miliwn o goed yn ei amsugno dros flwyddyn.**

Bydd angen i'n rhwydwaith o geblau, peilonau ac is-orsafoedd drosglwyddo'r ynni adnewyddadwy hwn, gan nad oes gan y seilwaith presennol y gallu i gludo faint o ynni fydd yn cael ei gynhyrchu ar y môr. O ganlyniad, mae angen i ni uwchraddio ein rhwydwaith trydan ar y tir.

Pam rydyn ni'n uwchraddio seilwaith ac adeiladu seilwaith newydd

Mewn rhai ardaloedd byddwn yn gallu uwchraddio'r seilwaith sy'n bodoli eisoes. Mewn ardaloedd eraill, bydd angen i ni osod gwifrau, ceblau a pheilonau newydd.

Mae hyn i gyd er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti i gludo'r symiau angenrheidiol o drydan, i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru a Lloegr fynediad at ynni glân, diogel.

Yn 2019 y DU oedd yr economi fawr gyntaf yn y byd i basio deddfau i roi terfyn ar ei chyfraniad at gynhesu byd-eang erbyn 2050.¹

Mae'r Llywodraeth eisiau i'r grid trydan redeg yn llawn ar ffynonellau ynni glân ac adnewyddadwy erbyn 2030.²

Mae National Grid yn buddsoddi dros £30bn rhwng 2025 a 2029 mewn prosiectau sy'n cefnogi targedau sero net a datgarboneiddio pŵer y DU.

Oes gennych chi gwestiwn am Uwchraddio’r Grid?

Dod o hyd i atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am Uwchraddio’r Grid.

Tab through the cards

Diweddariadau

I gael rhagor o wybodaeth am Uwchraddio’r Grid, cofrestrwch i gael diweddariadau neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

* British energy security strategy - GOV.UK (www.gov.uk)

**National Grid Market Fundamentals analysis

¹UK becomes first major economy to pass net zero emissions law -GOV.UK (www.gov.uk)

²Make-Britain-a-Clean-Energy-Superpower (labour.org.uk)