Mae National Grid yn gofyn am adborth ar gynlluniau ar gyfer cyswllt tanddwr newydd sylweddol i ddarparu system ynni glân, diogel ac effeithlon i Gymru
• Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Cyswllt Gorllewinol 2, cysylltiad trydan tanddŵr newydd rhwng yr Alban a Chymru
• Rhan o Uwchraddio'r Grid / The Great Grid Upgrade, tyfu'r rhwydwaith trydan i wella diogelwch ynni, cefnogi twf economaidd, a gwneud gwell defnydd o ynni adnewyddadwy
• Mae'r cynigion yn cynnwys cebl yn y môr, ceblau tanddaearol o lanfa yng Ngwynedd, gorsaf trawsnewid newydd ger Pentir a gwaith i ymestyn yr is-orsaf bresennol yn Pentir
• Gallai bweru tua dwy filiwn o gartrefi gydag ynni mwy diogel ac effeithlon, gan helpu i leihau costau cyfyngu a chefnogi swyddi a chyfleoedd yng ngogledd Cymru
• Cynhelir yr ymgynghoriad o 23 Mehefin i 21 Gorffennaf 2026
Heddiw, mae National Grid wedi lansio cam cyntaf ymgynghoriad cyhoeddus yng ngogledd Cymru ar eu cynigion ar gyfer Cyswllt Gorllewinol 2, sef cyswllt trydan rhwng yr Alban a Chymru. Mae'r prosiect, a fyddai'n helpu i gario trydan adnewyddadwy ledled Cymru, mewn cyfnod cynnar, a bydd adborth gan gymunedau a rhanddeiliaid yn helpu i lunio a mireinio'r cynigion cyn ymgynghori pellach.
Mae disgwyl i'r galw am drydan ddyblu erbyn 2050 wrth i'r ffordd rydym yn pweru ein cartrefi, busnesau, diwydiant a thrafnidiaeth barhau i newid. Er mwyn bodloni'r galw hwn, mae angen mwy o gapasiti ar draws y rhwydwaith trydan i symud y pŵer hwnnw'n effeithlon ac yn ddibynadwy i ble mae ei angen. Byddai Cyswllt Gorllewinol 2 yn chwarae rhan bwysig yn Uwchraddio'r Grid / The Great Grid Upgrade, gan helpu i gario mwy o drydan adnewyddadwy i gartrefi a busnesau ym mhob cwr o Cymru, gan gryfhau'r rhwydwaith a gwneud gwell defnydd o ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ac ar draws y DU.
Ar adegau, mae mwy o drydan adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu nag y gall y rhwydwaith ei gario, sy'n golygu nad yw’n bosib defnyddio pŵer glân a bod angen talu i ddiffodd generaduron. Yn y pen draw, mae’r costau hyn yn cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr trwy filiau ynni. Trwy gynyddu capasiti a llacio'r cyfyngiadau yma, byddai Cyswllt Gorllewinol 2 yn helpu i sicrhau bod modd defnyddio mwy o ynni glân, gan gefnogi system ynni fwy effeithlon a dibynadwy. Byddai'r cyswllt yn gallu cludo hyd at 2GW o drydan i'r naill gyfeiriad neu'r llall, digon i bweru tua dwy filiwn o gartrefi.
Mae National Grid yn cydnabod y dylai cymunedau sy'n cynnal seilwaith weld manteision cadarnhaol a pharhaol. Byddai'r prosiect yn cefnogi cadwyn gyflenwi gwerth biliynau o bunnoedd, gan greu swyddi sgil uchel yng ngogledd Cymru a darparu cyfleoedd i fusnesau Cymreig. Bydd hyn yn sicrhau y gall cymunedau lleol elwa'n uniongyrchol o'r newid i gyflenwad ynni glanach, mwy diogel a mwy gwydn.
Dywedodd Leandro Vacirca, Cyfarwyddwr Prosiect National Grid: “Bydd Cyswllt Gorllewinol 2 yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu'r seilwaith trydan sydd ei angen ar Gymru ar gyfer dyfodol ynni diogel a mwy effeithlon. Wrth i'r galw dyfu, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud gwell defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy trwy uwchraddio'r rhwydwaith trydan fel nad yw ynni glân yn cael ei wastraffu.
“Rydym yn gofyn am adborth ar gynigion yn y cyfnod cynnar yma er mwyn rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid ddylanwadu ar ein cynlluniau. Mae gwybodaeth leol yn bwysig wrth ddatblygu Cyswllt Gorllewinol 2 a bydd yn ein helpu ni i leihau effaith lle bynnag y bo modd. Rydym hefyd eisiau i gymunedau lleol elwa o'r newid i ynni glanach ac adnewyddadwy trwy greu swyddi, datblygu sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi.”
Ynglŷn â'r prosiect
Mae Cyswllt Gorllewinol 2 yn gynnig ar y cyd rhwng National Grid a Scottish Power Energy Networks (SPEN) ar gyfer cysylltiad trydan cerrynt uniongyrchol foltedd uchel (HVDC) tanddwr yn bennaf rhwng yr Alban a Chymru. Byddai'r prosiect yn atgyfnerthu'r rhwydwaith trawsgludo, gan gario trydan i'r ddau gyfeiriad a helpu i sicrhau cyflenwad ynni dibynadwy i gartrefi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.
Yng ngogledd Cymru mae ein cynigion yn cynnwys pedair elfen allweddol:
- Llwybr cebl HVDC yn y môr o tua 260 km i leoliad ar arfordir Gwynedd ym Mae Caernarfon.
- Cebl HVDC tanddaearol tua 25 km o leoliad glanio i orsaf drawsnewid newydd.
- Gorsaf drawsnewid newydd o fewn 2 km i is-orsaf bresennol Pentir, gan gynnwys cysylltiad cebl tanddaearol.
- Estyniad i is-orsaf bresennol Pentir a gwaith cysylltiedig i alluogi cysylltiad â'r grid.
- Image
Mae cam cyntaf yr ymgynghoriad yn rhedeg o hanner dydd 23 Mehefin i 11:59pm ar 21 Gorffennaf 2026. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau gwybodaeth gyhoeddus wyneb yn wyneb a gweminarau ar-lein yn rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid ddysgu mwy am y prosiect, cwrdd â'r tîm prosiect i ofyn cwestiynau a rhoi adborth i helpu i lunio'r cynigion. Mae'r manylion fel a ganlyn:
Digwyddiadau mewn person:
- Dydd Iau 25 Mehefin: Neuadd Bentref Clynnog Fawr, 7 Ffordd Llys Eben, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd LL54 5AQ 2pm–7pm
- Dydd Gwener 26 Mehefin: Neuadd Goffa Penygroes, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd LL54 6NN 2pm–7pm
- Dydd Iau 9 Gorffennaf: Menter Gymunedol Bethel, y Bedol, Bethel, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AX 12pm–4:30pm
- Dydd Gwener 10 Gorffennaf: Neuadd Bentref Rhiwlas, Bangor, Gwynedd LL57 4GA 2pm–7pm
- Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf: Y Ganolfan, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL55 2UF 10am–1.30pm
Gweminarau: ar gael drwy wefan y prosiect
- Dydd Mawrth 7 Gorffennaf: Gweminar cyfrwng Cymraeg 6-7pm
- Dydd Mawrth 7 Gorffennaf: Gweminar cyfrwng Saesneg 7-8pm
Manylion cysylltu prosiect Cyswllt Gorllewniol 2:
Llinell Gymorth Gymunedol: 0800 156 0706 (Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5:30pm).
E-bost: [email protected]
Post: FREEPOST W LINK 2 (nid oes angen stamp na manylion cyfeiriad pellach)
- Mae Western Link 2 yn gysylltiad trydan newydd arfaethedig, tua 340km o hyd, rhwng yr Alban a Chymru. Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu ar y cyd gan y Grid Cenedlaethol a SPEN.
- Dyma gam cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus, sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu cynnar a chasglu adborth.
- Cynhelir ymgynghoriad pellach wrth i'r prosiect ddatblygu.
- Mae'r prosiect yn ei gam cynnar; nid oes llwybr na dyluniad wedi'i gwblhau eto.
- SPEN sy'n gyfrifol am elfennau’r prosiect yn yr Alban a chynhaliodd ei ymgynghoriad cyntaf ym mis Tachwedd 202