Tîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn rhannu’r hyn a ddysgwyd â pheirianwyr lleol
Yr hydref hwn, mae tîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri wedi mwynhau rhannu gwybodaeth a phrofiad yn ystod ymweliadau â’n safle ym Minffordd.
Yn ddiweddar, gwnaethom groesawu swyddogion o adran Priffyrdd a Pheirianneg Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) Cyngor Gwynedd a thîm Safle Datgomisiynu Trawsfynydd Nuclear Restoration Services (NRS) i ddod i gwrdd â’n tîm ac i ddysgu mwy am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri a’n gweithrediadau.
Roedd y ddau ymweliad yn cynnwys cyflwyniad yng Nghanolfan Wybodaeth y Prosiect ac yna taith gerdded o amgylch safle Minffordd, a oedd yn gyfle i drafod sut rydym yn rheoli ein gwaith adeiladu a gweithgareddau ein prosiect o ddydd i ddydd.
Dywedodd Carwyn Richards, Rheolwr Amgylchedd, Iechyd, Diogelwch ac Ansawdd Safle Datgomisiynu Trawsfynydd NRS:
“Roedd yr ymweliad â safle Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn brofiad buddiol a fydd yn ein helpu gyda’n gweithgareddau datgomisiynu nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys y bwriad i leihau uchder adeiladau’r adweithyddion ar ein safle.
“Mae nifer o bethau tebyg rhwng y ddau safle o ran yr heriau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau perygl uchel a’r cyfle i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid a thrigolion lleol. Mae’n siŵr y bydd yr hyn a ddysgwyd o’r ymweliad â phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn ein helpu wrth i ni baratoi ar gyfer gweithgarwch gwaith prosiect mawr ar ein Safle yn Nhrawsfynydd.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfleoedd i gydweithio â National Grid yn y dyfodol ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddyn nhw gyda’r gweithgarwch parhaus ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri.”
Dywedodd Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC Cyngor Gwynedd:
“Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i weld y prosiect anhygoel hwn a chael taith o amgylch y safle. Bydd y prosiect hwn yn gwella tirwedd yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Eryri ac yn cynnig swyddi medrus i lawer o bobl leol.
“Roedd yn galonogol dysgu am yr holl fesurau lliniaru amgylcheddol sydd ar waith, ac am gwaith ymgysylltu â’r gymuned leol a’r iaith Gymraeg. Rydyn ni’n ddiolchgar i Steve Ellison a’r tîm am gyflwyniad rhagorol.”
Bydd tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn parhau i rannu gwybodaeth a ddysgir am adeiladu yn ystod y gwaith ar y prosiect hyd yma gyda’r sectorau peirianneg, ynni a seilwaith lleol.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am gyfleoedd posibl neu os oes gennych chi gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost i [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.