Aberglaslyn MRT

Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn cael cyllid gan y Rhaglen Grantiau Cymunedol i gefnogi eu gwaith hanfodol ar draws Eryri

Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn dathlu'r newyddion eu bod wedi llwyddo gyda'u cais am gyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol National Grid Electricity Transmissions (NGET). 

Anelir y Rhaglen Grantiau Cymunedol at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gwaith NGET yn effeithio ar bobl leol drwy ei weithrediadau a’i waith adeiladu. 

Ers ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2015, mae'r rhaglen wedi dyfarnu dros £4.6 miliwn i brosiectau ar hyd a lled y wlad. 

Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn helpu i ddod o hyd i bobl sydd ar goll neu sydd wedi mynd i drafferthion yn y mynyddoedd ar draws Eryri a Gogledd Cymru. Maen nhw’n darparu gofal achub bywyd i bobl mewn angen, yn ogystal â chynnal ymdrechion achub technegol, ac ymdrechion achub mewn llifogydd ac mewn dŵr sy’n llifo’n gyflym. 

Mae'r grŵp wedi cael £18,444 gan y Rhaglen Grantiau Cymunedol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gael offer ar gyfer 8 gwirfoddolwr newydd, ac i uwchraddio eu systemau cludo pobl sydd wedi’u hanafu.

Wrth siarad am y cyllid, dywedodd Owen Senior, swyddog codi arian Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn: “Mae'r cyllid rydyn ni wedi'i gael gan raglen Grant Cymunedol y National Grid yn newid byd i'n gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach rydyn ni'n ei gwasanaethu. 

“Bydd y cyllid grant hwn yn ein helpu ni i uwchraddio offer hanfodol sy'n achub bywydau ac yn ein helpu ni i gael hyd yn oed mwy o hyfforddiant. Bydd hyn yn gwella ein gallu i ymateb yn gyflym ac yn ddiogel i'r bobl sydd ein hangen ni ar draws y dirwedd heriol ar y mynyddoedd. Mae'n fuddsoddiad yn niogelwch pawb sy'n crwydro neu’n byw yn ein hardal.” 

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri: “Mae'r gwaith mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn ei wneud yn gwbl hanfodol i ddiogelwch a llesiant pobl yn y gymuned lle rydyn ni'n gweithio ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. 

“Rydyn ni’n falch iawn eu bod wedi llwyddo gyda'u cais a'u bod yn gallu hyfforddi mwy o bobl i achub bywydau. Rydw i a thîm y prosiect yn hynod ddiolchgar am yr holl waith maen nhw'n ei wneud i gadw'r gymuned a'r bobl sy'n ymweld â'r ardal yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Grantiau Cymunedol NGET a sut mae gwneud cais ar gael ar wefan National Grid: www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme-welsh”.