
Ym mis Gorffennaf 2025, byddwn yn dechrau ar waith uwchraddio hanfodol i’n llinell drydan uwchben sy'n rhedeg rhwng Is-orsaf Cei Connah ac Is-orsaf Bodelwyddan.
Y newyddion diweddaraf (Mawrth 2025)
Rydym wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith paratoi. Mae hyn yn cynnwys clirio llystyfiant, lledu mannau tramwyo cul, a gosod tracffyrdd dros dro a sgaffaldiau mewn caeau a thros ffyrdd. Gwneir hyn fel y gallwn wneud ein prif waith yn ddiogel ac mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied â phosibl ar bobl yr ardal.
Bydd y cam hwn o’r gwaith paratoi yn parhau tan fis Gorffennaf 2025, pan fyddwn yn dechrau newid y gwifrau ar y llinell uwchben. Ni fyddwn yn newid nac yn symud peilonau nac yn gosod rhai newydd. Rydym yn disgwyl cwblhau ein gwaith ym mis Rhagfyr 2026. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gweithio ar y llinell uwchben gyfan trwy gydol y prosiect. Rydym yn gwneud ein gwaith fesul cam, a bydd ein timau'n symud ar hyd y llinell uwchben wrth iddynt wneud y gwaith newid gwifrau.
Mae'r prosiect yn rhan o gyfres o gynlluniau uwchraddio cylchedau sy'n digwydd ledled y wlad gyda'r nod o gyflymu cysylltiadau â'r rhwydwaith trawsyrru trydan a chynnal system ynni gadarn, fforddiadwy, sero net.
Mae'r llinell 30km yr ydym yn ei huwchraddio yn rhedeg o Gei Connah i’r Fflint, Caerwys a Thremeirchion ac yna ymlaen i Is-orsaf Bodelwyddan.
Mae'r cydrannau ar linellau uwchben wedi'u cynllunio i bara hyd at 60 mlynedd. Maent yn cyrraedd diwedd eu hoes weithredol erbyn hyn ac mae angen eu newid fel bod y rhwydwaith trydan yn dal yn ddibynadwy.
Bydd angen inni groesi tir preifat mewn rhai mannau i wneud y gwaith. Yn yr achosion hynny, rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad â pherchnogion y tir perthnasol. Yn yr un modd, lle gallai ein gwaith effeithio'n uniongyrchol ar gartrefi neu fusnesau unigol, byddwn yn gweithio gyda nhw i greu cyn lleied o anghyfleustra ag y bo modd.
Weithiau, efallai y bydd angen i rai llwybrau â hawl tramwy cyhoeddus a ffyrdd lleol gael eu cau dros dro, er mwyn i ni gadw ein timau a’r cyhoedd yn ddiogel wrth i ni weithio uwchben. Codir arwyddion cyn i'r gwaith ddechrau a byddwn yn cyfathrebu â phreswylwyr a busnesau lleol.
Os oes gennych ryw gwestiwn neu os hoffech wybod rhagor am ein gwaith, cysylltwch â'r Tîm Cysylltiadau Cymunedol ar 0800 1385409 (ar agor 9am–5:30pm Llun–Gwener) neu ebostio [email protected].
Starting in July 2025, we will be carrying out essential upgrades to our existing overhead electricity line between Connah’s Quay Substation and Bodelwyddan Substation.
Latest update (March 2025)
Some of our preparation activity is underway. This includes vegetation clearance, widening at narrow access points, and installing temporary trackways and scaffolding in fields and over roads. This is so our main work can take place safely and in a way that minimises effects on local people.
This phase of preparation work will continue until July 2025, when we will start replacing the wires on the overhead line. We are not replacing, moving or installing any new pylons. We expect to complete our work in December 2026. However, we won’t be working on all of the overhead line for the duration of the project. We are completing our work in stages, and our teams will move along the overhead line as they progress the replacement work.
The project is part of a series of circuit upgrades taking place across the country which aim to speed up connections to the electricity transmission network and support a secure, affordable and net zero energy system.
The 30km line we are upgrading runs from Connah’s Quay, to Flint, Caerwys and Tremeirchion and then on to Bodelwyddan Substation.
The components on overhead lines are designed to last up to 60 years. They are now nearing the end of their operational life and need replacing to maintain the reliability of the electricity network.
We will need to cross some private land to carry out the work. Where this is the case, we have already been liaising with the relevant landowners. Similarly, where our work might directly affect individual homes or businesses, we will be working with them to minimise any inconvenience.
At times we may need to temporarily close some public rights of way and local roads, so we can keep our teams and the public safe as we work overhead. Signage will be displayed in advance of work starting and we will communicate with local residents and businesses.
If you have any queries or would like any further information about our work, then please contact our Community Relations Team on 0800 1385409 (open 9am-5:30pm Monday to Friday) or by email at [email protected].