Mae tîm Eryri VIP, National Grid, a'i brif gontractwr Hochtief UK, wedi parhau i gefnogi ras 10k Llandecwyn, gan noddi'r digwyddiad am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Yn adnabyddus fel llwybr 10k heriol, gwelodd y ras, a gynhaliwyd eleni ar 24 Mehefin, hanner cant o gystadleuwyr yn rhedeg o Landecwyn trwy ardal goediog i Lyn Tecwyn Uchaf, gan basio'n agos at gompownd dwyreiniol safle prosiect Eryri VIP.
Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect ar Eryri VIP, a gwblhaodd y ras: “Fel rhedwr brwd, mae wedi bod yn wych cefnogi ras Llandecwyn am bedair blynedd yn olynol. Mae prosiect Eryri VIP yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth a dealltwriaeth barhaus y gymuned leol wrth i ni symud ymlaen gyda'n prosiect, sy'n anelu at leihau effaith weledol llinell uwchben National Grid o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Wrth i'n gwaith yn Eryri barhau, rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol eraill yn y dyfodol a buddsoddi yn y gymuned lle gallwn.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Eryri VIP drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu drwy ffonio 0800 019 1898.