
Gwybodaeth bwysig am gau llwybr troed dros dro
O ddydd Llun 18 Awst, bydd Llwybr Cyhoeddus Rhif 52 yn Llandecwyn ar gau am gyfnod o hyd at dair wythnos wrth i ni gyrraedd cam critigol ym mhrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (Eryri VIP).
Nod y prosiect hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd o Finffordd i Landecwyn.
Mae cau'r hawl tramwy cyhoeddus dros dro wedi'i gytuno gyda Chyngor Gwynedd ac mae'n angenrheidiol er diogelwch y cyhoedd a'n tîm tra bod contractwyr arbenigol yn cynnal gwaith ymchwilio tir ar ran National Grid.
Mae angen yr ymchwiliadau tir i ganiatáu inni greu dyluniad manwl y sylfeini ar gyfer y gwaith dargyfeirio llinell uwchben sy'n gysylltiedig â Thŷ Pen Twnnel Llandecwyn, a fydd yn cysylltu'r llinell uwchben bresennol â'r ceblau newydd sydd wedi'u claddu o dan Aber Afon Dwyryd.
Bydd cau'r hawl tramwy cyhoeddus wedi'i arwyddo'n glir. Yn ystod y cyfnod cau, anogir holl ddefnyddwyr yr hawl tramwy cyhoeddus i ddefnyddio'r llwybr amgen yr ydym wedi'i gytuno gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, fel y gwelir mewn melyn ar y map isod.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni ymgymryd â'r gwaith hwn ar brosiect Eryri VIP ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gau hawliau tramwy cyhoeddus neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r prosiect, mae croeso i chi gysylltu â thîm prosiect Eryri VIP.
Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898 rhwng 9.00am – 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges a bydd un o'n tîm yn eich ffonio'n ôl.