Gwybodaeth bwysig am y gwaith ychwanegol sy’n cael ei wneud ddydd Sadwrn 1 Mehefin a dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024
Ddydd Sadwrn 1 Mehefin a dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024, byddwn ni’n gwneud rhywfaint o waith cydosod hanfodol ar ein safle yn Garth ger Minffordd.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud rhwng 8am a 5pm ar y ddau ddyddiad, ac mae’n rhan o’r gwaith parhaus o adeiladu’r siafft newydd y mae angen i ni ei chwblhau cyn i ni ddechrau adeiladu’r twnnel newydd.
Byddwn ni hefyd yn gwneud gwaith tywallt concrit ychwanegol fel rhan o’r gweithgarwch hwn rhwng 8am ac 1pm ar y ddau ddyddiad.
Os bydd angen i ni wneud gwaith ar ddyddiau Sadwrn eto yn y dyfodol, byddwn yn rhoi gwybodaeth am natur a chyfnod y gwaith ar y wefan hon, gyda dolen i’r wybodaeth o’r dudalen hafan.
Cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gymuned leol yw ein blaenoriaeth ac rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau unrhyw darfu ar ein cymdogion.
Mae hyn yn cynnwys monitro a chyfyngu ar lefelau sŵn ein gwaith yn ystod y cyfnodau hyn. Gallwn ni gadarnhau na fydd unrhyw lorïau’n symud deunydd sydd wedi’i gloddio oddi ar y safle ar y dyddiadau hyn ac na fydd cerbydau nwyddau trwm yn danfon unrhyw ddeunyddiau y tu allan i’n horiau gwaith.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni wneud y gwaith hwn ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ac ymddiheurwn ymlaen llaw i’n cymdogion am unrhyw anhwylustod neu aflonyddwch a achosir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn neu am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected], neu ffonio 0800 018 1898 rhwng 9am a 5.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na fydd modd i ni ateb eich galwad gadewch neges os gwelwch yn dda, a bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio chi’n ôl.