Mae’r opsiwn a ddewiswyd ac sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer gwella’r amgylchedd yn cynnwys tynnu darn presennol o’r llinell uwchben i lawr a rhoi cebl tanddaear yn ei le. Ar ôl cynnal astudiaethau peirianyddol ac amgylcheddol i ymchwilio i wahanol opsiynau ar gyfer croesi aber afon Dwyryd, daeth ein tîm i’r casgliad mai twnnel tanddaear yw’r dull gorau.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld map o’r llinell drawsyrru bresennol, llwybr arfaethedig y twnnel a lleoliadau’r prif dai twnnel a’r compownd pen selio.

Map trosolwg o ardal y prosiect  

Cafodd y penderfyniad i gael gwared â 3km o’r llinell uwchben a 10 peilon rhwng compownd pen selio presennol y Garth yn y gorllewin a Llandecwyn yn y dwyrain ei groesawu gan randdeiliaid lleol a’r gymuned mewn nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ar draws ardal y prosiect rhwng haf 2016 a diwedd 2022.

Ym mhen dwyreiniol y twnnel, caiff yr adeilad pen twnnel ei gyfuno â’r compownd pennau selio trwy ddylunio gofalus er mwyn lleihau’r effaith. Mae angen compowndiau pennau selio pan fydd darn o gebl tanddaear yn cysylltu â llinell uwchben. Bydd angen adeilad pen twnnel hefyd ym mhen gorllewinol y twnnel.

Roeddem wedi dewis y lleoliadau yn ofalus er mwyn lleihau effaith weledol y seilwaith trydan. Yma eto, gwnaethom gydweithio â’n grŵp o randdeiliaid technegol i ganfod y lleoedd a’r dyluniadau gorau.

Roedd yr ymateb a gawsom i ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ddiwedd 2018 wedi rhoi syniadau i ni ar gyfer dyluniad yr adeiladau pen twnnel a’r mathau o ddeunyddiau a fyddai’n addas. Roedd y mwyafrif helaeth o bobl leol yn ffafrio dyluniad sy’n gweddu â dyluniad adeiladau eraill yn yr ardal, gyda dyluniad mwy beiddgar yn cael ei ffafrio yn y pen dwyreiniol.

Mae bob amser yn bwysig i ni ystyried effaith bosibl cynlluniau newydd eraill arfaethedig i gynhyrchu trydan yn yr ardal. Hyd at Ionawr 2019, roedd hynny’n cynnwys cynllun i ddatblygu atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Ond ddechrau 2019, cyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon eu penderfyniad i atal eu prosiectau niwclear yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys eu hatomfa arfaethedig ar Ynys Môn. Roedd hyn hefyd yn golygu nad oedd angen cysylltiad newydd i’r grid cenedlaethol ar gyfer Wylfa Newydd mwyach.

Mae National Grid wedi dweud erioed y byddai’r prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol yn Eryri yn cael ei weithredu naill ai ochr yn ochr â phrosiect Horizon, unrhyw gynlluniau cynhyrchu ynni newydd a fyddai’n cael eu cynnig yn yr ardal, neu ar ei ben ei hun.

Ar ôl ystyried yr holl adborth gan randdeiliaid a phobl leol, fe wnaethom gyflwyno’r cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd ar 6 Mawrth 2020.

Roedd y cais hefyd yn cynnwys adeiladu’r ddau dŷ pen twnnel newydd a fydd yn rhoi mynediad i’r twnnel ac yn darparu compownd selio pennau ym mhen dwyreiniol y twnnel er mwyn cysylltu’r ceblau â’r llinellau uwchben a fydd yn aros.

Ym mis Gorffennaf 2020, cawsom ganiatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn amodol ar gyflawni nifer o amodau. Roedd y ddau bwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo'r prosiect yn unfrydol.