Beth a wnaed hyd yma yn Eryri, beth sydd ar y gweill a beth fydd yn digwydd wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Hydref 2014
Nodwyd bod llinellau uwch ben sy’n croesi aber afon Dwyryd ger Porthmadog ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd a’r golygfeydd.
Gaeaf 2014 – Hydref 2015
Gwnaeth National Grid ac ymgynghorwyr tirwedd annibynnol ragor o waith technegol ac ystyried cyfraniadau manwl rhanddeiliaid lleol yng Ngwynedd a’r Parc Cenedlaethol. O ganlyniad i hyn, bu modd i’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid flaenoriaethu’r darn hwn o’r llinell drawsyrru ym mis Medi 2015, fel un o bedwar trwy Gymru a Lloegr i symud ymlaen â nhw.
Gwanwyn 2015
Sefydlwyd Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid gan National Grid a phartneriaid lleol. Mae’r sefydliadau isod yn dod i’r cyfarfodydd technegol hyn yn rheolaidd:
- Cadw
- Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd
- Cyngor Gwynedd
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Network Rail
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gaeaf 2015 – Haf 2016
Cynhaliodd National Grid arolygon o amgylchedd, trafnidiaeth ac ecoleg ardal y llinell, y tu mewn a’r tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol, gan drafod gyda rhanddeiliaid technegol ac aelodau o’r gymuned leol.
Hydref – Gaeaf 2016
Bu Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid y prosiect VIP yn ystyried canlyniadau’r arolygon amgylcheddol a pheirianyddol, ymateb y rhanddeiliaid a’r dewisiadau yr oedd National Grid yn eu ffafrio. Argymhellodd y Grŵp y dylai’r prosiect symud ymlaen i wneud rhagor o waith datblygu a fyddai’n cyfrannu at baratoi cais cynllunio.
2017 – 2018
Cynhaliwyd arolygon geotechnegol trwy gydol 2017 a 2018 a helpodd y canlyniadau ni i ddatblygu cynlluniau peirianyddol manwl.
Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol gennym, gyda thri diwrnod o ddigwyddiadau ym Mhenrhyndeudraeth a Thalsarnau.
Gwahoddwyd rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd o Benrhyndeudraeth a’r trefi a’r pentrefi cyfagos i ddigwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd i gael gwybod mwy am ein cynlluniau. Yn ogystal, roedd yr ymgynghoriad hwn yn gyfle i gyflwyno ymateb ffurfiol i’n cynlluniau.
2019 – 2020
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyn ymgeisio a digwyddiad penodol ym mis Rhagfyr 2019 yn swyddfa Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhenrhyndeudraeth. Cyflwynwyd cais cynllunio ym mis Mawrth 2020 ar gyfer safleoedd y ddau brif dŷ twnnel ar bob pen a’r seilwaith cysylltiedig.
Ym mis Gorffennaf 2020, cawsom ganiatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn amodol ar gyflawni nifer o amodau. Roedd y ddau bwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo'r prosiect yn unfrydol.
2021
Cynhaliwyd digwyddiad tendro gennym i ganfod a phenodi’r prif gontractwr i gyflawni’r prosiect gyda National Grid.
2022
Gwnaethom gyhoeddi mai Hochtief UK yw ein prif gontractwr ar gyfer y prosiect a dechrau ar y gwaith arolygu, dylunio’r prosiect yn fanwl a sefydlu’r safle.
2023
Dechreuodd y gwaith adeiladu llawn ym mis Chwefror 2023, pan ddechreuon ni sefydlu prif safleoedd adeiladu’r safle yn Garth a Llandecwyn.
Ym mis Gorffennaf 2023, symudodd tîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri o swyddfeydd yn is-orsaf Trawsfynydd i’w gompownd newydd yn Garth, sef safle lansio’r peiriant twnelu a lleoliad yr offer i brosesu deunydd a dynnwyd o’r ddaear wrth adeiladu’r siafftiau a’r twnnel.
Fe wnaethom hefyd ddechrau creu’r fynedfa ar gyfer ein safle yn Llandecwyn, sef lleoliad un o bendai’r twnnel.
2024
Ar safle Garth, fe wnaethom gwblhau’r morlynnoedd i brosesu’r dŵr a ddefnyddir wrth dwnelu a dechrau adeiladu gweithdai a strwythurau gweithfeydd trin i gefnogi’r peiriant twnelu ar ei daith o dan y ddaear.
Cyn i’r peiriant twnelu gyrraedd, fe wnaethom gynnal cystadleuaeth enwi ar gyfer y peiriant, lle gwahoddwyd disgyblion i gyflwyno ceisiadau wedi’u hysbrydoli gan ffigur arwyddocaol ym meysydd STEM, diwylliant neu lên gwerin Cymru. Cyflwynwyd yr enw buddugol, Buddug, gan Scarlett Katie Lebeau Harvey o Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog ac mae’n golygu buddugoliaeth a deallus.
Cafodd Buddug ei chludo mewn adrannau, ac fe gyrhaeddodd mewn 27 danfoniad gwahanol i gompownd adeiladu safle Garth ym mis Tachwedd 2024.
2025
Ym mis Mai 2025, fe wnaethom lansio Buddug o’i man cychwyn yn Garth, Minffordd i ddechrau ei thaith 3.4km yn twnelu o dan Aber Afon Dwyryd tuag at Landecwyn. I nodi’r lansiad, fe wnaethom gynnal seremoni fendithio ar gyfer y peiriant twnelu, sef ymweliad safle gan aelodau o gymuned Minffordd a digwyddiad i randdeiliaid gyda phartneriaid strategol a rhanddeiliaid y grŵp cynghori.
Erbyn diwedd mis Hydref 2025, roedd Buddug wedi twnelu dros 1,200 metr ac wedi gosod dros 1,000 o gylchoedd, gan gwblhau dros draean o’i thaith i greu’r twnnel lle byddwn yn gosod y ceblau trydan newydd.
Yn Llandecwyn, gwnaethom barhau i adeiladu’r siafft dderbyn lle byddwn yn codi Buddug o’r ddaear ar ôl iddi orffen twnelu ar draws yr aber. Gwnaethom gwblhau’r prif waith trin tir ar gyfer y siafft a gwneud cynnydd da gyda’r gwaith cloddio, a ddatgelodd amrywiaeth o greigiau, gwaddod a hyd yn oed ychydig o glogfeini.
2026-2029
Mae Buddug ar y trywydd iawn i orffen twnelu yn 2026. Byddwn wedyn yn dechrau gosod y ceblau a fydd yn disodli’r llinell uwchben a’r peilonau sy’n croesi Aber Afon Dwyryd.
Yn dilyn hyn, bydd tîm y prosiect yn dechrau gweithio ar adeiladu penty’r twnnel a'r compownd selio pennau a fydd yn cysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben bresennol.
Bydd y gwaith o dynnu peilonau a llinellau uwchben yn cael ei gwblhau yn 2029.