Disgrifiad o'r prosiect
Ym mis Hydref 2018 fe wnaethon ni gwblhau’r gwaith o adnewyddu'r llinell pŵer uwchben rhwng Abertawe a Phenfro.
Fel rhan o’n buddsoddiad yn y rhwydwaith ynni yn ne Cymru, rydyn ni wedi newid y gwaith dur ar ddwy ran o’r llinell, sy'n ymestyn dros 80km. Roedden ni’n rhoi gwybod am ein cynnydd i gynghorau a chymunedau lleol.
Rydyn ni’n dal i weithio’n agos gyda thirfeddianwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod llwybrau troed, caeau a phwyntiau mynediad yn cael eu hadfer i’r un cyflwr ag yr oedden nhw cyn i’r gwaith ddechrau.
Rydyn ni’n fusnes cyfrifol ac rydyn ni wedi bod yn brysur yn y gymuned leol tra roedden ni’n gweithio yn yr ardal. Mae ein Rhaglen Grantiau Cymunedol wedi’i hanelu at sefydliadau ac elusennau sy’n gweithredu mewn ardaloedd lle mae gwaith y National Grid yn effeithio ar bobl leol. Yn ystod ein gwaith fe wnaethon ni ariannu sawl prosiect pwysig a chefnogi grwpiau gwych sy'n helpu i ofalu am eu cymunedau a’u gwella. Fe wnaethon ni hefyd gynnal sesiynau addysg ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd lleol mewn partneriaeth â Mad Science, arbenigwyr addysg STEM.
Hoffen ddiolch yn fawr am eich amynedd tra roedden ni’n gweithio yn yr ardal. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cymunedol drwy ffonio 0800 073 1047. Mae'r tîm ar gael bob dydd rhwng 7am a 7pm.