Glaswyn Wales
Live

The Great Grid Upgrade

Pentir to Trawsfynydd reinforcement / Atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng Pentir a Thrawsfynydd

Wales / Cymru

Prosiect atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng Pentir a Thrawsfynydd

Mae angen i ni uwchraddio rhan o rwydwaith trydan presennol gogledd Cymru, er mwyn symud ynni adnewyddadwy glân o ffynonellau newydd arfaethedig yn y rhanbarth i'r mannau ble mae ei angen.

Mae hyn yn cynnwys creu is-orsaf newydd ym Mryncir a newid ceblau trydan tanddaear ar draws aber afon Glaslyn ger Porthmadog a Thremadog. 

Mae ein gwaith yn rhan o fenter unwaith-mewn-cenhedlaeth i uwchraddio'r grid trydan ledled Cymru a Lloegr, gan roi hwb i gynhyrchu trydan ym Mhrydain.
 

Y newyddion diweddaraf (Ebrill 2024)

Rydym wrthi'n cloddio tyllau prawf cyfleustodau. Mae hyn yn golygu creu 30 i 40 o dyllau prawf i roi darlun clir o'r gwasanaethau sydd eisoes o dan y ddaear yn yr ardal.

Rydym wedi gorffen cynnal arolygon cychwynnol o'r ddaear yn aber afon Glaslyn a'r cylch. Mae hyn wedi'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o natur y ddaear o dan wyneb y tir.

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â holl berchnogion y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno.

Mae'r holl waith gofalus hwn yn golygu ein bod yn dod i ddeall llwybr a dyluniad posibl ein cysylltiad yn well o hyd, fel y gellir ystyried effeithiau posibl a mesurau lliniaru yn fuan yn y broses.

Yn ôl ein hamserlen bresennol, disgwyliwn i'r gwaith adeiladu ddechrau rhwng canol a diwedd 2025.


Gosodwyd y ceblau presennol ddiwedd yr 1970au ac maent yn cael eu defnyddio byth er hynny. Erbyn hyn, maent yn cyrraedd diwedd eu hoes weithredol ac mae angen eu newid er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau trydan i’r ardal leol a’r tu hwnt yn dal yn gadarn.

Yn ogystal, mae angen i ni uwchraddio’r rhwydwaith lleol â cheblau ychwanegol, fel y gallwn drawsyrru ynni glân, adnewyddadwy o ffermydd gwynt newydd y bwriedir eu datblygu oddi ar lannau’r gogledd. Mae’r gwaith hwn yn bwysig er mwyn datblygu system ynni lanach, decach a mwy fforddiadwy sy’n gwasanaethu pawb – gan bweru ein cartrefi, ein trafnidiaeth a’n diwydiant i’r dyfodol.

Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r DU dros y degawd nesaf. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn bodloni swm cyfwerth â 70% o'r galw am drydan yng Nghymru erbyn 2030.

Bu gennym fwriad i wneud gwaith tebyg rai blynyddoedd yn ôl pan oedd Horizon Nuclear Power yn bwriadu datblygu prosiect Wylfa Newydd i gynhyrchu trydan ond nid yw’r cynllun hwnnw’n mynd ymlaen bellach.

Fel o'r blaen, mae’r gwaith hwn ar wahân i’n Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP), sy’n golygu cael gwared â rhan o’r llinell uwchben mewn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri sy'n weledol-sensitif a chladdu ceblau trydan mewn twnnel o dan y ddaear yn ei lle.  Mae hefyd ar wahân i’n gwaith o newid ceblau tanddaear rhwng Gorsaf Bŵer Dinorwig a’n his-orsaf ym Mhentir. Rydym yn cydweithio’n agos ag eraill ar y prosiectau hyn er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gydgysylltiedig ac yn effeithlon.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i'n gwaith symud ymlaen.
 


 

Pentir to Trawsfynydd reinforcement project

We need to upgrade part of our existing electricity network in North Wales, to move proposed clean renewable energy from new sources in the region to where it’s needed.

This includes creating a new substation in Bryncir and replacing underground electricity cables across the Glaslyn Estuary near Porthmadog and Tremadog.

Our work is part of a once-in-a-generation Great Grid Upgrade across Wales and England, playing a big part in plans to boost homegrown power.
 

Latest update (April 2024)

Utilities trial hole work is underway. This involves the creation of 30 to 40 test holes to provide a clear picture of existing services underground in the area.

We have also completed our initial ground investigation survey work in and around the Glaslyn Estuary. This has helped us better understand the character of the area beneath the ground.

We are in regular contact with all landowners who would be affected by the project.

All this careful work is allowing us to continue to better understand the potential routing and design of our connection, so that any potential impacts and mitigation measures can be considered at an early stage.

Based on our current timeline, we expect construction work will start in mid to late 2025.


The existing cables were installed in the late 1970’s and have been in use ever since. They are now coming to the end of their operational life and need replacing to maintain the security of electricity supplies for the local area and beyond.

We also need to upgrade the network locally with additional cables, so we can transmit the clean renewable energy from proposed new offshore wind farms in North Wales. This work is an important part of building a cleaner, fairer and more affordable energy system that serves everyone – powering the future of our homes, transport and industry.

 

Wales and UK Governments have set ambitious targets for developing new homegrown sources of renewable energy at scale over the next decade. Welsh Government wants to meet the equivalent of 70% of Wales’s electricity demand from renewable energy sources by 2030.

We previously proposed similar work some years ago to support generation from Horizon Nuclear Power’s proposed Wylfa Newydd project, which is no longer going ahead.

As before, this work is separate from our ongoing Visual Impact Provision (VIP) Project, which is removing a section of overhead line in a visually sensitive part of Eyri National Park and replacing it with electricity cables buried in a tunnel. It's also separate from our work to replace underground cables between Dinorwig Power Station and our Pentir substation. We are working closely with our colleagues on these projects to ensure our work is coordinated and efficient.

We will keep this web page updated with further information as our work progresses.