Gwaith arall sydd angen i ni ei wneud

Rydym yn cynnig ymestyn is-orsaf Bodelwyddan yng Nghefn Meiriadog, i'r de o Barc Busnes Llanelwy, er mwyn i ni gael ffordd ddiogel o gysylltu’r rhwydwaith trydan â ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd yng ngogledd Cymru.

Gwaith ar wahân ond cysylltiedig yw bod angen i ni hefyd newid sut mae’r llinell uwchben bresennol, rhwng Pentir yng Ngwynedd a Chei Connah yn Sir y Fflint, yn mynd i mewn ac allan o’r is-orsaf ar ôl iddi gael ei hymestyn.

Ar ôl ystyried nifer o opsiynau ynglŷn â sut i wneud hyn, rydym yn cynnig addasu'r trefniant ‘T’ presennol a rhannu'r llwybr unigol presennol yn ddwy. Rydym wedi dod i’r casgliad mai dyma’r opsiwn mwyaf effeithlon sy’n gofyn am y newidiadau lleiaf i’r ffurfweddiad presennol.

Byddwn yn gwneud hyn drwy dynnu un peilon a dwy nenbont. Byddem yn gosod pedwar peilon newydd yn lle’r rhain, yn yr un ardal yn fras i’r de o’r is-orsaf, gyda’r ddau lwybr wedi’u hail-lunio yn mynd i mewn i’r safle ac yn ei adael ar wahân. 
 

Ydych chi’n ymgynghori ar hyn?

Ydym, er bod yr elfen o’r gwaith ar y llinell uwchben bresennol yn dilyn proses gydsynio wahanol, sy’n mynnu ein bod yn gofyn am gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 37 o Ddeddf Trydan 1989. Gofynnir am farn Cyngor Sir Ddinbych a sefydliadau perthnasol eraill fel rhan o’r broses. Gallwch chithau gymryd rhan yn y broses a chyflwyno sylwadau ar y cais am gydsyniad.

Mae’r gwaith ar y llinellau uwchben yn gysylltiedig ag ymestyn yr is-orsaf, felly rydym yn credu ei bod hi’n bwysig cyflwyno’r agwedd hon yn y fan yma er mwyn i bobl allu gweld a deall yr holl waith sydd angen i ni ei wneud.

Newidiadau arfaethedig i’r llinell uwchben bresennol

Cysylltu â ni

Oes gennych chi gwestiwn am ein cynigion neu am ein hymgynghoriad?

Cysylltwch â ni yn y ffyrdd canlynol:

Anfonwch e-bost i: [email protected]
Ffoniwch ni am ddim ar: 0800 915 3596 
Rhadbost: FREEPOST NG SUBSTATION