Dweud eich dweud

Mae ein hymgynghoriad ar yr estyniad arfaethedig i is-orsaf Bodelwyddan yn cael ei gynnal rhwng 10 Hydref a 7 Tachwedd 2023.

Gallwch chi roi eich adborth i ni mewn sawl ffordd:

  • Llenwi ein ffurflen adborth ar-lein isod
  • Llwytho ffurflen adborth i lawr o’r dudalen Llyfrgell Dogfennau ar y wefan hon, ei llenwi a’i hanfon atom drwy e-bost neu drwy’r post

  • Anfon eich adborth drwy e-bost i [email protected]

  • Ysgrifennu atom yn RHADBOST NG BODELWYDDAN

Dewch i gwrdd â ni yn un o’n digwyddiadau

Byddwn ni'n cynnal dau ddigwyddiad lle bydd rhagor o wybodaeth ar gael. Gallwch chi hefyd siarad ag aelodau o’r tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Manylion y digwyddiadau:

  • Neuadd Owen, Cefn, LL17 0EY
  • Dydd Iau 12 Hydref, 15:00-19:00
  • Dydd Sadwrn, 14 Hydref, 10:00-13:00

Os na allwch chi ddod i un o'n digwyddiadau, peidiwch â phoeni - gallwch chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion sydd ar waelod y dudalen hon.


Ffurflen adborth 

Rydym yn croesawu barn pobl ar ein cynigion i gynyddu maint ein his-orsaf ym Modelwyddan, i’r de o Barc Busnes Llanelwy yng Nghefn Meiriadog, er mwyn i ni allu cysylltu ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd â’r rhwydwaith trydan yn ddiogel yng ngogledd Cymru.

Sylwch, mae ein gwaith i ad-drefnu’r llinell uwchben bresennol yn dilyn proses gydsynio wahanol, sy’n mynnu ein bod yn gofyn am gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 37 o Ddeddf Trydan 1989. Gofynnir am farn Cyngor Sir Ddinbych, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon. Byddwch chithau hefyd yn gallu cymryd rhan yn y broses hon, a chyflwyno sylwadau ar y cais am gydsyniad.

Gweld ein polisi preifatrwydd data

Full name
Teitl
Cyfeiriad
CAPTCHA

Cysylltu â ni

Oes gennych chi gwestiwn am ein cynigion neu am ein hymgynghoriad?

Cysylltwch â ni yn y ffyrdd canlynol:

Anfonwch e-bost i: [email protected]
Ffoniwch ni am ddim ar: 0800 915 3596 
Rhadbost: FREEPOST NG SUBSTATION